Cyngor Celfyddydau Cymru | Cymru Greadigol
Cymru Greadigol

Cymru Greadigol

Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol yn cael eu targedu at artistiaid unigol er mwyn eu datblygu yn ystod cyfnod allweddol yn eu gyrfa.


Dyfarniadau 2011/12

Derbyniodd 22 artist proffesiynol gwerth dros £380,000 o Ddyfarniadau Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn derbynwest yn Galeri, Caernarfon ar 22 Mawrth 2012.

Gweld rhestr lawn o Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2011/12

Dod o hyd i bwy y rhoddwyd Dyfarniadau Llysgennad Cymru Greadigol 2011/12


Ynglŷn â'r Dyfarniadau

Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol o hyd at £25,000, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac arian Loteri, ar gael i artistiaid Cymreig bob blwyddyn. Yn 2011/12, dyfarnwyd dros £380,000 i artistiaid.

Cynnig y dyfarniadau amser i artistiaid arbrofi, dyfeisio a datblygu'u gwaith. Eu nod hefyd yw magu rhagoriaeth trwy gynnig cyfnod o ymchwil a datblygu i rai o artistiaid mwyaf diddorol Cymru.

Artist: Simon Whitehead
Ffurfiau ar Gelfyddyd

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245