Wrth i ni gael ein llethu o bob cyfeiriad gan newyddion tywyll am ddirwasgiad economaidd a chynnwrf gwleidyddol, mae'n dda ein bod yn cael ein hatgoffa bod y celfyddydau'n parhau i wneud yr hyn y maent yn arbenigo ynddo - rhoi mwynhad, ysbrydoliaeth a syfrdanu. A gŵyr pawb bod angen y rhinweddau hyn arnom, nawr yn fwy nag erioed.
Mae'n rhy hawdd cymryd y celfyddydau yn ganiataol. Mewn gwirionedd, maent yn rhan bwysig - a chynyddol bwysig - o fywydau pobl. Mae canfyddiadau Arolwg Omnibws Cymru 2008 a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod mwy o bobl nag erioed yn mynychu gweithgareddau celfyddydol ac yn cymryd rhan ynddynt. Ac mae'r Cylchlythyr hwn yn tanlinellu'r ffaith fod amrywiaeth sylweddol o weithgareddau celfyddydol yn digwydd ledled Cymru y gall pobl gymryd rhan ynddynt.
Felly, rhaid i ni gofio bod y celfyddydau o bwys. Gwyddom oll fod diwylliant bywiog a blaengar yn un o rinweddau cenedl greadigol a hyderus. Rydym am sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn profi ac yn mwynhau'r celfyddydau - yn cael eu hysbrydoli gan ddychymyg a chreadigrwydd, yn cael eu cyffroi gan uchelgais a gwledd i'r llygaid, ac yn chwilfrydig o achos pethau newydd ac anghyfarwydd. Ond gwyddom hefyd fod gan y celfyddydau rôl i'w chwarae ar draws sawl agwedd ar fywyd dinesig. Mae ein pryderon bob dydd am ysbryd cymunedol, ein hamgylchedd adeiledig, iechyd ac addysg, y celfyddydau sy'n aml yn clymu pobl a chymunedau at ei gilydd.
Mae hyn yn eithriadol o bwysig wrth ystyried y cyfleoedd creadigol rydym yn eu cynnig ar gyfer ein pobl ifanc. Gall y celfyddydau drawsffurfio'r ffordd y mae plant a phobl ifanc yn dysgu ac yn archwilio'r byd o'u hamgylch. Gall newid y ffodd y maent yn ystyried eu hunain - hyd yn oed eu breuddwydion ar gyfer y dyfodol - yn ogystal â'u helpu i ddatblygu sgiliau bywyd y bydd eu hangen arnynt i oroesi yn y byd gwaith cystadleuol sydd ohoni. Ceir tystiolaeth gynyddol sy'n dangos sut y gall y celfyddydau fynd i'r afael â thlodi ymhlith pobl ifanc, ysbrydoli pobl ifanc gydag uchelgeisiau a hyder newydd, herio diffyg dyhead. Dyma pam ein bod mor falch bod Cyngor y Celfyddydau yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar brosiect Cyrraedd y Nod, gan helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd newydd i gael addysg, hyfforddiant a chyfleoedd creadigol.
Wrth gwrs, nid ydym yn cael ein heithrio rhag y pwysau y mae pob rhan arall ar fywyd cyhoeddus yn ei wynebu. Fe glywodd y rhai a oedd yn bresennol yng Nghynhadledd Flynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru eleni yn y Barri rybudd y Gweinidog yn nodi y bydd yn rhai i'r celfyddydau frwydro i'r eithaf gydag yn angerddol ac yn rymus. Mae'n her yr ydym yn fodlon ei hwynebu. Wedi'r cyfan, bydd Cymru ar ei gwaethaf os na fyddwn yn brwydro, felly rhaid i ni gyd fod yn benderfynol o weld y celfyddydau yn llwyddo mewn ffordd gyffrous a grymus ymhell i'r dyfodol.



