Cyngor Celfyddydau Cymru | Llenyddiaeth

Llenyddiaeth


Noder: Mae rhai o'r ffurfiau ar gelfyddyd yn yr adran hon o'r wefan yn anghyflawn ar hyn o bryd. Am hynny, dros dro, ni fydd llawer o'r wybodaeth ar y ffurfiau ar gelfyddyd ar gael ychwaith.


Ein Gweledigaeth

Bod llyfrau a llenorion yng Nghymru yn cael y cyfleoedd a'r cyddestun i ffynnu, gan gyrraedd mwy a mwy o bobl yng Nghymru a thu hwnt, a bod cyfleoedd i ymwneud â llenyddiaeth yn lledaenu ac yn amlhau.

Mwy am Lenyddiaeth >>

Digwyddiadau ar y gweill

View all events

Dydd Iau 07 Mehef 2012

Taith Ddarllen y Tongues

Y Boathouse
Rhan o Ŵyl Ffrinj 2012
Talacharn
SA33 4SD

Taith Ddarllen y Tongues Deuddeg llenor a gasglwyd o bedwar ban byd i wneud, plygu a thorri rheolau, mentro a moesoli.

Dydd Sadwrn 23 Mehef 2012

Taith Ddarllen y Tongues

Waterstone’s
Sgwâr y Clos Mawr
Caerfyrddin
SA31 1PR

Taith Ddarllen y Tongues Deuddeg llenor a gasglwyd o bedwar ban byd i wneud, plygu a thorri rheolau, mentro a moesoli.

Dydd Sadwrn 30 Mehef 2012

Taith Ddarllen y Tongues

Gŵyl Lenyddiaeth Dinefwr
Parc a Chastell Dinefwr
Dinefwr
SA19 6RT

Taith Ddarllen y Tongues Deuddeg llenor a gasglwyd o bedwar ban byd i wneud, plygu a thorri rheolau, mentro a moesoli.

Dydd Mawrth 03 Gorff 2012

Gweithdy i artisitiad mewn ysgolion

Swyddfa Cartrefi Cymru
Hen Eglwys y Santes Fair
Stryd yr Eglwys
Tremadog
LL49 9RA

Cwrs ar gyfer artisitiad ar sut i weithio mewn ysgolion / gyda plant a phobl ifanc.

Dydd Llun 16 Gorff 2012

Cynnau'r Fflam

Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd
Harbour Drive
Bae Caerdydd
CF10 4PA

ydd Llun 16 Gorffennaf yn yr Eglwys Norwyaidd, Caerdydd, y lansir y flodeugerdd Fflam pwy ydyw beth bynnag gan ddathlu pob un o' brosiectau Celfyddydau Anabledd Cymru gyda Grym y Fflam.

Astudiaethau Achos

Artistiaid a Sefydliadau

Pori neu chwilio pob proffil
Tudalen 1|2

Oriel Gelf Glynn Vivian

Offers a broad range of visual arts from the original bequest of Richard Glynn Vivian (1835-1910) to 20th Century Welsh art. Founded in 1911, the Gallery is well represented with modern painting and sculpture by Hepworth, Nicholson and Nash alongside Welsh artists such as Ceri Richards, Gwen John and Augustus John. These works complement the dynamic Exhibitions Programme which brings the work of today's artists alive with its sharp, contemporary overview of the arts in a local, national and international context. The Learning Programme focuses on meeting the needs of diverse audiences with an open, engaging and transformative approach to participation.

Untitled User

Cyswllt Celf

Sefydliad celf cymunedol ysbrydol yw Cyswllt Celf, sy’n gweithio yng Ngogledd Powys ac ar hyd y cymunedau ar y ffin ers 1994.

Untitled User

Celfyddydau Anabledd Cymru

Cred Celfyddydau Anabledd Cymru fod gan Bobl Anabl a Phobl Byddar gyfraniad cyffrous a gwerthfawr i'w wneud i'r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn ymroddedig i gydweithio gydag unigolion a mudiadau i ddathlu amrywiaeth celfyddyd a diwylliant Pobl Anabl a Phobl Byddar, a datblygu cydraddoldeb ar draws pob ffurf ar gelfyddyd.

