CROESO I GYLCHLYTHYR Y GAEAF 2008 CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Nodyn gan y Golygydd

Mae wedi bod yn Haf a Hydref eithriadol o brysur i Gyngor Celfyddydau Cymru a’i gleientiaid. Roeddem wedi mwynhau Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus iawn yng Nghaerdydd, lle'r oedd arddangosfa Charles Byrd a’n gweithdai ‘Robotiaid wedi’u Hailgylchu’ wedi rhyfeddu’r 15,550 o ymwelwyr â’r pafiliwn ‘Lle Celf’.

Symposiwm Marchnata’r Celfyddydau eleni, yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, sydd newydd ei hadnewyddu, oedd y gorau erioed ac roedd yr holl docynnau ar gyfer y digwyddiad wedi’u harchebu. Roeddem i gyd wedi gwerthfawrogi’r ymdrech a’r gofal a roddodd staff Theatr y Torch i’n digwyddiad a byddem yn argymell y lleoliad trawiadol hwn a’i fwyd blasus yn gryf i chi i gyd!

Rydym bellach yn edrych ymlaen at Nadolig yn llawn o’r celfyddydau, gyda chyfoeth o bleserau tymhorol i edrych ymlaen atyn nhw – o Ffeiriau Crefftau i Bantomeimiau.

Fel pob amser, anfonwch eich newyddion a’ch safbwyntiau ac unrhyw wybodaeth yr hoffech i mi ei chynnwys yn y cylchlythyr Allanol nesaf ataf cyn diwedd mis Chwefror 2009.

Joanna Davies
Uwch Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau

Prif Llun: Gosodiad 'cathecsis' Anna Lewis, Oriel Mission 2007 (llun: Jesse Seaward)

Read in English

GAIR GAN Y PRIF WEITHREDWR NEWYDD, NICK CAPALDI

Nick Capaldi

Yr un cwestiwn y mae pobl wedi gofyn i mi yn fwy nag unrhyw gwestiwn arall ers i mi gyrraedd Cymru yw “a ydych chi’n mwynhau pethau?”   Fy ateb yw “ydw, yn aruthrol!”  Rwyf wrth fy modd gyda’r croeso cynnes yr wyf wedi’i dderbyn, ac rwyf wedi edmygu ansawdd y gweithgarwch artistig yr wyf wedi’i weld.

Wrth i ni symud i faes newydd gydag economi dan bwysau digyffelyb, ymrwymiad i ansawdd fydd yn cynnig y cyfle gorau i ni ddod allan o’r cymylau tywyll presennol gyda’r celfyddydau yr ydym yn gofalu amdanynt yn fyw ac yn gyfan.  Ni fydd hyn yn hawdd, gan y bydd yn rhaid i ni i gyd weithio’n galed i sicrhau bod pob punt sy’n cael ei gwario yn ymestyn mor bell â phosibl. 

Ond, gadewch i ni gofio hefyd, mewn cyfnodau o anhawster a straen, y gall y celfyddydau gynnig ysbrydoliaeth, adloniant a lloches rhag yr heriau pob dydd sy’n pwyso arnom.  Rwy’n credu’n angerddol yng ngrymoedd trawsnewidiol y celfyddydau, ac yn y nifer o ffyrdd y gall y celfyddydau oleuo ein bywydau a’r byd o’n hamgylch:  natur ddynol, posibilrwydd dynol.

Yn ein Cylchlythyr, fe welwch nifer o enghreifftiau o’r gwaith ardderchog sy’n digwydd ledled Cymru a thu hwnt.  Mae cymaint y gallwn fod yn falch ohono.  Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y gynulleidfa ehangaf posibl yn cael cyfle i fwynhau a chymryd rhan mewn gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel.  Mae’n nod uchelgeisiol, ond mae’n angenrheidiol – ac rwy’n benderfynol y dylai’r nod hwnnw fod wrth galon gwaith Cyngor y Celfyddydau yn y dyfodol.

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

NEGES GAN Y GWEINIDOG TREFTADAETH, ALUN FFRED, AC

Alun Ffred, AC

Mae’r pedwar mis diwethaf fel Gweinidog Treftadaeth wedi bod yn fywiogol, wrth i mi ddod i adnabod pob math o bobl sy’n ymwneud â’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru.

