LLYTHYR NEWYDDION Y GWANWYN - CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Gair gan y Golygydd

Mae yna ddatblygiadau cyffrous a niferus i CCC a’i gleientiaid yn barod yn 2008: Menter newydd, ‘Celf ar y Blaen’ (ceir mwy am hyn yn y llythyr newyddion), Dyfarniadau Cymru Greadigol, ail-agor Theatr y Torch yn Aberdaugleddau ar Fawrth 26, Canolfan Crefft Ruthun ym Mehefin a gwaith adnewyddu sylweddol yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn ogystal â phenodi Aelodau Bwrdd y Theatr Genedlaethol i Gymru yn yr Iaith Saesneg.  Dyma ond rhai o’r prosiectau mawr sy’n digwydd ar hyn o bryd.  Gellir gweld swmp y gweithgareddau yn hyd y llythyr newyddion hwn!

Fel arfer, anfonwch eich newyddion ac unrhyw wybodaeth yr hoffech i mi ei chynnwys yn y llythyr newyddion allanol nesaf cyn diwedd mis Mai.

Diolch yn fawr
Joanna Davies
Uwch Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau

Read in English

GAIR GAN Y PRIF WEITHREDWR

Dyma’r darn olaf gen i fel Prif Weithredwr CCC yn ein llythyr newyddion, cyn i mi symud i fy swydd newydd.  Mae’n dod at ddiwedd cyfnod prysur iawn i CCC sydd yn cynnwys Dyfarniadau Cymru Greadigol 2008, cyfarfod cyntaf Bwrdd Theatr Genedlaethol i Gymru yn yr Iaith Saesneg, lansio Celf Gymunedol Blaenau’r Cymoedd, agor arddangosfa ddiweddaraf Artes Mundi ac Academi yn datgelu rhestr hir Llyfr y Flwyddyn.

‘Roedd yn foddhaol iawn mynychu drama Saesneg gyntaf Sherman Cymru, ‘The Almond and the Seahorse’.  Mae’r adolygiadau gwych i’r cynhyrchiad wedi gosod syflaen dda i’w gwaith yn y dyfodol.  Mae’n ganlyniad i gyfnod hir o newid a datblygu ac yn glod i bawb oedd yn ran o’r broses.

Yn yr un modd, ‘roedd cynhyrchiad newydd unigol ‘Diversions’ ar brif lwyfan Canolfan y Mileniwm yn dangos y gellid gwireddu dyheadau’r cwmni ar raddfa a safon sy’n gyfartal â chwmni cenedlaethol.  Ochr yn ochr ag ymddangosiad Bryn Terfel yn ‘Falstaff’ y Cwmni Opera Cenedlaethol, mae’n deyrnged i’r cwmnïau ei hunain ac hefyd i Ganolfan y Mileniwm, ac yn arbennig i Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Rhodri Glyn Thomas, sydd wedi gwneud y buddsoddiad a fydd yn sichrau dyfodol y Ganolfan, sy’n gartref mor addas i’w chwmnïau preswyl.

Ar raddfa llai, am y tro cyntaf eleni, defnyddiodd Gŵyl ‘Agor Drysau’ yn Aberystwyth gartref newydd Cwmni Theatr Arad Goch fel lleoliad.  Dyma gapel a mans sydd wedi'u haddasu i’r Theatr, a bydd y rhai ohonoch sy’n cofio cartref blaenorol y cwmni yn synnu wrth weld safon y cyfleusterau newydd, y pensaernïaeth a’r gwaith celf.  ‘Roedd yr ŵyl ei hun yn gyfle i gwmnïau Cymreig ddangos eu gwaith ochr yn ochr â chwmnïau rhyngwladol.  ‘Roeddwn yn ffodus iawn i weld cynhyrchiad gwych o Ddenmarc o ‘Hamlet’ gyda dau actor a dau fas-dwbl a lwyddodd i hudo’r gynulleidfa fawr.

Mae’n deg dweud bod y celfyddydau yng Nghymru yn dangos gwir fywiogrwydd a safon, a bydd yn her fawr i gynnal a datblygu hyn yn y blynyddoedd i ddod.  Un fantais fawr yn y dasg hon fydd yr arian ychwanegol i Gwmnïau Disglair, a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a thrafodwyd cynigion am yr arian hwn yn y seminarau ymgynhorol ar Strategaethau Drafft y Ffurfiau ar Gelfyddyd a gynhaliwyd ledled Cymru.  Ceir mwy o fanylion yn:
http://www.artswales.org.uk/page.asp?id=224

Mewn cyflwyniad byr fel hyn, mae’n amhosibl gwneud cyfiawnder â ’r holl weithgareddau sy’n digwydd, ac yn anochel, nid wyf wedi sôn am bopeth.

Gallwn fod wedi crybwyll, er enghraifft, cynhyrchiad arbennig Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Y Pair’, neu agoriad gwaith artistiaid Cymru yn Biennale Celf Fenis yn Oriel Davies a'r Chapter.  Gallwn hefyd edrych ymlaen at ail-agor Theatr y Torch a Chanolfan Grefft Ruthun yn y dyfodol agos.

Mae hyn yn fy ysgogi i sôn am ddigwyddiad llai celfyddydol ond ‘run mor bwysig yn y Cynulliad Cenedlaethol, pan gyflwynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad positif iawn am reolaeth cynllun cyfalaf CCC.  Mae’r staff y bum yn cydweithio â nhw yn CCC wedi bod yn gaffaeliad i’r celfyddydau yng Nghymru, ac ni fyddai llawer o’r hyn ‘rwyf newydd ysgrifennu amdano wedi digwydd heb eu harbenigrwydd, eu hymroddiad a’u brwdfrydedd.  Mae’n amserol hefyd i mi dalu teyrnged i’r Cadeiryddion a’r Aelodau Cyngor sydd wedi dod â doethineb, gweledigaeth, ymroddiad ac ysbrydolaeth i’w swyddogaethau.

Ond heb yr artistiaid, yr unigolion creadigol a'r sefydliadau celfyddydol yng Nghymru, byddai ein byd yn un llwm.  Dwi wedi gwerthfawrogi’r cyfleoedd i ddod i adnabod eich gwaith a'i gefnogi.  Mae eich gallu i gyffwrdd, i gwestiynu ac i ysbrydoli yn amhrisiadwy ac ‘rwy’n ddiolchgar ac yn freintiedig i fod wedi gweithio gyda chi.  Edrychaf ymlaen at barhau i brofi a gwerthfawrogi eich gwaith yn y dyfodol.

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

PENODI AELODAU CYNGOR

Adroddwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor bod ceisiadau’r Aelodau Cyngor newydd wedi'u cynnal yn y Cynulliad, ac allan o ugain o ymgesiwyr cryf, cyfwelwyd â chwech unigolyn.  Bydd y Gweinidog dros Ddiwylliant yn cyhoeddi enwau’r tri aelod newydd yn y dyfodol agos.   (mwy am hyn yn y llythyr newyddion nesaf).

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

DYFARNIADAU CYMRU GREADIGOL 2007/08

Ar nos Iau, Mawrth 6 2008, cafodd 16 o artistiaid proffesiynol ar draws y ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC), mewn derbynwest a gynhaliwyd yn The Point ym Mae Caerdydd. Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol yn cydnabod y dalent orau a photensial artistiaid unigol Cymru.

Caiff Dyfarniadau Cymru Greadigol eu hariannu gan CCC ac maent yn cynnig hyd at £25,000 bob blwyddyn, ac yn 2007/08, dyfarnwyd bron i £300,000 i 16 o artistiaid. Mae'r dyfarniadau yn sicrhau bywoliaeth i artistiaid am gyfnod, gan roi'r cyfle iddynt arbrofi, torri tir newydd, a datblygu eu gwaith.
Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol yn cael eu hariannu drwy'r Loteri Genedlaethol ar hyn o bryd, ac maent yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol gan CCC i artistiaid unigol sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Y rhai a gafodd Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2007/08 oedd:

PRIF DDYFARNIADAU CYMRU GREADIGOL: (rhwng £20-25k)
Celfyddydau Cymhwysol a Chrefft: Walter Keeler
Celfyddydau Gweledol: Tim Davies, Anthony Shapland, André Stitt
Dawns: Darius James
Drama: Tim Baker, Kaite O'Reilly
Llenyddiaeth: Menna Elfyn, Robert Minhinnick

DYFARNIADAU CYMRU GREADIGOL: (i fyny at £12k)
Celfyddydau Gweledol: Richard Powell, John Rowley
Cerddoriaeth: Richard James, Jeremy Huw Williams
Drama: Gary Owen, Ian Rowlands
Llenyddiaeth: Richard Gwyn

Yn y derbyniad, bu tua 200 o westeion yn mwynhau band Jazz Paula Gardiner a ffilm ddogfen fer, a gomisiynwyd gan Jon Gower o Boomerang, a oedd yn cyflwyno gwaith ac uchelgeisiau artistiaid y Dyfarniadau Cymru Greadigol.
Am fwy o wybodaeth ac i weld y ffilm ddogfen, ewch i:www.artswales.org.uk/creativewales

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

CELF AR Y BLAEN – MENTER NEWYDD GELF GYMUNEDOL YM MLAENAU’R CYMOEDD

Ar Chwefror 21 2008, cyhoeddodd Rhodri Glyn Thomas, AC, Gweinidog dros Ddiwylliant, fudsoddiad newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru o £125,000 ar gyfer datblygu darpariaeth celfyddydau cymunedol newydd ar draws dwyrain Blaenau'r Cymoedd.