Untitled User

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw'r ganolfan fwyaf o'i math yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau. Mae ganddi raglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol ac fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau. 'Rydym yn croesawu dros 750,000 o ymwelwyr y flwyddyn, gan gynnwys dros 100,000 yn mynychu'r celfyddydau perfformio a gweithgareddau yn nodweddu gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol; 236,000 ym ymweld â'r arddangosfeydd a thros 100,000 yn cymryd rhan yn ein rhaglen addysg a chelfyddydau cymunedol unigryw. Yn 2000 cwblhaodd Canolfan y Celfyddydau ail-ddatblygiad gwerth £4.3 miliwn. Yn 2009 bu'n ymgymryd â datblygiad ychwanegol gwerth £1.75 miliwn a ychwanegodd at gyfleusterau'r Ganolfan nifer sylweddol o stiwdios ar gyfer artistiaid a'r diwydiannau creadigol, sydd hefyd yn gartref i'r sawl sy'n cymryd rhan yn rhaglen artistiaid preswyl uchelgeisiol y Ganolfan. Mae'r datblygiad diweddaraf hwn yn golygu bod gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth amrediad o gyfleusterau sydd heb eu hail ym Mhrydain.

Untitled User

Canolfan Gelfyddydau Pontardawe

Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe wedi ennill ei phlwyf fel un o ganolfannau diwylliannol gorau De Cymru. Mae'r theatr hyfryd yn llwyfannu gwaith proffesiynol o'r radd flaenaf, sy'n amrywio o gerddoriaeth glasurol i ddrama a dawns, llenyddiaeth a theatr plant i'r blws a cherddoriaeth byd. Mae rhywbeth at ddant pawb.

Celf ar y Blaen

Mae Celf ar y Blaen yn sefydliad celf cymunedol sy’n gweithio ar draws ardaloedd Dwyrain Blaenau’r Cymoedd yn cynnwys bwrdeisdrefi sirol Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen. Sefydlwyd Celf ar y Blaen ym mis Ebrill 2008 ac mae ei swyddfa yn Sefydliad Glowyr Llanhiledd ond mae’n trefnu gweithgareddau celf mewn gwahanol ganolfannau ym mhob rhan o’r ardal. Ariannir Celf ar y Blaen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a chaiff ei gefnogi gan bartneriaeth o’r pedwar awdurdod lleol sy’n gysylltiedig.

Untitled User

Canolfan Mileniwm Cymru

Agorodd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae eisoes wedi meithrin enw iddi’i hun fel un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol eiconig y Byd. Gweledigaeth y Ganolfan yw bod yn lleoliad diwylliannol rhyngwladol o bwys ac yn ganolfan i'r celfyddydau perfformio, yn enwog am ei hysbrydoliaeth, ei rhagoriaeth a'i harweinyddiaeth. Amdanom Ni Ein Gweledigaeth Yr Adeilad Y Ganolfan yn cyflwyno Hoffwn Ni Ddiolch i... Gwobrau Ein pobl Yr Amgylchedd Cwestiynau Cyffredin am y Wefan Gwaith Ffeithiau ac Ystadegau Amdanom Ni Agorodd Canolfan Mileniwm Cymru yn 2004 ac mae eisoes wedi meithrin enw iddi’i hun fel un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol eiconig y Byd. Gweledigaeth y Ganolfan yw bod yn lleoliad diwylliannol rhyngwladol o bwys ac yn ganolfan i'r celfyddydau perfformio, yn enwog am ei hysbrydoliaeth, ei rhagoriaeth a'i harweinyddiaeth. Y Ganolfan yw un o ganolfannau mwyaf unigryw a bywiog Ewrop i'r celfyddydau perfformio, a agorwyd gan Ei Mawrhydi'r Frenhines yn 2004. Edrychwch heibio'r muriau allanol anhygoel, sydd wedi ymddangos ar Torchwood a Dr Who, a chewch brofi awyrgylch gyffrous sy'n gwneud i'n hymwelwyr ddychwelyd aton ni dro ar ôl tro. Rydyn ni'n fwy na theatr. Mae'n hymwelwyr yn dod i fwynhau sioeau cerdd gorau'r West End, opera, ballet a dawns gyfoes, hip hop a digrifwyr, arddangosfeydd celfyddydol, gweithdai, diwrnodau hyfforddi, perfformiadau dyddiol rhad ac am ddim yn y cyntedd, teithiau tywys, bariau a bwytai ... mae rhywbeth at ddant pawb.

Llun/Photo: Phil Boorman

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245