Cefais fy magu mewn tŷ yn llawn o lyfrau ac roedd fy rhieni yn ysgrifennu’n greadigol yn eu hamser sbâr; roedd fy mam yn ysgrifennu straeon byrion ac ambell i ddrama, ac roedd fy nhad yn ysgrifennu barddoniaeth. Roeddwn i’n traflyncu nofelau cowboi Cymraeg gan yr awdur a anwyd ym Mhatagonia, R Bryn Williams, gan gynnwys "Bandit yr Andes" a "Croesi'r Paith".

Fel y rhan fwyaf o bobl ifanc yn fy mhentref, roeddwn i’n canu mewn corau, yn actio mewn dramâu ac yn cystadlu mewn Eisteddfodau. Yn ddiweddarach, arweiniodd fy nghariad at ddrama at yrfa fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd dramâu teledu. Ond roedd fy ngwir gariad at y theatr - actio, ysgrifennu a chyfarwyddo. Hyd yn oed nawr, rwy’n ceisio gweld sioe o leiaf unwaith yr wythnos.

Rwy’n credu’n angerddol y dylai pawb yng Nghymru, lle bynnag y maent yn byw, beth bynnag yw eu cefndir, yn hen ac yn ifanc, fod yn gallu cyfranogi yng nghelfyddydau a diwylliant cyfoethog a bywiog Cymru, a’u mwynhau.

Mae gan bawb ran i’w chwarae. Fel Gweinidog, rwy’n gyfrifol am bolisi celfyddydol yng Nghymru ond wrth gwrs ni all unrhyw beth ddigwydd heboch chi - yr unigolion a’r sefydliadau dawnus a chreadigol sy’n enaid y sector. Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Mae’r cynlluniau ar gyfer Theatr Genedlaethol yn mynd rhagddynt ac mae penodi John McGrath wedi ennyn brwdfrydedd enfawr. Y mis diwethaf, cyhoeddais gyfanswm o £1.7m i helpu wrth wella mynediad at gasgliadau celf cenedlaethol Cymru a chreu rhagor o gyfleoedd i arddangos celf gyfoes ledled y wlad. Bydd £700k o’r arian hwn yn cael ei ddosbarthu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, gan adeiladu ar ei fuddsoddiad o £17.5 miliwn yn y celfyddydau gweledol ers 2000.

Mae darlledu yng Nghymru yn datblygu i gyfeiriadau newydd, er enghraifft, gyda’r BBC yn ystyried symud cynhyrchiad ‘Casualty’ i Gaerdydd a’r posibilrwydd o greu “pentref drama”. Os bydd y cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt, byddant o fudd i ni i gyd, gan helpu i greu a chynnal cymunedau bywiog. Fel yr ydym i gyd yn gwybod, gall creu mynediad at y celfyddydau a diwylliant fod yn gymaint o adfywydd economaidd â sefydlu parc busnes.

Er bod cynnydd wedi’i wneud, ac y bydd yn parhau i gael ei wneud, wrth gwrs, mae heriau o’n blaen. Mae cyllid yn fater anodd . Rydym i gyd eisiau i’r celfyddydau barhau i ehangu a ffynnu, ond yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ni fydd yn hawdd dod o hyd i fuddsoddiad newydd ar gyfer y sector. Dyna pam y mae’n hanfodol bod y sector yn parhau i fod yn greadigol a gwneud y defnydd gorau o’r cyllid sydd ar gael.

Mewn hinsawdd o’r fath, mae hefyd yn bwysicach nag erioed ein bod yn dangos gwerth pellgyrhaeddol y celfyddydau, nid yn unig drwy’r swyddi y gall y sector eu cynnig ond hefyd sut y gall celf gyfoethogi bywydau pobl mewn ffyrdd llai gweladwy ond yr un mor bwysig. Mae angen i ni ddangos sut y gall y celfyddydau gynnig cyffro, angerdd ac adloniant ym myd tywyll y wasgfa gredyd. Enghraifft wych o hyn a welais yn ddiweddar oedd y ddrama sydd wedi ennill gwobrau, ‘Deep Cut’. Gyda gwaith o’r safon hon, rydym yn diffinio ein profiadau ein hunain ac yn sicrhau bod Cymru’n hawlio ei lle ar lwyfan y byd.  

Gadewch i ni sicrhau bod 2009 yn flwyddyn gyffrous a heriol i ni i gyd.

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

DATGANIAD ARDDANGOS CELF GAN GYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Oriel Mostyn

Ddydd Mawrth, 14 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones, AC, ddatganiad am ddyfodol arddangos y celfyddydau gweledol yng Nghymru.