Mae'r sefydliad a fu'n llwyddiannus wedi'i ddewis bellach. Mae 'Celf ar y Blaen' yn bartneriaeth o bedwar awdurdod lleol sy'n cydweithio: Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Tor-faen a Chaerffili. Bydd y buddsoddiad gwerth £125,000 yn darparu cymorth refeniw ar gyfer y fenter hon a bydd yn cael ei ategu gan gymorth mewn da gan bob un o'r awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd fanylion y cais llwyddiannus yn Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful yng nghwmni Cadeirydd CCC Dai Smith a'r Prif Weithredwr, Peter Tyndall, ynghyd â chynrychiolwyr o'r pedwar awdurdod lleol a pherfformiad dawns arbennig gan ddisgyblion o Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful.  I ddarllen mwy cliciwch ar:

www.artswales.org/viewnews.asp?id=777

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

AELODAU BWRDD NEWYDD AR GYFER THEATR GENEDLAETHOL IAITH SAESNEG I GYMRU

Ar Fawrth 4 2008 cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru enwau Aelodau’r Bwrdd ar gyfer y Theatr Genedlaethol Iaith Saesneg i Gymru.

Ym mis Rhagfyr 2007, apwyntiwyd Phil George yn Gadeirydd y sefydliad newydd.  Bydd Aelodau Bwrdd Theatr Genedlaethol Iaith Saesneg i Gymru, yn cydweithio'n agos ar ddatblygiad ethos a strwythur y cwmni newydd o dan oruchwyliaeth y Cadeirydd. Mae'r aelodau bwrdd newydd yn cynnwys:
Chris Ryde - Is-Gadeirydd
Steve Blandford
Jon Gower
Richard Hogger
Gemma McAvoy
Deborah Martell Powell
Judi Richards
Peter Stead

I ddarllen mwy, ewch i:
www.artswales.org/viewnews.asp?id=783
Yn ôl i'r dudalen gynnwys

CYNHADLEDD CCC

Bydd Cynhadledd flynyddol CCC, ‘Croesi’r Ffiniau’ yn cael ei chynnal eleni yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth rhwng 12-13 o Fehefin 2008.  Gwnewch nodyn yn eich dyddiaduron os gwelwch yn dda!

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

CWMNÏAU DISGLAIR

Mae CCC yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (£1.5 miliwn y flwyddyn) i weithredu'r cynigion Cwmnïau Disglair ag amlinellwyd yn Adolygiad Celfyddydau Cymru (Stephens).

Mae gweithdrefnau, canllawiau a ffurflenni bellach ar gael i sefydliadau cymwys wneud cais am ddyfarniad Cwmni Disglair.
Cysylltwch â’ch Swyddog yn CCC i gael cyngor ar sut i wneud cais.

I lawrlwytho’r meini prawf ewch i www.artswales.org/publication.asp?id=636

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

LANSIO GWYDDONIADUR YR ACADEMI GYMREIG

'Roedd adeilad y Senedd o dan ei sang ar Chwefror 1af 2008 gyda gwesteion yn ymgynnull i lansio Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig i'r byd mewn achlysur lansio a gyflwynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Academi.

Mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn brosiect Academi gyda Gwasg Prifysgol Cymru yn gyhoeddwyr, wedi ei ariannu gan grant Loteri sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC). Ddeng mlynedd o waith caled, mae'r llyfr yn gampwaith ac yn adnodd gwerthfawr i bob cartref yng Nghymru.

Agorodd Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC a Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y noson gan gyfarch y gwesteion a'r Golygyddion; Dr John Davies, Nigel Jenkins, Peredur I Lynch a Menna Baines a'u croesawu i'r Senedd, lleoliad addas iawn i ddathlu'r llyfr holl bwysig hwn yn hanes Cymru.

Mae’r Gwyddoniadur yn gwneud ei farc yn barod ar y llwyfan rhyngwladol. Cyflwynwyd y llyfr i Lyfrgell Cyhoeddus Efrog Newydd yn ddiweddar, i nodi Diwrnod y Llyfr gan y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, yn ystod ei ymweliad masnach i’r Unol Daleithiau.

I ddarllen mwy ewch i:

www.artswales.org/viewnews.asp?id=769

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

CELFYDDYDAU RHYNGWLADOL CYMRU

Marc Rees

Bydd cytundeb partneriaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (CRC) a’r Cyngor Prydeinig yn cael ei arwyddo ym Mawrth 2008.
Bydd strategaeth CRC yn cael ei gyhoeddi i ymgynghoriad cyhoeddus trwy’r wefan ym mis Mawrth.

Bydd gallu’r bartneriaeth i ddatblygu, rhannu a throsglwyddo gwybodaeth ac arbenigedd rhwng rhwydweithiau lleol a rhyngwladol yn ogystal â’i allu i godi arian newydd i waith rhyngwladol, yn allweddol i’w lwyddiant dros gyfnod y strategaeth.  Felly hefyd, yr elfen o ragoriaeth.

Blaenoriaeth CRC dros y bum mlynedd nesaf fydd datblygu iadeiledd sy’n caniatau i artistiaid a sefydliadau celfyddydol i ennill cyfloedd rhyngwladol. 

I helpu cyrraedd y strategaeth newydd, bydd y Cyngor Brydeinig yn creu swydd newydd yng Nghaerdydd.  Bydd CCC a’r Cyngor Brydeinig yn budsoddi mewn creu desg ddiwylliannol Ewropeaidd, wedi ei lleoli yn CRC i helpu roi gwybodaeth i artistiaid a sefydliadau celfyddydol Cymru am gyfleoedd Ewropeaidd. 

Mae’r Cyngor Brydeinig hefyd yn ymgynghori ar ei strategaeth gelfyddydau newydd ac yn awyddus i dderbyn barn ledled y DU.  Mae’r cyfnod ymgynghorol yn gorffen ganol mis Ebrill.  Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan: http://www.britishcouncil.org/arts-consultation.htm 

Gweithiodd CRC a CCC gyda’r sector ddawns i godi ymwybyddiaeth ymarfer dawns annibynnol yng Nghymru yn y ‘British Dance Edition’ yn Lerpwl yn ddiweddar.  Perfformiodd cyn-enillwyr Dyfarniadau Cymru Greadigol, Marc Rees a Tanja Råman yn ystod y digwyddiad a ddenodd sylw wrth hyrwyddwyr a rhaglennwyr ledled y byd. Ceir cyhoeddiad proffil am Dawns o Gymru ar y wefan: www.wai.org.uk/dance

Mae’r artist Ceramig, David Cushway, wedi derbyn cyfle breswyl yn Philadelphia fel rhan o gytundeb tair blynedd rhwng CRC a The Clay Studio. Lleolwyd David Cushway ar hyn o bryd yn Stiwdio Fireworks, Caerdydd.
Bydd y drydedd preswylfa yn cael ei hysbysebu’n fuan ar wefan CRC:  www.wai.org.uk/news232

Mae tymor Québec/Cymru yng Nghymru 2008 yn ddathliad o bedwar can mlwyddiant Quebéc.  Eleni hefyd mae CRC a phartneriaid yn dathlu deng mlynedd o gydweithio celfyddydyol.  Am fwy o wybodaeth ewch ar: www.wai.org.uk/quebec

Bydd Ian Rowlands, (ennillydd Dyfarniad Cymru Greadigol 2008), yn mynychu cyfnod breswyl yn y Lark Theatre yn Efrog Newydd rhwng Mai a Hydref 2008 lle fydd ei ddrama, ‘Blink’ yn cael ei pherfformio am dair wythnos fel rhan o “Brits off Broadway” ym Mai 2008.  Darllenwch mwy ar: www.wai.org.uk/news245

Gwnaeth wyth o artistiaid o Tseina arddangos eu gwaith fel rhan o Wythnos Cymru yn Chongqing, cyn iddynt ddechrau cyfnod breswyl o fis mewn nifer o sefydliadau Cymreig.  I ddarllen mwy ewch ar: www.wai.org.uk/news239

Mae Celtic Connections & Showcase Scotland 2008 yn dathlu amrywiaeth o gerddoriaeth a diwylliannau Celtaidd.  Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i chi gwrdd gyda chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a sefydliadau celfyddydol eraill.
Mae CRC yn gwahodd cerddorion a chwmnïau recordio o Gymru i ddafnon enghreifftiau o’u gwaith i’w hystried ar gyfer 2009: www.wai.org.uk/news241

‘Roedd cerddoriaeth o Gymru yn ran o gynhadledd Cerdd a Chyfryngau, ‘South by Southwest’ (SXSW) yn Austin, Texas ar ddechrau’r mis.  Dyma’r platfform mwyaf i gerddoriaeth o gwmpas y byd ac ‘roedd saith grwp o Gymru yn perfformio: Neon Neon (Gruff Rhys o Super Furry Animals a’r Cynhyrchydd Americanaidd, Boom Bip), Cate Le Bon, People in Planes, The Victorian English Gentlemens Club, Christopher Rees a Los Campesinos!  Am fwy o wybodaeth, darllenwch www.wai.org.uk/news247

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

CYMRU YN BIENNALE CELF FENIS

"Fel ‘na mae"

Yn dilyn llwyddiant cyfnod yn Oriel Davies, Y Drenewydd, mae’r cyflwyniad yng Nghymru o arddangosfa Cymru yn Biennale 2007, Fel ‘na mae, sy’n cynnwys gwaith gan Richard Deacon, Merlin James a Heather ac Ivan Morison nawr i’w weld yn Oriel Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, gyda’r dyddiad cau wedi ei ymestyn hyd at ddydd Sul Ebrill 13eg.

Bu nawdd gan Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, yn ogystal â chymorth Oriel Davies a Chapter, yn fodd i Gyngor y Celfyddydau ddod a phrofiad o’r arddangosfa yn Fenis i gynulleidfa ehangach yma yng Nghymru.  Hyrwyddwyd y rhaglen ymhellach drwy sgyrsiau â’r artistiaid a’r curadur, yn ogystal a thrip arbennig i Goed Gwynant yn Arthog ar ddiwrnod oer ond he ulog ym mis Rhagfyr i weld ‘Pleasure Island’, chwaer gerflun i ‘Fantasy Island’ a adeiladwyd gan Heather ac Ivan Morison yn nghardd yr Ex-Birreria ar Giudecca, cartref pafiliwn Cymru yn Fenis am y tair Biennale diwethaf.   Mae Pecyn Adnoddau Addysg, wedi ei ariannau gan Gyngor y Celfyddydau, Oriel Davies a Chapter, wedi ei baratoi ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 i’w ddefnyddio fel sail i drafod celfyddyd gyfoes, gyda awgrymiadau am weithgareddau ymarferol wedi eu seilio ar yr arddangosfeydd yn Fenis a Chymru.  Gellir ei lawrlwytho o wefan Cymru yn Fenis.

Yn ystod chwe mis y Biennale bu myfyrwyr celf ac artistiaid ifanc o Gymru yn cynorthwyo gyda’r gwaith pwysig o orychwilio’r arddangosfa.  Yn ogystal a gwarchod yr arddangosfa roeddynt hefyd yn lysgenhadon dros Gymru i ymwelwyr o dros y byd.  Maent wedi cael elw hir dymor pellach o ran eu gyrfaeodd o ganlyniad i nawdd gan Arts & Business Cymru a’u galluogodd i fynychu cwrs castio efydd yn Castle Fine Arts yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant a threulio diwrnod yn Chapter pan oedd yr arddangosfa yn cael ei gosod yna.

Yn Castle Fine Arts, o dan oruchwyliaeth y Cyfarwyddwr, Chris Butler, buont yn dysgu am ddulliau castio a’r amrywiaeth eang o waith sy’n cael ei wneud yn y ffowndri, yn ogystal â gweld efydd toddedig yn cael ei dollti, cyn cael y profiad o wneud eu modelau cwyr eu hunain ar gyfer castio.  Roedd y cwrs hefyd yn rhoi golwg ar sut y caiff cerfluniau cyhoeddus eu gwneud a sut y newidir y raddfa o’r macquette i’r cerlfun mawr gorffenendig.  I gloi’r cwrs cafwyd ymweliad a thref Corwen i weld y cerflun newydd o Owain Glyndwr wnaethpwyd yn Castle Fine Arts.

Yn ystod y diwrnod yn Chapter, cafwyd sgwrs ddarluniol gan Michael Nixon, Comisiynydd Cymru yn Fenis ac i ddilyn cafodd y myfyrwyr gyfle i wylio cruadur yr arddangosfa, Hannah Firth, yn gweithio gyda Merlin James yn trafod y penderfyniadau pwysig i’w gwneud tra’n dethol ei waith a phenderfynnu ar eu lleoliad.  Cafodd pawb gymryd rhan yn y drafodaeth a helpu gyda ’r gwaith ymarferol yn hongian y paentiadau.  Fe ysgrifennodd un o’r myfyrwyr, Melissa Hinkin, sy’n astudio cerflunwaith yn Ysgol Gelf Wimbledon, am y profiad ‘ Rwyf wedi cael cyfle i osod darnau o waith o’r blaen ond heb i’r artist fod yn bresennol.  Roedd cael Merlin yn yr oriel yn pwysleisio’r berthynas bwysig rhwng y curadur a’r artist.  Roedd yn ffantastig siarad gyda’r ddau ohonynt; am eu penderfyniadau a’r modd y bu iddynt osod y gwaith yn yr arddangosfa yn Fenis ac yng Nghymru’. O ganlyniad i’r cwrs noddwyd gan Arts & Business Cymru bydd Melissa, a ddaeth yn gyfarwydd i ni drwy gynllun rhagorol Curaduron Ifanc Oriel Davies, yn mynychu cyfnod profiad gwaith yn Castle Fine Arts.

Ym mis Ionawr 2008 fe wnaed ynrwymiad ffurfiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i fynychu tair Biennale pellach o 2009 ymlaen.  Bydd CCC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a phartneriaid eraill ar gyflwyniad Cymru yn y Biennale.

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

NEWYDDION ACADEMI

Menna Elfyn

Wedi glanio’n ôl yn saff o Felffast, lleoliad cynhadledd lwyddiannus Academi eleni, mae’n amser carlamu ymlaen at raglen lawn o weithgareddau llenyddol yn y gwanwyn.  Mae’n gyfnod ardderchog i nifer o awduron Cymru – gydag o leiaf 40 ohonynt yn dathlu y tymor hwn.

Menna Elfyn, Robert Minhinnick a Richard Gwyn sydd ymhlith y rhai a fydd yn derbyn dyfarniadau Cymru Greadigol eleni – cyfle gwych iddynt arbrofi gyda’u crefft am gyfnod sylweddol.  Cyhoeddodd yr Academi enwau’r 18 a fydd yn derbyn ysgoloriaethau i awduron.  Dyma’r dull mwyaf effeithiol o gynorthwyo awduron - maent yn prynu amser a chyfleoedd gwerthfawr mewn byd lle mae’r rhain yn fwyfwy prin. Mae ysgloriaethau’n ffurf gyfoes ar noddwyr yr Oesoedd Canol.

Yr wythnos hon hefyd cyhoeddwyd enwau’r 20 awdur sydd wedi llwyddo i gyrraedd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008. Cyhoeddir y Rhestr Fer yng Ngŵyl y Gelli ar 26 Mai, ac agorir yr amlenni euraidd i weld pwy sydd wedi cipio’r brif wobr o £10,000 mewn seremoni fawreddog yn yr Hilton yng Nghaerdydd ar 1 Gorffennaf.  I ddarllen mwy ewch i:
www.artswales.org/viewnews.asp?id=801

Cyn hir cyhoeddir enw Bardd Cenedlaethol Cymru newydd, wedi i gyfnod yr Athro Gwyn Thomas ddirwyn i ben ddiwedd Mawrth. Cefnogir cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a Gwyn Thomas oedd yr ail fardd i gymryd y swydd ar ôl cyfnod Gwyneth Lewis yn 2005-6.

Bu cyfnod Gwyn Thomas yn hynod llwyddiannus. Ysgrifennodd nifer o gerddi cyhoeddus am bynciau mor eang â’r Uwch Swyddog Heddlu Richard Brunstrom i gerdd er cof am Ray Gravell a ddarlledwyd ar ddiwedd rhaglen arbennig o Sports Wales. Bu hyd yn oed yn destun cwestiwn ar y rhaglen gwis ‘The Weakest Link’.

Cynhelir dau ddigwyddiad i groesawu’r bardd newydd – yng Nghapel Moreia, Llanystumdwy ar 16 Ebrill ac yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd ar 18 Ebrill. Croeso i bawb i’r digwyddiadau hyn.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.academi.org neu cysylltwch â post@academi.org / 029 2047 2266

ASIANTAETH FFILM CYMRU

Patrick Bergin

‘Mae ‘Nocturne’, ffilm nowedd newydd ag ariannwyd gan Asiantaeth Ffilm Cymru yn saethu’n hwyrach eleni yn Ne Cymru. Mae’r ffilm yn adrodd stori, Caleb, dyn sydd ar goll yn gyfan gwbl. Un noson, mae’n darganfod ei fod wedi glanio mewn byd rheibus a rhyfel cudd lle mae’n rhaid iddo achub ei hun rhag Sect y Silure llofruddiaethus.

Dyma ffilm nodwedd gyntaf yr ysgrifennwr/cyfarwyddwr, Christopher Nurse. Mae Christopher wedi ysgrifennu nifer o ffilmiau byrion safonol cyn mynd ati i ysgrifennu ‘Nocturne’.  Yr Uwch Gynhyrchwyr yw Paul Higgins a Huw Pennallt Jones.  Mae’r cast yn cynnwys Patrick Bergin, Richard Brake a Joseph Milson.

Mae’r Asiantaeth Ffilm Cymru hefyd wedi lawnsio gwefan newydd sbon lle gellid ddarllen holl newyddion y sefydliad a byd ffilm yng Nghymru: www.filmagencywales.com.  Gall ymwelwyr i’r wefan lawrlwytho ffurflenni cais am arian at eu prosiectau a dysgu mwy am y prosiectau ag ariannwyd hyd yn hyn.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Lisa Jenkins, Swyddog y Wasg, Asiantaeth Ffilm Cymru. 029 20 467480 neu ewch ar: www.filmagencywales.com

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

GAIR O’R GOGLEDD 

Heather & Ivan Morrison

Gwnaeth y Gweinidog Diwylliant, Rhodri Glyn Thomas, ymweld â Chanolfan Grefft Ruthun yn ddiweddar i weld y gwaith adnewyddu sylweddol sy’n digwydd yno ar hyn o bryd.  Mae’r prosiect adnewyddu o £4.4 miliwn yn cynnwys £3.1 miliwn o grant Loteri Cyfalaf wrth CCC, (un o’r grantiau mwyaf o’i bath yng Ngogledd Cymru), a bydd y ganolfan newydd yn agor yn ystod Haf 2008.

Hefyd ar y 25 o Ionawr, aeth Canolfan Grefft Ruthun ag arddangosfa o 13 o grefftwyr yn y Celfyddydau Cymhwysol o Gymru a’r DU i Lundain fel rhan o ‘Collect 2008’, arddangosfa arbennig yn Amgueddfa’r V&A  a oedd yno tan 29 o Ionawr.

Cafwyd dangosiad cyntaf opera prin i lawnsio Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop ar Ddydd Calan, yng Ngogledd Cymru ym mis Rhagfyr y llynnedd.  ‘Roedd yr opera, darn trasig-gomig gan Donizetti - Emilia di Liverpool wedi ei hysgrifennu yn 1824 a chafodd ei hymarfer gan gerddorion a chantorion o bob cwr o Ewrop ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen.  Dewiswyd y Pafiliwn fel man ymarfer oherwydd ei enw da ym myd opera clasurol a cherddoriaeth gorawl. 

Mae Carys Hughes o Aberdaron yng Ngwynedd, a dderbyniodd ddyfarniad HRH i astudio yn Academi Rhyngwladol y Llais yng Nghaerdydd gyda Denis O’Neill, wedi cipio ei phrif ran gyntaf gydag Opera Cenedlaethol yr Alban.

Dewiswyd Bedwyr Williams i fod yn ran o Fenter Ymchwil Prifysgol Massey,  Litmus Seland Newydd, One Day Sculpture. Mae’r ugain prosiect, oll â’u curaduron eu hunain, i’w llwyfannu ar draws y wlad o Mawrth 2008 hyd at 2009.

Cymerodd artistiaid Gogledd Cymru John Brown a Wanda Zyborska ran mewn sioe, ‘Body’ a guradwyd gydag Antonio Manfredi yn Amgueddfa Gelf Gyfoes Casoria  yn Napoli, yr Eidal.

Mynychodd CCC Ddigwyddiad Dosbarthwyr Loteri Cymru yn Sir Fôn ar y 12 o Hydref 2007. 
Apwyntiwyd Merville Jones yn Gyfarwyddwr Artistig North East Wales Dance. Bu Merville yn ddawnsiwr gyda Phoenix Dance yn Leeds.

Tim Baker

Apwyntiwyd y Cyfarwyddwr arobryn, Tim Baker, yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru o 2008, ac yn ogystal enillodd Tim un o brif Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2008 yn ddiweddar (wele newyddion Dyfarniadau Cymru Greadigol).

Apwyntiwyd Sioned Webb fel olynydd Elinor Bennett yn Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd Williams Mathias, yn Galeri, Caernarfon.

Gwnaeth y ffotograffydd byd enwog, Phillip Jones Griffiths, gyfarfod â hapddalwyr posibl yng Nghaernarfon ynglŷn â lleoli ei gasgliadau yno yn y dyfodol agos. 

Symudodd arddangosfa Venice Biennale i Oriel Davies yn y Drenewydd.  Mynychodd y Gweinidog Diwylliant y rhagolwg breifat.
Enwebwyd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Galeri Caernarfon, yn Ddynes Gymraeg y Flwyddyn (Welsh Woman of the Year) (Categori Gelf).

Agorodd yr Helfa Gelf Hydref 2007 gyda thaith VIP o gwmpas stiwidios nifer o artistiaid.  Eleni, ‘roedd y prosiect stiwdio agored uchelgeisiol nid yn unig yn cynnwys artistiaid o Gonwy ond o Sir Ddinbych hefyd.  Bu’n gymaint o lwyddiant, fel bod yna gynlluniau nawr i’w ymestyn i Sir y Fflint yn 2009. 

Carol Royle "The Cherry Orchard"

Derbyniodd Clwyd Theatr Cymru ganmoliaeth y beirniaid am gynhyrchiad Terry Hands o The Cherry Orchard’.  ‘Roedd y cynhyrchiad yn marcio penblwydd y Theatr yn ddeg oed.

Enillodd Sir y Fflint arian tuag at brosiect gelf gymunedol ar thema amgylcheddol.
Derbyniodd yr artistiaid gweledol, Maria Hayes, Helen Grove-White, Ian Phillips, Jonathan Brier a Rebecca Gould a’r ddawnswraig, Uma O’Neill, ddyfarniadau y chwarter yma.

Cafodd Age Concern ddyfarniad i gomisiynu drama newydd a fydd yn cael ei pherfformio yn y Stiwt, Rhos, Clwyd Theatr Cymru a’r Unity Theatre yn Lerpwl fel rhan o weithgareddau Lerpwl 08.
Mae rhaglen o flwyddyn sy’n cynnwys gweithgareddau ymestynol ac addysgiadol yn digwydd yng Nghanolfan Argraffu Rhanbarthol, Coleg Ial, Wrecsam.

Derbyniodd Gerddorfa Siambr Cymru arian tuag at gyfres o weithdai a chyngerddau yn NEWI, Wrecsam.  Bydd hyn yn arwain at gytundeb o dair blynedd rhwng y coleg a’r gerddorfa i gefnogi ei gwaith y tu hwnt i gyfnod ariannu CCC..
Cynhaliwyd Gŵyl Gynganeddu Tŷ Newydd rhwng y 16-18 o Dachwedd 2007.
Cafodd Dawns i Bawb grant hyfforddi i’w staff llawrydd a’r tîm o ddawnswyr. 
Dathlodd Gŵyl Gelfyddydau Caergybi ei phenblwydd yn 30 yn Hydref 2007 gyda chyngerddau gan y Gerddorfa Siambr Ewropeaidd a Llŷr Williams.

Mae Theatr Bara a Caws yn cyflwyno ei drama newydd, ‘Y Gobaith a’r Angor’ rhwng Mawrth 26 i Ebrill l9.  Mae’r ddrama wedi ei gosod mewn tafarn mewn tref fach ddi-nod yn y gogledd. Mae’r awdur, Dylan Rees, sy’n sgwennu i’r cwmni am y tro cyntaf, yn cyflwyno criw o gymeriadau trist a ffraegar wrth iddynt rygnu bod o ddydd i ddydd o dan gysgod anobaith a phwysau beunyddiol byw mewn byd sy’n gwegian.  I ddarllen mwy ewch ar: www.caernarfononline.co.uk/baracaws/

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

GAIR O’R GORLLEWIN

Tymor prysur arall gyda’r uchafbwyntiau canlynol:

Cynhaliwyd ‘Cyfansoddwr Ifanc Dyfed’ mewn cydweithrediad gyda Theatrau Sir Gâr, yn Theatr y Glowyr yn Rhydaman, lle cyflwynodd Rhodri Glyn Thomas ei weledigaeth am y celfyddydau.  A dathlodd Gŵyl Dylan Thomas ei phenblwydd yn ddeg oed gyda nifer o ddigwyddiadau yn Abertawe a’r cylch. Yng Ngaleri Glynn Vivian, gwelwyd yr arddangosfa heriol a diddorol, “Displaced: Celf Cyfoes o Colombia”, a guradwyd ar y cyd gan Karen MacKinnon ac a ddenodd cryn sylw wrth y wasg cenedlaethol.  Ac fe ddenodd Gŵyl Abertawe gynulleidfaoedd swmpus, blwyddyn cyn ei phenblwydd yn drigain oed. 

Digwyddiadau eraill o ddiddordeb fyddai: dathliadau chwarter canrif Theatr Theatr na n’Og’, lawns Amgueddfa Gymunedol Rhaeadr a’r Ardal a gyflwynwyd gan CARAD ac ‘Undercurrents Foundation’ a gyflwynodd Gŵyl Ffilm Ddogfen, “Beyond TV”, yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin.
Flora's War


Mae uchafbwyntiau Celf Tu Allan i Gaerdydd yn cynnwys Cwmni Theatr Cymru ar daith gyda “The Servant of Two Masters “ gan Carlo Goldoni, gyda Les Dennis a gafodd adolygiadau campus a chynhyrchiadau Cwmni Theatr Torch o “Flora’s War” ag ysgrifennwyd gan Tim Baker.  Lawnsiodd Theatr Mwldan dau cyd-gynhyrchiad yn cynnwys sioe Catrin Finch a Cimarron, a “The Eagle Dances”.

Mae Dr Heike Roms, yn parhau gyda’i chyfres o drafodaethau i recordio hanes llafar celf berfformio yng Nghymru - “What’s Welsh for Performance?” – cyfres o ddwy flynedd o ddigwyddiadau am yr artistiaid allweddol a siapodd y cyfrwng hwn yng Nghymru ers 1968. 

Cafodd Theatr Felinfach arian tuag at ddigwyddiad/seminar fydd yn edrych ar ddiwylliant y cenhedloedd Celtaidd.  Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal am yn ail gan y gwledydd Celtaidd yn y DU ac yn cael ei ariannu’n hanesyddol gan y Cyngor Celfyddydau perthnasol.

Gwnaeth nifer o sefydliadau bychan ennill arian wrth CCC i gefnogi eu rhaglenni blynyddol yn cynnwys: Cymdeithas Cymrodorion Abergwaun a’r Cylch, Cymdeithas Gorawl Llanelli, Cymdeithas Gelf Oystermouth, Clwb Gerddoriaeth Llanbedr Pont Steffan, Gŵyl Tŷ Ddewi, Clwb Cerddoriaeth Llanbedr Pont Steffan, Gŵyl Llanandras, Neuadd Les Glowyr Ystradgynlais aJazzland yn Abertawe.
Cafwyd cefnogaeth dda i brosiectau celf cymhwysol a gweledol, gyda phwyslais ar waith addysgiadol a galeri.  Derbyniodd y canlynol gefnogaeth wrth CCC:  Engage, Amgueddfa Ceredigion, Mission Gallery, Oriel Myrddin, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Oriel Mwldan a Locws International.

Cafodd Cyngor Sir Abertawe arian am ei waith sylweddol gyda phobl ifanc ac artistiaid sydd wedi ei ddethol yn fodel ymarfer da. Derbyniodd Castell Nedd Port Talbot gefnogaeth tuag at ei raglen swmpus o weithgareddau arbennig sy’n targedu grwpiau difreintiedig mewn ardaloedd anghenus.

