Efallai na fu'n haf gwych o ran y tywydd yng Nghymru, ond mae'r celfyddydau wedi cynnig nifer o weithgareddau i'w mwynhau gartref a thramor. Un o bleserau'r misoedd diwethaf fu gweld mor hyderus yw Cymru wrth hyrwyddo'i hun ar Lwyfan y Byd. Mae Gŵyl y Gelli, Gŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, John Cale yn Biennale Fenis, cystadleuaeth y BBC Canwr y Byd Caerdydd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Gŵyl Jazz Aberhonddu - oll yn dathlu safon ac egni'r celfyddydau yng Nghymru.
Yn gynharach yn yr haf, gwnaeth Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Llywodraeth y Cynulliad lunio adroddiad o dan y teitl Hyrwyddo Celfyddydau a Diwylliant Cymru ar Lwyfan y Byd. Yn y Rhagair, mae'n nodi: "Mae’n bosibl y gall hyrwyddo celf a diwylliant Cymru ein helpu i adeiladu pontydd ac i lunio perthnasoedd â phobl ar draws y byd, gall greu cyfleoedd newydd ar gyfer masnach a busnes, a chreu cyfleoedd ar gyfer dysgu oddi wrth wledydd a diwylliannau eraill.”
Mae'n werth i chi ddarllen yr adroddiad. Beth bynnag fo'ch barn ar gasgliadau'r Pwyllgor, mae'n dda gweld y Cynulliad yn cymryd diddordeb uniongyrchol yn y celfyddydau. Ac yn yr hydref bydd y Cynulliad yn troi ei sylw at ddiwylliant yn fwy eang wrth iddo ddechrau trafod ymrwymiad Cymru'n Un i gyflwyno 'dyletswydd' ddiwylliannol ar draws llywodraeth leol Cymru.
Wrth i linynnau pwrs y llywodraeth dynhau yn ystod y misoedd nesaf, rwy'n awyddus i wneud pob peth posibl i atgoffa unrhyw un sy'n fodlon gwrando o werth y celfyddydau: y gwerth a roddant i safon bywyd bob dydd pobl; y gwerth a roddant i ddod â dychymyg a chreadigrwydd i'r gwaith o gyflawni polisïau’r llywodraeth; y gwerth y maent yn ei chynrychioli wrth hyrwyddo Cymru fel gwlad lle y bydd pobl am fyw ynddi, gweithio ynddi ac ymwelid â hi.
Mae angen i ni ddangos pa mor gost effeithiol ydyw buddsoddi yn y celfyddydau, a thawelu meddwl trethdalwyr a dangos bod eu harian yn cael ei wario'n dda. Dyna pam mae ein Hadolygiad Buddsoddi - yr archwiliad manylaf o'n dulliau ariannu a wnaed gennym erioed - mor bwysig. Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo'n dda, ac rydym wedi bod yn brysur yn ystod yr haf yn ymgynghori ar agweddau allweddol y broses Adolygiad Buddsoddi. Mae'r ymatebion a gawsom wedi bod yn fuddiol, yn ystyrlon ac yn ddefnyddiol. Byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn yn datblygu.
Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni. Ewch i'n gwefan, cadwch lygad ar y trafodaethau yn y Cynulliad, cyfrannwch i'r ddadl. Gadewch i ni sicrhau bod ein 'llais' yn cael ei chlywed o hyd, a bod y celfyddydau'n cael eu gwerthfawrogi gartref a thramor.






