‘Roedd cynhadledd flynyddol CCC eleni, ‘Chwalu'r Ffiniau' yn arddangosfa llawn ysbrydoliaeth o sut y gall y celfyddydau chwalu'r ffiniau corfforol a meddyliol i bobl o bob cefndir.
Dychwelodd CCC i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth gan groesawu siaradwyr gwadd arbennig yn cynnwys: John Holden (Demos), Brian Tolle, artist o Efrog Newydd, Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog Diwylliant a Gwyn L Williams, Rhaglennydd Creadigol Cymru ar gyfer yr Olympiad Diwylliannol 2008.
Perfformiodd Diversions, cwmni dawns cenedlaethol Cymru ddetholiad o'i sioe bresennol, 'Alternative Routes' a gwnaeth Rebecca Nash, y Pianydd Jazz a enillodd un o Ddyfarniadau Astudio Uwch Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru mewn Cerddoriaeth yn ddiweddar, berfformio gyda’i band jazz yn nerbyniad y Gynhadledd.
Ymhlith y seminarau eraill ‘roedd sesiwn man agored a oedd yn rhoi'r cyfle i gynadleddwyr gynnal eu trafodaethau eu hunain; 'Theatr i'r ifanc iawn', o dan arweiniad un o artistiaid Cymru Greadigol, Sarah Argent; 'Datblygiadau Newydd - Celfyddydau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a rhyngddiwylliant yng Nghymru'; 'Cydweithio Ewro-ranbarthol a Diwylliant Rhyngwladol' ac 'Adroddiad yr Adroddwr' gan y nofelydd arobryn, Caryl Lewis.
Adroddiad yr Adroddwr, Caryl Lewis
Caryl Lewis
Cynhadledd Flynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru 2008
‘Chwalu'r Ffiniau ' oedd thema'r diwrnod ac mae'n deg dweud bod y gynhadledd wedi llwyddo i wneud hynny ar sawl lefel. Mae'n debyg mai'r unig ffordd o wybod beth yw'r ffiniau yw drwy eu gwthio, ac mae gan y celfyddydau rôl annatod o ddatblygu'r ddynoliaeth drwy eu beiddgarwch, gwrthryfelgarwch a'u dyfeisgarwch cynhenid. Fel y dywedodd Simone de Beauvoir, 'er mwyn dangos eich gallu gwirioneddol, rhaid i chi ragori ar ffiniau eich gallu mewn ffordd, eu trechu, meiddio, ceisio, dyfeisio; bryd hynny y datgelir, canfyddir a gwireddir talentau newydd.'
Cafwyd ymdeimlad cryf o hynny ymhlith grwpiau gwahanol o bobl yn y gynhadledd a oedd wedi'u huno mewn gweithgaredd a cyd-fuddiol. Y gweithgaredd hwn yr aed ar ei drywydd yn sesiwn cyntaf y diwrnod, o dan arweiniad John Holden. Mae sut y bydd diwylliant, yn enwedig diwylliant lleiafrifol, yn llwyddo yn wyneb heriau globaleiddio yn gwestiwn sy'n wynebu pob un ohonom. Yn ei araith gyweirnod gyffrous, llwyddodd John Holden i'n gwneud yn ymwybodol o'r newid sylweddol sydd wedi digwydd yn ystod ein hoes. Ar y naill law, rydym yn meithrin ac yn cynnal ffurfiau traddodiadol ar gelfyddyd, ac ar y llaw arall, mae diwylliannau newydd yn dod i'r amlwg yn sgil dylanwadau amrywiol yn y byd newydd hwn. Mae pobl yn dychwelyd at brofiadau 'byw' ac mae ganddynt fwy o awydd i ddysgu am ddiwylliant. Mae technolegau newydd wedi rhoi modd i ni bersonoli'r diwylliant hwnnw. Gydag awdurdod diwylliannol wedi'i ddisodli gan rwydwaith o ymatebion, cafwyd ymdeimlad gwirioneddol bod pobl yn ceisio ennill eu plwyf. Mae'n bosibl y gall diwylliant a'r celfyddydau sicrhau hynny.
Fel y soniais eisoes, bu i'r gynhadledd dorri tir newydd ar sawl lefel, a gwelwyd hynny drwy strwythur y gynhadledd hefyd. Roedd rhythm y diwrnod, a oedd yn llifo'n organig o gyflwyniadau a pherfformiadau byw i ffilm a sesiwn agored, yn adfywiol iawn, ac ymddengys iddo ysgogi'r cynadleddwyr. Ymddengys fod y fformat hwn yn gweddu i gynnwys bywiog y gynhadledd, a chroesawyd hynny. Y sesiwn cyntaf o'r math hwn oedd sesiwn 'Man Agored' Miles Harrison. Nid oedd agenda fel y cyfryw, dim ond cyfle i drafod yn agored, llwyfan i gyflwyno heriau a materion: materion a oedd mor amrywiol â datblygu datblygwyr y celfyddydau, mynd â chelf weledol ar daith, pontio'r gagendor rhwng gwledydd eraill ac ariannu'r celfyddydau. Er bod y pynciau hynny'n gwbl wahanol i'w gilydd, ymddengys fod y gair 'cysylltiedig' yn codi'i ben yn nifer o'r trafodaethau. Ymddengys fod llawer o'r grwpiau'n gofyn am 'feddwl cysylltiedig'. Roedd un pwnc yn cwmpasu'r angen i wneud defnydd gwell o'r arian sydd ar gael eisoes, ac roedd un arall yn cwmpasu'r angen i ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael i wella mynediad a chynhwysiant mewn ardaloedd yng nghefn gwlad. Bu un grŵp yn trafod y posibilrwydd o wneud defnydd gwell o sefydliadau sy'n bodoli fel yr Urdd a Chelfyddydau Ieuenctid Cymru, i arwain ymgyrch i gefnogi artistiaid ifanc Cymru ar lefel ryngwladol. Bu grŵp a oedd yn trafod 'cynulleidfaoedd' yn siarad am rannu syniadau marchnata. Roedd y sesiwn yn cynnig y cyfle i gynadleddwyr drafod eu pynciau llosg hwy, a dod i gysylltiad â phobl sy'n rhannu'r un diddordebau. Rwy'n siŵr y bu hyn yn gyfle i hau egin syniadau, ac y bydd y trafodaethau a ddechreuwyd yn y gynhadledd hon yn parhau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Agorwyd sesiwn y prynhawn gyda detholiad gwefreiddiol o Alternative Routes gan Diversions, a oedd yn rhagarweiniad priodol iawn i araith y Gweinidog dros Dreftadaeth. Cawsant eu llongyfarch ar eu llwyddiannau diweddar, ac roedd y dawnswyr ifanc yn atgof o'r ffaith bod artistiaid ifanc Cymru yn haeddu'r gorau ymhlith darpariaeth y celfyddydau. Roedd yn bleser gwrando ar araith y Gweinidog dros Dreftadaeth ac yn ddiddorol dysgu bod Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo diwylliant a'r celfyddydau. Amlinellodd y Gweinidog y gwaith a wnaed eisoes i roi argymhellion adroddiad Stephens ar waith drwy sicrhau cydberthynas statudol gref rhwng Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor y Celfyddydau, a datblygiad y Cwmnïau Disglair. Tanlinellodd y Gweinidog yr angen i ddod o hyd i ffordd newydd o gynllunio datblygiad diwylliannol. Ond, yn ôl yr arfer, diwedd y gân yw'r geiniog. Mae'n bwriadu archwilio modelau ariannu amgen a fydd yn sicrhau mwy o hyblygrwydd ac yn symud ymlaen o'r hen ffyrdd o ariannu. Bydd pobl ifanc a'r cyhoedd hefyd yn cymryd rhan yn y broses hon. Edrychwn ymlaen at ddysgu am y Strategaeth Ddiwylliant newydd i Gymru a fydd yn cael ei datblygu yn ystod y flwyddyn nesaf.
Yn olaf, roedd y seminarau a gynhaliwyd yn y prynhawn yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol Cymru. Bu Jane Llewellyn Dixon a Martin Cope yn myfyrio ynghylch yr heriau sy'n gysylltiedig ag ail-ymgysylltu â phobl ifanc i ddysgu drwy'r celfyddydau. Mae rhoi'r cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain yn artistig yn rhan hanfodol o'u haddysg. Yn eironig ddigon, drwy dechnolegau newydd, mae pobl ifanc yn llwyddo i 'gadw mewn cysylltiad' yn gyson, ond maent yn ei chael yn fwyfwy anodd 'cyfathrebu'. Felly, mae'r celfyddydau yn arf cynyddol bwysig i archwilio'r dull o gyfathrebu. Yn ddiau, mae'r broses o ymgysylltu â'r celfyddydau'n yn meithrin hyder, hunan-barch a sgiliau arweinyddiaeth, ac yn ystod y sesiwn hwn, clywsom am fentrau newydd i ail-ymgysylltu â phobl ifanc. Mae darparu deunyddiau cyfoethogi, Colegau Celfyddydau Haf a Dyfarniadau ym maes y Celfyddydau oll yn ffyrdd o gyflawni hyn. Roedd llawer o'r gweithgareddau yn ymgorffori llythrennedd a rhifedd. Mae darparu ffyrdd amgen o ddysgu yn rhoi hwb i hunanhyder pobl ifanc nad ydynt wedi cael eu cynnwys mewn addysg brif ffrwd o bosibl. Roedd eu grymuso a rhoi'r synnwyr o berchenogaeth iddynt yn elfennau pwysig o'r sesiwn.
Bu Sarah Argent yn gwthio ffiniau'r hyn y credwn sy'n brofiad theatr priodol i blant ifanc iawn. Cawsom ein tywys i fyd newydd hudol - theatr i blant mor ifanc â naw mis oed. Ymddengys bod angen i ni fod yn fwy meddwl agored a sylweddoli bod plant bach iawn yn barod i dderbyn dulliau cymhleth a chynnil o gyfathrebu, ac y gallant gymryd rhan ynddynt. Dangosodd Sarah y gellir defnyddio'r theatr i gyflwyno'r byd i blant drwy ddefnyddio geiriau, emosiwn, sain, y golwg, blas a theimlad, ac efallai y dylem fynnu mwy gan y theatr i blant ifanc iawn, yn hytrach na'r sioeau diogel, syml, llawn ystrydebau, sy'n cynnwys digon o chwerthin rydym wedi hen arfer â hwy.
Yn y Stiwdio Gron, bu Brian Tolle yn archwilio etifeddiaeth celf. Gofynnodd gwestiynau am 'yr hyn rydym yn ei gofio' a'r 'hyn rydym yn ei anghofio’. Mae Brian Tolle yn plethu hanes a ffuglen yn ei waith ac mae'n creu gosodiadau sy'n ymateb yn uniongyrchol i'w cyd-destun. Mae'n defnyddio technoleg newydd i lunio'i waith ac mae'n gwthio'n syniadau ynghylch sut y caiff ffurfiau ar gelfyddyd eu creu.
Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o sicrhau deialog ddiwylliannol agored gan Donato Giuliani. Bu'n trafod y pwysigrwydd o gyfarfod â phobl o gefndiroedd diwylliannol gwahanol wyneb yn wyneb. Rhannu gwybodaeth a modelau gwaith llwyddiannus oedd craidd y sesiwn. Tanlinellodd yr angen i gydweithio - sy'n thema a gododd ei phen droeon yn ystod y prynhawn.
Cynhaliwyd sesiwn olaf y diwrnod gan Nicky Delgado, Steve Fletcher ac Amaru Chatawa. Cawsom wledd i'r llygaid tra'n gwylio perfformiad byw a gwrando ar gyfraniadau positif artistiaid cymunedol sy'n ffoaduriaid. Clywsom am gronfa ddata sy'n cael ei chreu a fydd yn golygu y bydd yn haws dod i gysylltiad â'r artistiaid hyn.
Y siaradwr gwadd olaf oedd Gwyn L Williams. Fe'n hysbysodd ynghylch yr Olympiad Diwylliannol a fydd yn gyfle i arddangos celfyddydau ac artistiaid Cymru i'r byd. Bydd yr Olympiad yn cynnig llu o brosiectau a digwyddiadau gwahanol, a Chyngor Celfyddydau Cymru fydd prif bartner yr Olympiad yng Nghymru. Bydd prosiectau fel 'Tanio Talent' yn cael eu cynnal gan yr Urdd a Valley Kids. Mae 'Crochanau a Ffwrneisi' yn brosiect ar safleoedd CADW ledled Cymru a fydd yn cynnwys artistiaid ac ymarferwyr. Mae gan Gymru gronfa werth £1.67m i ariannu prosiectau teilwng.
I gloi, llwyddodd y gynhadledd i'n hatgoffa o ehangder diwylliant Cymru. Mae'r hyblygrwydd hwn yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i wthio ffiniau'r celfyddydau i'r eithaf. Roedd meddwl cysylltiedig a rhannu gwybodaeth ac adnoddau sefydliadau eraill yn is-themâu a welwyd drwy gydol y dydd. Mae cynadleddau, yn eu hanfod, yn cynnig y cyfle i drafod, dadlau, a chyfnewid syniadau. Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd rhai o'r syniadau hyn yn datblygu ac yn helpu i lywio dyfodol y celfyddydau yng Nghymru.
Caryl Lewis
Adroddwr