Cynhaliodd Gŵyl y Gelli ei thrydedd gŵyl yng Nghartagena, Colombia rhwng y 24-27 o Ionawr 2008.  ‘Roedd yn llwyddiant ysgubol. Am fwy o wybodaeth ewch ar:  www.artswales.org/viewnews.asp?id=763

Cyflwynodd Mission Gallery, Abertawe ei sioe gyntaf yn 2008, 'Bad Company May Need Positive Advertising' gan yr artist o Gastell Nedd, Neale Howells.  Cafodd Neale ei arddangosfa unigol gyntaf yn y Galeri yn 1997. Derbyniodd Ddyfarniad Cymru Greadigol o CCC y llynnedd ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio gyda chyfrwng newydd.  I ddarllen mwy ewch ar: http://www.artswales.org/viewnews.asp?id=754

Arad Goch

Cynhaliodd Arad Goch hefyd ei Gŵyl Ryngwladol Gymreig i Gynulleidfaoedd Ifanc rhwng y 11-15 o Fawrth 2008 a chroeshawi pelen Loteri enfawr i’w mynedfa, fel rhan o ymgyrch Achosion Da y Loteri Genedlaethol.  I ddallen mwy ewch ar:www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=784
www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=795

Lawnsiodd Galeri Oriel Davies, y Drenewydd y cynllun Curaduron ifanc ym mis Chwefror 2008 a fydd yn rhedeg tan Rhagfyr 2010.  Mae’r cynllun yn galluog i pobl ifanc rhwng 15-24 oed i gymryd rhan mewn trefnu arddangosfa.  Bydd y Curaduron ifanc yn dysgu am bob agwedd o waith curadur gan ddangos a threfnu o leiaf un arddangosfa yn yr Oriel ym mis Awst 2008.

I ddarllen mwy ewch ar:

www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=780

Volcano Theatre Company -
"What Am I Doing Here"

Mae cynhyrchiad newydd Cwmni Theatr Volcano, “What Am I Doing Here?” yn digwydd rhwng 25-29 o Fawrth lle bydd bws yn gadael Canolfan Gelf Taliesin am 7.30pm i’ch cludo i leoliad dirgel...

Bydd ‘What am I Doing Here’ yn brofiad unigryw i’r gynulleidfa. Mae’n siwrne ddirgel o ganu, fideo, a thystiolaeth perfformiad.  Mae’r lleoliad dirgel ei hun yn gyfoethog mewn ystyr hefyd –yn llawn o bethau sy’n cysylltu Abertawe gyda’r byd. Darllenwch mwy ar: www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=805

Mae Theatr y Torch yn Aberdaugleddau hefyd yn brysur yn paratoi ar gyfer lawnsio’r theatr ar ei newydd wedd, (yn dilyn buddsoddiad sylweddol o grant Cyfalaf Loteri oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru). Mae’r Torch yn cyflwyno ei drama newydd, ‘The Hired Man’ ar y 26 o Fawrth yng nghwmni’r Gweinidog Diwylliant, yr Athro Dai Smith ac eraill ac yn ogystal yn agor ei galeri newydd gydag arddangosfa gan yr artist lleol, Jean Thomas.  Mae’r tocynnau i’r ddrama oll wedi eu gwerthu’n barod, ond gobeithir fydd modd ychwanegu mwy o sioeau i’r rhaglen.  Darllenwch mwy ar: www.artswales.org/viewnews.asp?id=802

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

DEIALOG O’R DE

Matthew Parish

Gwnaeth yr actor ifanc o Aberdâr, Matthew Parish, chwarae’r brif rhan yng nghynhyrchiad teithiol y Barbican o Hergé’s Adventures Of Tintin’ yng Nghanolfan y Mileniwm ym mis Tachwedd.  Bydd Tintin yn destun cyfres o ffilmiau gan Speilberg a Peter Jackson yn 2009, ond am nawr, ‘roedd y gynulleidfa’n hapus iawn i fwynhau’r fersiwn lwyfan.

Yn dilyn hyn, cyflwynodd y New Theatre ‘A Comedy of Errors’ gan y RSC, oedd yn dangos pam fod cymaint o enw da gyda’r cwmni hwn.  

Perfformiwyd cynhyrchiad Music Theatre Wales, 'Julie' (ag ysgrifennwyd gan Philippe Boesman, ac a seiliwyd ar ‘Miss Julie’ gan Strindberg), yn y Linbury Studio yn y Royal Opera House ym mis Tachwedd gan ennill adolygiadau camnoladwy iawn wrth y Guardian a BBC Radio 3. Bu’r opera drawiadol hon yn y New Theatre tan ddechrau Rhagfyr y llynnedd. 

Mae’r thema Shakespeare yn parhau pan gyflwynodd Ysgol Stanwell, Penarth wythnos o berfformiadau o bum drama gan y bardd.  ‘Roedd y perfformiadau yn arbennig o dda ac yn crisialu enw’r ysgol fel canolfan ddrama o safon.

Cyflwynodd y Sherman golwg gyntaf o ‘Cof y Corff / Muscle Memory’ gan Eddie Ladd, darn gwreiddiol a gomisiynwyd gan ROH2 yn y Royal Opera House.  Cyflwynwyd y darn yn Gymraeg am un noson ac yn y Saesneg y noson ganlynol gan ennyn canmoliaeth mawr gan deithio i bedair theatr arall ar draws Cymru.

Gwelodd fis Rhagfyr wythnos o berfformiadau yn Rubicon gyda’r dawnswyr yn dod at ei gilydd i rannu coreograffeg cyffrous a hefreiddiol.

Ail agorwyd Canolfan Llanhilleth Institute ym Mlaenau Gwent ym mis Rhagfyr.  Mae’r Rheolwr yno yn gyn Swyddog Datblygu’r Celfyddydau yn CCC, a bydd rhaglen eang o weithgareddau cymunedol yn cael ei darparu yno, yn cynnwys y celfyddydau.  

Cyflwynodd Tŷ Dawns noson fywiog arall o goreograffeg sy’n cynnwys gwaith gan nifer o aelodau o Gwmni Diversions a darn newydd gan Tanja Raman, ennillydd Dyfarniad Cymru Greadigol yn 2007. 

Dros y Nadolig, ‘roedd panto’r Riverfront, ‘Jack & the Beanstalk’ yn lwyddiant mawr gyda Bryan Hibberd yn y brif ran.  Cymaint oedd yr adwaith bositif, nes i 2000 o docynnau werthi’n barod ar gyfer panto 2008!

Diversions

Llongyfarchiadau i Ann Sholem, Cyfarwyddwr Artistig Diversions, am ennill  Gwobr y Ddynes mewn Celf a’r Cyfryngau (‘Woman in Arts & Media Award)’. Bydd Diversions yn cynnal dathliadau chwarter canrif ar draws Cymru yn ystod 2008.  I ddarllen mwy, ewch i: www.artswales.org/viewnews.asp?id=760
Yn gynnar ym mis Ionawr, lawnsiwyd sefydliad newydd Sherman Cymru gyda’r brand newydd yn denu dyrfa fawr i’r Theatr i glywed areithiau gan Chris Ricketts, Emyr Jenkins, Dai Smith a Rhodri Glyn Thomas.  I ddarllen mwy, ewch i: www.artswales.org/viewnews.asp?id=746

Enillodd Sherman Cymru hefyd ganmoliaeth mawr wrth y beirniaid am ei berfformiad diweddaraf, ag ysgrifennwyd gan un o enillwyr Dyfarniad Cymru Greadigol 2008 am Ddrama, Kaite O’ Reilly, ‘The Almond and the Seahorse’ yn cynnwys pum seren gan y Guardian.  I ddarllen mwy, ewch i: www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=798

Cafodd galeri g39 yng Nghaerdydd arian sylweddol o CCC a’r Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn i ddatblygu Rhaglen Ddatblygu Broffesiynol i Artistiaid ar draws Cymru, i ddarparu cyngor, hyfforddiant a gwybodaeth am artistaid ar ddechrau eu gyrfaoedd. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.artswales.org/viewnews.asp?id=774

Daw Ffotogallery â hanes y Pibydd Brith i Gymru wrth i arddangosfa newydd Clare Richarsdon, ‘Beyond the Forest’, agor yng Ngaleri Turner House ym Mhenarth.   I ddarllen mwy, ewch i: http://www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=787 Bydd un o enillwyr Dyfarniad Cymru Greadigol 2006/2007, Jill Greenhalgh, yn cyflwyno ei phrosiect buddugol yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter rhwng Mawrth 28-29 2008.

Mae’r  perfformiad, ‘Acts – Vigia’ yn cynnwys grwp o berfformwyr benywaidd ifanc a ddaw o Gymru, Colombia, Peru, Argentina a Sbaen.  Mae’r darn yn ymateb myfyrgar i lofruddiaethau niferus benywod ar ffiniau’r U.D./Mexico dros y blynyddoedd diwethaf. Am fwy o wybodaeth ewch i:http://www.chapter.org/12569.html

Mae Welsh Independent Dance (WID), cymdeithas ddawns cenedlaethol i ddawnswyr a choreograffwyr proffesiynol, a gefnogwyd gan CCC yn cyflwyno perfformiad dwbwl gan goreograffwyr Cymreig blaenllaw, sef Kylie Ann Smith, Ricky White a Matthew Howells. Gellid weld  ‘Dance Bytes’ ar draws De Cymru tan 12 o Ebrill 2008. Am fwy o wybodaeth ewch i: http://www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=797

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

Y CELFYDDYDAU TU ALLAN I GAERDYDD

Bydd cynulleidafoedd hen ac ifanc yn cael y cyfle i fwynhau sioe deuluol yr hydref hwn wrth i Theatr Bara Caws, mewn partneriaeth gyda Theatr Gwynedd a Galeri, lwyfannu fersiwn gerddorol o un o hoff lyfrau plant Cymru, ‘Llyfr Mawr y Plant’.