‘Roedd cyhoeddiad y Gweinidog yn cyfeirio at adroddiad a luniwyd gan ymgynghorwyr ABL ar Ddyfodol Arddangos Celf Cymru. Mae'r adroddiad yn amlygu'r angen am Oriel Genedlaethol, a fyddai'n cynnig gofod arddangos a gofod atodol estynedig mewn safle a fyddai'n cael ei ddatblygu yn Amgueddfa Cymru Caerdydd ym Mharc Cathays; a byddai Canolfan Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes, a fyddai'n baralel ond ar wahân, yn arddangos celf gyfoes o Gymru, celf ryngwladol a gwaith arddangos dros dro. Yr uchelgais fyddai creu adeilad o safon debyg i'r cyfleusterau tebyg a geir yn Ewrop.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae Cyngor y Celfyddydau yn canolbwyntio ar gwblhau'r rhaglen gyfalaf gyfredol o adnewyddu ac adeiladu o'r newydd sydd, ers 2001, wedi buddsoddi £24.5m mewn mannau sy'n arddangos celf yng Nghymru. Ymhlith y prosiectau a gwblhawyd mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Davies (Y Drenewydd), Oriel Grefftau Rhuthun ac Oriel Ynys Môn. Ymhlith y prosiectau eraill sydd ar waith mae'r gwaith sylweddol o ailddatblygu Oriel Mostyn yn Llandudno, Chapter yng Nghaerdydd, a'r cynigion datblygu cyffrous ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe wrth iddi agosáu at ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.
Bydd y buddsoddiad ychwanegol o £700,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn gwella'r prosiectau adeiladu yn sylweddol yn Oriel Mostyn, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (y stiwdio artist cyffrous a'r mannau gweithio a ddyluniwyd gan Thomas Heatherwick) a'r Oriel sy'n rhan o waith ail-ddatblygu'r Chapter, un o bwyntiau ffocal Ewrop ar gyfer ymdrechion creadigol.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cydnabod bod astudiaeth ABL wedi gwneud ei gorau i ystyried y realiti a'r heriau o greu cyfleusterau cenedlaethol a newydd o'r fath yng Nghymru. Mae buddsoddiad cyfalaf ar raddfa fawr gan y Llywodraeth, y Loteri a ffynonellau eraill wedi'i glustnodi eisoes, neu wedi'i gadw'n ôl ar gyfer y dyfodol agos. Felly, bydd yn ofynnol i ddatblygiad newydd o'r raddfa hon gael partneriaethau newydd a buddsoddiad newydd os ydyw am gael ei ddatblygu'n llwyddiannus.

Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y cyswllt i'r adroddiad a'r crynodebau gweithredol:http://www.wales.gov.uk/culture
Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

STRATEGAETHAU'R FFURFIAU AR GELFYDDYD

Gan David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau

Cyhoeddir Strategaethau'r Ffurfiau ar Gelfyddyd mewn ffordd sy'n hawdd i'w defnyddio ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru ddydd Mercher 26ain Tachwedd.

http://www.celfcymru.org/publications/publication.asp?id=627

Ceir cyflwyniad pwysig sy'n nodi ein dyheadau ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru a sut y bydd y strategaethau hyn yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r celfyddydau a'r Gymru gyfoes.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y celfyddydau wrth wraidd bywyd Cymru a sicrhau'r amgylchiadau gorau posibl er mwyn i'r celfyddydau ffynnu.  Cydnabyddir bod hyn ond yn bosibl drwy ddatblygu'r adnoddau ar gyfer yr artistiaid, a gellir croesgyfeirio'r strategaethau hyn gyda'n Cynllun Corfforaethol a gyhoeddir yr hydref hwn.

http://www.celfcymru.org/page.asp?id=179

Mae strategaethau'r ffurfiau ar gelfyddyd cyhoeddedig wedi'u crynhoi rywfaint o'r dogfennau hirach y cynhaliwyd ymgynghoriad arnynt ddechrau 2008. Mae bellach yn adeg i ddiolch i bawb sydd wedi cynnal trafodaethau ar gynnwys y strategaethau mewn fforymau gwahanol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mireiniwyd y cynnwys yng ngoleuni'r ymgynghoriad, ac fe'i cymeradwywyd gan y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf 2008.

Ar yr un pryd, mae cyfeiriadau strategol o bwys critigol yn cael eu hail-bwysleisio yma.  Cyflwynwyd y strategaethau i Fwrdd Strategaeth Celfyddydau'r Gweinidog hefyd ym mis Medi 2008.  Ochr yn ochr â'r datblygiadau hyn, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cyhoeddi strategaeth sy'n cwmpasu ei ymagwedd tuag at waith rhyngwladol yn y celfyddydau o nawr tan 2013.

