Cyngor Celfyddydau Cymru | Addysg a Phobl Ifainc

Addysg a Phobl Ifainc

Rydym eisiau sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc yng Nghymru yn gallu mwynhau’r celfyddydau fel aelodau o’r gynulleidfa, fel ymwelwyr, fel cyfranogwyr ac fel crëwyr.


Yn y celfyddydau, mae gan Gymru hefyd hanes o chwalu rhwystrau ac adeiladu pontydd rhwng pobl wahanol, diwylliannau gwahanol a galluoedd gwahanol. Mae’n rhaid i hyn barhau os yw pobl ifanc am gael gwell dealltwriaeth o’r byd lle maent yn byw.

logo pdf bachCreawdwyr Ifainc - Strategaeth ar gyfer Plant, Pobl Ifainc a'r Celfyddydau

logo pdf bach Tlodi Plant ac Agenda'r Celfyddydau - gwella hygyrchedd


Ein Cynllun Ni

Ein nod yw:

  • cyflwyno’r achos dros blant, pobl ifanc a’r celfyddydau
  • meithrin potensial creadigol
  • helpu gweithgarwch celfyddydol ar gyfer plant a phobl ifanc i fod yn fwy parhaol a chynaliadwy

Rydym am sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn cael cyfle i gyflawni eu potensial creadigol. Mae angen i ni gydnabod bod llawer o ffyrdd gwahanol i blant a phobl ifanc gyflawni eu potensial creadigol ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein cynlluniau yn cynnwys cyfleoedd amrywiol a gwahanol i bobl ifanc archwilio a darganfod eu creadigrwydd a chyflawni’r gorau a allant.


Diogelwch

Rydym am amddiffyn plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed gan gynnig amgylchedd diogel lle gallant ymarfer y celfyddydau. Byddwn yn sicrhau bod yr holl sefydliadau a phrosiectau celfyddydol yn creu lleoedd diogel i bobl ifanc fwynhau’r celfyddydau. Rydym wedi ysgrifennu polisi amddiffyn plant newydd a byddwn yn ei rannu, ynghyd ag arfer gorau, gyda’r holl sefydliadau celfyddydol sy’n gofyn i ni am gyllid.

Theatr yr Urdd
Ffurfiau ar Gelfyddyd

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245