Bydd y sioe, ag ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, fel rhan o’r cynllun ‘Y Celfyddydau Tu Allan i Gaerdydd’, yn dechrau ei siwrne yn Theatr Gwynedd ar Hydref y 4ydd 2008, ac yna’n teithio ar draws Cymru, yn cynnwys Theatr y Pavilion yn Rhyl, Canolfan Gelfyddydau Mwldan, a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.  I ddarllen mwy ewch ar: www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=775

Mae Theatr Mwldan yn Aberteifi yn dathlu tair blynedd hynod lwyddiannus gyda’r cynllun ‘Celf Tu Allan i Gaerdydd’ yn mynd o nerth i nerth.  Cymaint yw’r galw bod perfformwyr blaenorol a’u cynhyrchiadau yn dychwelyd yn y dyfodol agos ar deithiau mawr trwy’r DU.  Yn y dair blynedd ddiwethaf, mae Mwldan wedi trefnu 19 o sioeau a 162 o berfformiadau sydd wedi denu ffigyrau iachus yn agos i 30,000 mewn cynulleidfaoedd.  Bydd sioe hynod lwyddiannus Catrin Finch aCimarron yn dychwelyd yn 2009 a felly hefyd sioe y drymiwr bydenwog, Billy Cobham ac Asere ym mis Hydref 2008.  Bydd CD Billy Cobham ac Asere, ‘Y Cuba y De Panama’ yn cael ei ryddhau ar ddiwedd Mehefin 2008.

Delwedd gyda chaniatad y
National Portrait Gallery, Llundain

Ar hyn o bryd, mae Mwldan yn paratoi ar gyfer ei chynhyrchiad nesaf fel rhan o gynllun ‘Celf Tu Allan i Gaerdydd’, ‘The Importance of Being Earnest’, cyd-gynhyrchiad gyda Mappa Mundi, Mwldan a Creu Cymru, sy’n agor ar Ebrill 10 2008 ac a fydd yn teithio am 26 o ddyddiadau i 20 o leoliadau.  Ewch i
www.mappa-mundi.org.uk am fanylion y daith.

Yn yr addasiad trawiadol hwn o glasur, mae’r dylunydd gwisgoedd a chyfarwyddwr, Lloyd Llewellyn-Jones wedi creu cynhyrchiad doniol a ffraeth gyda pherfformiadau arbennig.  Mae’r ddrama yn dangos holl nodweddion safonol Mappa Mundi, gyda set, gwisgoedd, cerddoriaeth a goleuo yn cyfleu holl fecaneg y theatr i berffeithrwydd  Gyda’r tocynnau’n gwerthi’n gyflym ewch i: www.mwldan.co.uk/ am fwy o wybodaeth.

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

NOSON ALLAN

Polish Play

Mae cynllun Noson Allan yn gweithio gyda neuaddau pentref a chymunedau trwy Gymru yn eu galluogi i ddod â pherfformiadau proffesiynol i’w hardaloedd.

Dros y misoedd nesaf, mae Noson Allan yn hapus iawn i groeshawu perfformwyr newydd i’r cynllun a hen ffrindiau mewn dathliad o theatr arbennig trwy Gymru gyfan.

Ar ddechrau Ebrill, mae’r ‘Polish Play’ o Farnham Maltings yn dod i dri lleoliad yn Ne a Gorllewin Cymru.  Yn cyfuno deialog, sioe sleidiau a sioe gerdd, dyma stori deimladwy sydd eisioes wedi ennill canmoliaeth trwy’r DU.

Bydd Theatr Fairgame a’i sioe ‘Keep on Moving’, yn teithio trwy Gymru ym misoedd Ebrill a Mai. Ysbrydolwyd y sioe hyfryd yma gan hen sioeau ffair y gorffennol –gyda menywod barfog, llewod rheibus a phaffio!

Ar Ebrill 23, bydd Cwmni ‘Stuff and Nonsense’ o Fryste yn dod â sioe ‘Princess Suki’ i Dredegar ar gyfer ei hunig berffromiad yng Nghymru gyda’r sioe blant, “Dragon’s Teeth and other Tales”.

Ym mis Mai bydd Clwyd Theatr Cymru i Bobl Ifanc yn cyflwyno “Tales From Small Nations”.  Mae’r sioe yn cynnwys straeon o Gymru a chenhedloedd eraill gyda cherddoriaeth, pypedau, mygydau a meim.  Ac ar Fai 19, bydd hyrwyddwyr ifanc Penybont yn gyfrifol am redeg y sioe.  

Bydd Theatr Hijinx yn adfywio ei sioe, ‘Full Circle’ ar gyfer ei thaith wanwyn eleni ag ysbrydolwyd gan Andrew Williams, dyn hefo Syndrom Downs a ddringodd Everest yn 1996. 
Mae Theatr Spectacle yn teithio yn ystod Ebrill a Mai gyda’r sioe arobryn i blant, ‘The Lazy Ant’.

Mae Theatr yn yr iaith Gymraeg yn nodwedd amlwg o gynlluniau ‘Noson Allan’ dros y misoedd nesaf hefyd.   Mae Theatr Bara Caws yn cyflwyno’r ddrama gomedi ddu, “Y Gobaith a’r Angor” (wele ‘Gair o’r Gogledd’ yn y llythyr hwn am fwy o fanylion).

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn cyflwyno hanesion y Lleidr Penffordd enwog, “Twm Sion Cati” i blant a theuluoedd trwy Gymru. –

Fel rhan o Ŵyl Gwanwyn, yn dathlu creadigrwydd yn yr henoed, mae newydd ddyfodiaid i’r cynllun, ‘Glass Shot’ wedi cynhyrchu “Bryn Gobaith”.  Dyma ddrama sy’n trafod themau’r henoed.

Mae Gwanwyn hefyd yn cyflwyno perfformiadau o ‘Trafaelu ar y Trên Glas’ gan Gwmni Rhosys Cochion sy’n dilyn hanes plant chwyldro’r 1960’gau sy’n wynebu realiti tyfu’n hŷn.

Am fwy o wybodaeth am y cyllun a rhestr o’r holl sioeau, ewch i:www.nosonallan.org.uk

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

NEWYDDION YR OLYMPIAD DIWYLLIANNOL

Gwyn L Williams

Yn ddiweddar, amlinellodd Gwyn L Williams, Rhaglennydd Creadigol yr Olympiad yng Nghymru, weledigaeth ar gyfer yr Olympiad yng Nghymru. Fe fydd y rhaglen yn cynnwys elfen, a ariannir yn rhannol gan Legacy Trust UK, a fydd yn unigryw i Gymru o dan yr enw 'The Power of the Flame'.  (Fe fydd yna gystadleuaeth i ysgolion yn cael ei threfnu’n fuan i ddewis enw Cymraeg addas i’r rhaglen).

Bwriad 'The Power of the Flame' yw ysbrydoli a chyffroi plant a phobl ifanc ledled Cymru, gan greu etifeddiaeth gelfyddydol fydd yn parhau ymhell y tu hwnt i'r Olympiad a'r Gemau Olympaidd eu hunain. Dyma brosiect fydd yn cynnwys pob cymuned yng Nghymru, gan ddod â gwerthoedd yr Olympiad a'r Gemau Olympaidd yn fyw i holl ieithoedd a chymunedau diwylliannol amrywiol ein cenedl.  Bydd y broses o gwblhau dyraniad y wobr ariannol gan Legacy Trust UK gwerth £1.67milwin er mwyn gwireddu'r dyheadau yma, yn dilyn yn y man.
Y mae pedair prif thema yn cael eu datblygu ar gyfer Cymru mewn cydweithrediad â Legacy Trust UK:

Bydd Kindling the Talent yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol mewn fframwaith gystadleuol drwy ddigwyddiadau celfyddydol a chwaraeon ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bwriad Cauldrons and Furnaces fydd cyfuno'r holl gelfyddydau, a hynny ar rai o safleoedd mwyaf nodweddiadol Cymru. Mae Following the Flame wedi ei greu fel arddangosfa symudol o'r Cymry hynny sydd wedi ac a fydd yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd, gan gynnwys prosiect hanes ar lafar a gweithdai cymunedol fydd yn archwilio llwyddiannau ym myd chwaraeon drwy gyfrwng y celfyddydau. Yna, fe fydd Prometheus yn rhoi cyfle unigryw i bobl anabl berfformio gyda sefydliadau cerddorol o safon fyd-eang gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf.

I ddarllen mwy, ewch i:

www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=791

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

ASTUDIAETH DDICHONOLRWYDD MERTHYR

Mae Prifysgol Morgannwg am benodi ymgynghorwyr i ymgymryd ag astudiaeth ddichonolrwydd sy'n ymwneud â sefydlu canolfan gelfyddydau newydd ym Merthyr. Mae'r prosiect yn cael ei gyd-ariannu gan CCC a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fanylion llawn gweler

https://www.sell2wales.co.uk/notices/display.html?NoticeId=12098

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

POBL IFANC

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2008

Mae CCC yn hapus iawn i barhau gyda’i bartneriaeth â Urdd Gobaith Cymru ac eleni eto’n cynnig platfform i’r celfyddydau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghonwy. 

Bydd Pabell Berfformio CCC yn gartref i nifer o ddigwyddiadau difyr i blant, pobl ifanc ac oedolion trwy gydol wythnos yr Eisteddfod. 

Bydd yna gyfle i gynulleidfaoedd fwynhau perfformiadau byw gan Gwmni Theatr Tir na n’Og a Chwmni’r Frân Wen, yn ogystal â siawns i fod yn greadigol mewn gweithdai celf a chrefft ag arweinwyd gan artistaid proffesiynol.  A bydd yna gyfle hefyd i fwynhau drymio Africanaidd gan Community Music Wales.

Mae CCC yn ymroddedig i ddarparu platfform i bobl ifanc er mwyn iddynt fedru mwynhau a phrofi’r celfyddydau i’r eithaf.

Am fwy o wybodaeth, ewch at babell berfformio CCC ar faes yr Eisteddfod.

Splash Cymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ers 2003 i ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer ei rhaglen, ‘Splash Cymru’. Mae’r bobl ifanc sydd yn ran o’r rhaglen rhwng 13-17 oed ac mewn perygl o dorri’r gyfraith. Mae cefnogaeth ariannol CCC yn darparu cyfleoedd celfyddydol i’r bobl ifanc yn ystod y gwyliau ac wedi bod yn lwyddiant ysgubol.

