Cred Cyngor Celfyddydau Cymru yw bod y celfyddydau'n gwneud gwahaniaeth.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru'n canolbwyntio ar bobl: pobl fel creawdwyr, fel cynulleidfaoedd, fel cyfranogwyr a chydweithwyr. Byddwn bob amser yn ymgeisio i sicrhau ymgysylltiad ehangach â'r celfyddydau.
Mae ein gwaith yn adlewyrchu ein cred:
- yng ngallu'r celfyddydau i weddnewid bywydau pobl, a newid cymunedau
- y dylai pawb yng Nghymru gael mynediad i brofiadau celfyddydol o safon uchel a chael cyfle i gyfranogi yn y celfyddydau a'u mwynhau
- fod angen cefnogi artistiaid er mwyn datblygu eu doniau a chael cyfle i ddatblygu eu gyrfaoedd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am hyrwyddo gwaith y celfyddydau i bawb a mynd i'r afael â'r hyn sy'n eu rhwystro rhag cael profiad o'r celfyddydau, boed yn rhai daearyddol, cymdeithasol, corfforol neu ddiwylliannol.
Gyda hyn mewn golwg mae gan y Cyngor raglenni ac agendâu a fydd yn effeithio ar y gwaith o ddarparu strategaethau'r ffurfiau ar gelfyddyd yn unigol. Dewisiwch rhai o'r themâu isod am ragor o wybodaeth: