Cyngor Celfyddydau Cymru | Cymryd Rhan

Cymryd Rhan

Mae cymryd rhan yn y celfyddydau yn dod â phobl ynghyd.


Gall gymryd rhan mewn gweithgarwch artistig fod yn fodd grymus o hunanfynegiant. Ac mae pa un a yw’r hyn rydych wedi’i wneud yn dda neu beidio mewn gwirionedd yn amherthnasol. Yr hyn rydych wedi’i wneud yw mynnu eich hawl fel unigolyn creadigol i ddefnyddio’ch dychymyg eich hun, eich llais eich hun, mewn ffyrdd sy’n unigryw ac yn arbennig i chi. Mae’r fath bethau yn bwysig.

Cymryd Rhan yw ein Strategaeth Cyfranogi yn y Celfyddydau ar gyfer 2009-2013.


Cymunedau Celfyddydol

Mae cymdeithas hael, oddefgar a dynamig yn gwerthfawrogi a pharchu creadigrwydd ei holl ddinasyddion. Mae’n gymdeithas sy’n croesawu cydraddoldeb ac yn dathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth, lle bynnag y bo mewn hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, anabledd neu allu. Mae cymaint a all gyfoethogi ac ehangu ein diwylliant.

Dyma pam yr ydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl brofi a mwynhau’r celfyddydau: cael eu hysbrydoli gan ddychymyg a chreadigrwydd, eu cyffroi gan uchelgais ac ysblander, eu cyfareddu gan y newydd a’r anghyfarwydd. Dyma fydd yn helpu i sicrhau bod Cymru yn lle difyr a chyffrous i fyw, gweithio a chwarae.


Ein Rôl Ni

Rydym am:

  • gynyddu’r cyfleoedd i bobl gyfranogi’n weithredol yn y celfyddydau
  • godi ansawdd ymarfer yn y Celfyddydau Cyfranogol
  • helpu’r Celfyddydau Cyfranogol yng Nghymru i fod yn fwy parhaol a chynaliadwy

Mae ein cymorth rheolaidd ar gyfer y Celfyddydau Cyfranogol yn cael ei gyflenwi drwy sefydliadau Celfyddydau Cymunedol yn bennaf, ond hefyd drwy waith cwmnïau cynhyrchu a lleoliadau sy’n cynnal prosiectau addysg ac allgymorth a drwy’r amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni cenedlaethol a lleol, a gefnogir drwy ein cynlluniau a’n cyllid refeniw.

Cymryd Rhan
Ffurfiau ar Gelfyddyd

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245