Yn ystod hanner tymor Chwefror 2008, cafwyd nifer o weithgareddau Splash Cymru ledled y wlad, o brosiect ffilm, ‘Adrenaline Junkies’ ym Mlaenau Gwent, i ‘gym’ gwyrdd yn Sir Benfro!  Am fwy o wybodaeth ewch i

www.artswales.org/viewnews.asp?id=772

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

DILYNIANT DRWY’R CELFYDDYDAU

Fel rhan o’r strategaeth barhaus i ddenu cyllid Ewropeaidd ar gyfer ei waith, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi ei uchelgais i roi hyfforddiant ar sail y celfyddydau i ddarparu sgiliau i bobl ifanc.  Bydd hyn yn help iddynt gael hyfforddiant bellach a chyflogaeth yng Nghymru.

Y prosiect hwn, o dan y teitl ‘Dilyniant drwy’r Celfyddydau’, fydd prif weithgarwch CCC yn ei gais i gael gafael ar Gyllid Ewropeaidd o dan y Rhaglen Gydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (olynydd Cyllid Amcan 1).

Bwriad CCC yw arwain a rheoli rhaglen o weithgarwch cefnogi a hyfforddi, gan dargedu pobl ifainc 11-19 oed yn bennaf o dan Flaenoriaeth Un o Raglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a’i hestyn o bosibl i bobl hyd at 25 oed o dan Flaenoriaethau 2 a 3 ESF.

Bydd gwaith y prosiect yn cael ei gyflwyno gan gyrff celfyddydau a chyrff eraill o fewn ysgolion, colegau a chyd-destunau cymunedol eraill gan greu llwybrau newydd ac arloesol i mewn i addysg, hyfforddiant a’r gweithlu i bobl o dan 25 oed.

Bydd ‘Dilyniant drwy’r Celfyddydau’, a fydd yn cynnwys rhaglenni gweithdai a phrosiectau, yn ogystal ag ystod o weithgareddau mentora, cefnogi a lleoliadau gwaith, yn rhan o brosiect partneriaeth strategol ehangach a elwir ‘Ymgyrraedd i’r Uchderau’. Arweinir y proisect gan isadran Cyfleoedd Dysgu Ieuenctid ac Oedolion (YALO) Llywodraeth Cynulliad Cymru, rhan o’i Hadran Addysg a Dysgu Gydol Oes. 

Bydd ‘Ymgyrraedd i’r Uchderau’ yn cynnwys mwy na 100 o gyrff, a gyd-drefnir ar lefel Genedlaethol, Ranbarthol a Lleol, gyda phrosiectau sy’n cysylltu’n ôl i rwydweithiau lleol.  Bydd y bartneriaeth yn caniatáu i CCC ehangu’r rhwydweithiau sydd ganddo ar waith ar hyn o bryd gyda chyrff eraill gan gynnwys AWYPO, Gyrfa Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru.

Cred CCC y gall ymwneud â’r celfyddydau yn ifanc gynnig llu o sgiliau trosglwyddadwy i bobl ifanc sydd wedyn yn gallu agor y cyfleoedd iddynt fynd i hyfforddiant pellach a gwaith.

Mae pobl ifanc wedi diflasu ar ymyriadau hyfforddiant traddodiadol, ac mae’r fframwaith hwn yn galw am ymagweddau arloesol at hyfforddiant i bobl ifanc – ein cred ni yw y gall cyrff celfyddydau wneud hynny.  Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol i CCC, ond o ran gallu mae gan y sefydliad hanes da o reoli a chyflwyno gweithgareddau a gyllidir gan Ewrop.  O dan y Rhaglen Gyllido Ewropeaidd ddiwethaf, gweithiodd CCC gyda chyrff celfyddydau i gyflwyno prosiect adeiladu gallu ar gyfer cyrff celfyddydau cymunedol, dan y teitl Cynhwysiad drwy’r Celfyddydau.

Mae CCC yn annog ymagwedd strategol at gyflwyno gweithgarwch hyfforddiant ar sail y celfyddydau o dan y rhaglen gyllido hon – os hoffech chi ddysgu mwy am ein nodau ac amcanion neu’n teimlo y gallai’ch corff chi  gyflwyno gwaith o dan y rhaglen hon, cysylltwch ag Angela.Tillcock, Rheolwr Datblygu Busnes yn CCC – Angela.Tillcock@artswales.org.uk.

Mae CCC wedi cyflwyno syniad am brosiect o dan Fframwaith Strategol ESF “Supplying Young People with Skills for Learning and Future Employment” – Blaenoriaeth Gydgyfeirio Un ESF, Themâu Un a Dau, a welir drwy ddilyn y ddolen gyswllt ddilynol ar wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru: http://www.wefo.wales.gov.uk/frameworks/Projects/SupplyingYoungPeoplePage1.htm

Yr ardaloedd Awdurdodau Lleol sy’n gymwys i dderbyn Cyllid Cydgyfeirio yw: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent a Thor-faen.

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

YMCHWIL A DATBLYGU CYNULLEIDFAOEDD

Arolwg o Wariant Awdurdodau Lleol ar y Celfyddydau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn casglu data ar wariant ar y celfyddydau gan awdurdodau lleol Cymru yn flynyddol mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dyma'r unig arolwg o'i fath yng Nghymru, ac mae wedi llwyddo i gasglu darlun o werth ariannu'r celfyddydau yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Gellir llwytho adroddiad ar y data diweddaraf sydd ar gael i lawr o wefan CCC http://www.artswales.org/publication.asp?id=255

  • Mae gwariant net ar y celfyddydau yng Nghymru gan awdurdodau lleol yn gostwng. Mae gwariant (gan yr awdurdodau a ymatebodd) wedi gostwng o £22.1m yn 2003/04 i £16.9m yn 2006/07.
  • Roedd gwariant ar y celfyddydau per capita tua £11.04 ar gyfartaledd yn 2006/07.
  • Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cael cynnydd bach o ran incwm grant tuag at gostau refeniw lleoliadau celfyddydau.
  • Gellir amcangyfrif bod gwariant net gan bob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi dod i £35m yn 2006/07 sy'n golygu mai hwy yw prif ariannwr y celfyddydau yng Nghymru.

Gwyliau yn Denu'r Tyrfaoedd

Mae Cymdeithas Gwyliau Celfyddydol Prydain (BAFA) wedi cynnal yr arolwg mwyaf o wyliau celfyddydol hyd yn hyn yn y DU, gyda chymorth ariannol gan CCC.  Mae'r arolwg yn darparu darlun o'r sector gwyliau celfyddydol fel sector deinamig a bywiog, sy'n trefnu rhai o'r digwyddiadau diwylliannol mwyaf rhagorol yn y DU, ac sy'n cyflwyno cyfleoedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr i ymgysylltu â'r celfyddydau. Bydd modd llwytho adroddiad llawn a dogfen gryno i lawr o wefan BAFA cyn hir yn http://www.artsfestivals.co.uk

  • Bu i'r 193 o wyliau a gymerodd ran yn yr arolwg nodi bod dros 5 miliwn o bobl wedi mynychu, a bod 250,000 o bobl wedi ymuno mewn digwyddiadau addysgol a chymunedol.
  • Comisiynodd y gwyliau 200 darn newydd o waith a chynnal 1,750 o arddangosiadau am y tro cyntaf erioed.
  • Nodwyd bod gwerthiannau tocynnau gwyliau BAFA yn dod i gyfanswm o £12.9m a chrëwyd incwm o £6.7m gan noddwyr masnachol a £4m gan ymddiriedolaethau a sefydliadau.

Adroddiadau ar Broffiliau Ardal

Mae set newydd o Adroddiadau ar Broffiliau Ardal yn cael eu cynhyrchu a byddant ar gael am ddim i bob sefydliad/unigolyn celfyddydol sy'n derbyn arian gan CCC ym mis Ebrill. Diben yr adroddiadau yw rhoi proffil ystadegol o ardal farchnata ddiffiniedig er mwyn helpu gyda'r gwaith o farchnata a llunio cynlluniau strategol.  Mae adroddiadau CCC yn cynnwys gwybodaeth am ardal o fewn 30 munud o deithio o leoliad allweddol neu ar gyfer ardal awdurdod lleol. Mae'r wybodaeth a ddefnyddir yn yr adroddiadau yn deillio gan CACI, Mynegai a Chyfrifiad Grŵp Targed BMRB Internationals ac ystadegau eraill gan y Llywodraeth. Bydd adroddiadau ar gael ar gyfer 40 o drefi yng Nghymru a phob un o 22 o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru.  Cysylltwch â research@artswales.org.uk i gael gwybodaeth bellach.

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

GWOBRAU LOTERI CENEDLAETHOL

Ar y 18fed o Chwefror 2008, lawnsiwyd Gwobrau Loteri Cenedlaethol 2008. Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn ymgais flynyddol i ddod o hyd i hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri. Dyma'r bumed flwyddyn yn olynol i'r Loteri ddyfarnu'r Gwobrau, a'r nod yw cydnabod y gwahaniaeth y gall prosiectau - bach a mawr - a ariennir gan y Loteri ei wneud i bobl, lleoedd a chymunedau, ledled y DU. Mae'r Gwobrau'n dathlu talent, gwaith caled ac ymrwymiad y bobl sy'n rhan o'r gwaith o gynnal y prosiectau a ariennir gan y Loteri.

Yn y gorffennol, bu prosiectau'r Loteri a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn llwyddiannus ac maent wedi ennill gwobrau mawreddog ee. UCAN Perform, sy'n seiliedig yng Nghaerdydd, sef prosiect celfyddydau creadigol ar gyfer pobl ifanc â nam ar eu golwg a enillodd y gystadleuaeth fel un o hoff brosiectau Loteri'r DU yn 2006 - gan gipio tlws Pencampwyr y Plant. Ac yn 2007, cyrhaeddodd Canolfan Gelfyddydau Galeri Caernarfon, a gafodd ddyfarniad Loteri Cyfalaf sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, rownd y bleidlais gyhoeddus.
Er mwyn enwebu eich hoff brosiect celfyddydau yng Nghymru, cliciwch ar: http://www.lotterygoodcauses.org.uk/awards. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw: 20fed Mawrth 2008 a chyhoeddir y rhestr fer ar gyfer y bleidlais gyhoeddus yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Kate Walters yn y Monitor Loteri,  Ffôn: 020 7954 3499, Mob: 077734 07703 kate@lottery-monitor.com

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

ARTES MUNDI

Mircea Cantor - Rosace 2007

O’r 15 o Fawrth –8 o Fehefin 2008, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, bydd Artes Mundi 3 yn cyflwyno gwaith gan naw artist o sylwedd.  Dyma’r drydedd arddangosfa fawr eilflwydd o gelfyddyd gyfoes ryngwladol sy'n ymchwilio i wahanol safbwyntiau ar fywyd, celf a dynoliaeth. Gyda fideo ar raddfa fawr, ffotograffiaeth, tecstilau a pheintiadau, mae'r arddangosfa'n cyflwyno gwaith newydd a diweddar gan y naw artist sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Artes Mundi 3 (gwerth £40,000).  I ddarllen mwy, ewch ar: http://artesmundi.org/whatsOn.php

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

CYMRODORIAETH CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU AR GYFER RHAGLEN ARWEINYDDIAETH CLORE

Cymrodoriaethau 2008/09

Cryfhau Arweinyddiaeth yn y Sector Diwylliannol

Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Clore wedi'i llunio i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, rhwydweithiau a phrofiad darpar arweinwyr ar draws amrywiaeth eang o weithgarwch diwylliannol.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi y byddwn yn cynnig Cymrodoriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Clore yn 2008/09 i rywun sydd wedi seilio'i yrfa yng Nghymru hyd yn hyn, ac a fydd yn gweithio yng Nghymru yn y dyfodol.  I ddarllen mwy ewch ar: www.artswales.org/viewnews.asp?id=778

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

CREU CYMRU

Mae Creu Cymru, yr asiantaeth ddatblygu i theatrau a chanolfannau celf yng Nghymru, yn dathlu dyfarniadau diweddar o £165,000 wrth Ymddiriedolaeth  Esmée Fairbairn a £70,000 oddi wrth Ymddiriedolaeth Paul Hamlyn, i barhau gyda dau brosiect dyfeisgar sy’n cynnwys 17 o theatrau a chanolfannau celf trwy Gymru. 

I ddarllen mwy, ewch i www.artswales.org.uk/viewnews.asp?id=806

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

LLENYDDIAETH CYMRU DRAMOR

Ar ddiwedd 2007 cynhaliwyd symposiwm gyfieithu ryngwladol gan Lenyddiaeth Cymru Dramor yn Nhŷ Newydd: Y Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol.  Am wythnos gwahoddwyd cyfieithwyr profiadol byd-eang i ymuno ag awduron o Gymru er mwyn trafod y gwahanol ddulliau o fynd ati i gyfieithu llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig.

Ar ddiwedd Ionawr, yn dilyn gwahoddiad gan Lenyddiaeth Cymru Dramor, bu Niall Griffiths yn ddarllen ei waith yn Alexandria a Chairo yn yr Aifft yng nghywmni un o awduron mwyaf blaenllaw’r byd Arabeg  Ibrahim Abdel Maguid, awdur No One Sleeps in Alexandria.  Gyda nifer o awduron eraill o Ewrop roeddent yn dathlu rhodd o dros gant o lyfrau i’r llyfrgell drawiadol newydd yn Alexandria.  O ganlyniad i’r cynllun, a drefnwyd gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau a’i phartneriaid, bydd llyfrau o Gymru yn ymddangos ar silffoedd Llyfrgell Alexandria ochr yn ochr â rhai o weithiau llenyddol pwysicaf Ewrop.

Bydd cynrychiolaeth gan LLCD yn Ffair Lyfrau Abu Dhabi ym mis Mawrth. Bydd teitlau o Gymru yn cael eu cynnig ar gyfer cyfres newydd o lenyddiaeth y byd mewn Arabeg.  Ym mis Ebrill, drwy wahoddiad gan LLCD, bydd bardd o Gymru yn teithio i Algiers er mwyn cydweithio yno gyda beirdd a chyfieithwyr lleol ac Ewropeaidd.

Mae LLCD hefyd yn paratoi i groesawu’r bardd Fflemeg Eva Cox i Gymru ar gyfer preswyliad yn ystod y gwanwyn.  Tra bydd Cox yng Nghymru bydd Gwyneth Lewis yn preswylio ym Mrwsel yn dilyn gwahoddiad gan y sefydliad llenyddol Het beschrijf.  Bu’r ddwy awdures yn canu clod gweithdy cyfieithu a drefnwyd gan Het beschrijf mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru Dramor yn ystod yr hydref y llynedd, lle cafodd y ddwy gyfle i gyfieithu gwaith ei gilydd.  Gobeithiwn mai hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o gyfnewid rhyngwladol ar gyfer awduron a chyfieithiwyr.

Bachwch y cyfle i ddarganfod mwy am deithiau llên Cymru o gwmpas y byd drwy wylio ffilm fer newydd LLCD ar y wefan, www.llencymrudramor.org, ym mis Mai.
Yn ôl i'r dudalen gynnwys

NEWYDDION STAFF YN CCC

Newydd Ddyfodiaid

Elin Butler – Swyddog Ariannu’r Celfyddydau 08/01/08
Eleri Wynne – Cynorthwy-ydd Gweinyddol/swydd wedi ei rhannu rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac adrannau Ariannu’r Celfyddydau.  Caroline Rees – Cynorthwy-ydd Gweinyddol. Swyddfa Gorllewin a Chanolbarth CCC 21/01/08
Ceryl Williams – Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau (dros dro) 11/02/08
Katy Brown – Cynorthwy-ydd Personol i’r Prif Weithredwr 19/02/08
Haf Lewis, Cynorthwy-ydd Personol i’r Cyfarwyddwr Gweithredoedd.  10/03/08

Wedi ymadael

Angela Blackburn Swyddog Digwyddiadau 08/02/08
Samantha McAllister – Cynorthwy-ydd Personol i’r Prif Weithredwr 13/02/08
Caroline Rees – Cynorthwy-ydd Gweinyddol Swyddfa Canolbarth a’r Gorllewin CCC 29/02/08
Rebecca Reitsis, Cynorthwy-ydd i’r Cyfarwyddwr Gweithredoedd, 7/03/08

Yn ôl i'r dudalen gynnwys

BE SY’N DIGWYDD

Cynadleddau

Mae Audiences Wales yn eich gwahodd i fynychu Connect, digwyddiad rhyngweithio newydd i bawb sy’n ymddiddori mewn datblygu cynulleidfa a marchnata’s celfyddydau.  Bydd Audiences Wales: CONNECT yn cyfarfod gyda’r rhanbarthau ag ariannwyd gan y sefydliad ym mis Ebrill a Medi 2008.

Nodiadau i’ch Dyddiaduron

De Orllewin Cymru
23 Ebrill 2008 (Theatr y Grand, Abertawe)

De Ddwyrain Cymru
29 Ebrill 2008 (The Riverfront, Casnewydd)
I archebu lle, anfonwch neges ebost at: june@audienceswales.co.uk neu ffoniwch:                  029 20373736 www.audienceswales.co.uk

Mis Amgueddfeydd a Galerïau (MGM) 2008

Mae MGM yn un o ddathliadau mwya’r DU i amgueddfeydd a galerïau.  Yn 2008, mae MGM yn anelu am y gorau i hyrwyddo atyniadau celfyddydol Cymru.

Mae llwyddiant MGM yn ddibynnol ar bawb yn y byd celfyddydol yn cyfrannu i’r ymgyrch, i godi ymwybyddiaeth y Cyfryngau. 
Mae Uned Gyfathrebu Diwylliant Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi apwyntio asiantaeth PR i hyrwyddo MGM 2008 yng Nghymru.  Mae “Working Word’ yng Nghymru nawr ar y gweill ac os hoffech unrhyw gymorth gyda digwyddiad yr ydych yn ei drefnu, cysylltwch â Caroline Holmes neu Fiona Anderson yn ‘Working Word’ ar 02920 488778 neu anfonwch neges ebost at: caroline.holmes@workingwordpr.com neu fiona.anderson@workingwordpr.com

Mannau Cyfartal - Yn Fyw! -Seminarau Celfyddydau Anabledd Cymru 2008

 Galeri, Caernarfon dydd Iau 15fed Mai
Glan yr Afon, Casnewydd dydd Mawrth 20fed Mai

Cyfle i fudiadau celfyddydau, diwylliannol ac eraill i gael cyngor ac arweiniad am yr arfer gorau ynghylch cynnwys pobl anabl, fyddar a dan anfantais.  Dyma gyfle i 'gael blas' ar gyrsiau mwyaf poblogaidd Celfyddydau Anabledd Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf. 

 Celfyddydau Anabledd gan berfformwyr yr Unusual Stage School  

Cyfleoedd i rwydweithio

 Pwy ddylai fynychu?

Mudiadau celfyddydau, timau datblygu celfyddydau awdurdodau lleol, grwpiau celfyddydau ieuenctid a chymunedol, mudiadau sector gwirfoddol, grwpiau celfyddydau ac iechyd, colegau a sefydliadau addysg bellach

 Cost £25 y pen a chinio
I archebu lle yn Seminar Mannau Cyfartal - Yn Fyw! cysylltwch â Celfyddydau Anabledd Cymru
Sbectrwm, Heol y Bwlch, Y Tyllgoed, Caerdydd CF5 3EF
E-bost:  post@dacymru.com

Ffôn/ minicom: 029 2055 1040    Ffacs: 029 2055 1036
Yn ôl i'r dudalen gynnwys