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i ddefnyddio digwyddiadau cyhoeddus, seminarau ffurfiau ar gelfyddyd a chynadleddau i lywio'i farn strategol a datblygu'r syniadau sy'n graidd i'w strategaethau ar ffurfiau ar gelfyddyd.

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

CYNLLUN CORFFORAETHOL

Mae Cynllun Corfforaethol Cyngor Celfyddydau Cymru bellach ar gael i'w lwytho i lawr o'r wefan. I weld y ddogfen, cliciwch ar:

http://www.celfcymru.org/page.asp?id=179

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

ROBOTIAID YN FRITH AR FAES EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CAERDYDD 2008!

'Roedd CCC unwaith eto yn bartner yn Eisteddfod Genedlaethol 2008, yn cefnogi pafiliwn 'Y Lle Celf' a nifer o weithgareddau celfyddydol rhwng 2-9 o Awst 2008. Daeth dros 15,550 o ymwelwyr i'r Lle Celf eleni, er bod y tywydd yn ansefydlog!

'Roedd y Lle Celf yn arddangos y gwaith celf gorau o Gymru gyfan ac agorwyd y pafiliwn yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, 2 Awst am 6.30pm gan yr artist arobryn, Iwan Bala, Yr Athro Dai Smith, Cadeirydd CCC, a'r Arglwydd Elis-Thomas.

Cyflwynodd yr Eisteddfod a CCC gyfle unigryw i ymwelwyr i'r Lle Celf weld gwaith oes yr artist Charles Byrd, wedi'i arddangos mewn un casgliad am y tro cyntaf erioed. Ganed Charles Byrd ym Mhontypridd yn 1916 ac mae wedi byw a gweithio yng Nghaerdydd am y rhan fwyaf o'i fywyd. Mae ei baentiadau manwl iawn yn dangos bywyd bob dydd yng Nghaerdydd, a bellach maent yn ddogfennau hanesyddol bwysig.

Yn ystod y 1960au dechreuodd Charles Byrd, sydd bellach yn 91 oed ac mor brysur ag erioed, arbrofi gyda themâu haniaethol, ac yn ddiweddarach, creodd ddwsinau o beiriannau gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, teganau ac offer; roedd llawer ohono yn bethau roedd wedi'u hailgylchu i greu llongau gofod anhygoel, chwyrligwganod swnllyd neu dyrau lliwgar.

Defnyddiodd Cyngor Celfyddydau Cymru y thema yma yn ei weithdai plant eleni. 'Roedd y gweithdai yn llwyddiannus iawn ac 'roedd y robotiaid a greodd y bobl ifanc yn ddychmygus iawn fel y gallwch weld wrth y lluniau!

Bu i 435 o artistiaid a gwneuthurwyr gyflwyno gwaith celf eleni. Roedd gan y pum arbenigwr - Claire Curneen, Ivor Davies, Tessa Jackson, Nia Roberts a Sue Williams - y dasg aruthrol o ddewis gwaith celf ar gyfer yr arddangosfa: 150 darn o waith celf a chrefft gan 52 o artistiaid a gwneuthurwyr. Yr enillwyr oedd:

  • David Hastie: Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain
  • Suzie Horan: Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio
  • Cymeradwywyd David Cushway a Bethan Ash
  • Anna Pritchard -Ysgoloriaeth Artist Ifanc
  • Purcell Miller Tritton - Y Fedal Aur am Bensaernïaeth
  • Smith Roberts- Plac Teilyngdod
  • Phillip Henshaw -Ysgoloriaeth Penaernïaeth
  • Aled Rhys - Gwobr Dewis y Bobl

'Roedd yna amrywiaeth o stondinau yn y Neuadd Arddangos yn ogystal gan Oriel Makers ac Artistiaid Bro Morgannwg, Suzie Horan a Alison Moger. Cefnogodd Cyngor Celfyddydau Cymru stondin ...a chrefft yn ogystal, oedd yn arddangos gweithiau artistiaid ifanc o Gymru.

Gwnaeth Academi gynnal ei Sgwadiau Sgwennu i Bobl Ifanc yn y Lle Celf hefyd. Eleni, 'roedd y beirdd a'r rapwyr, Ed Holden ac Aneirin Karadog o 'Y Genod Droog' yn mentora'r bobl ifanc.

‘Roedd hi’n Eisteddfod llwyddiannus iawn ond blinedig hefyd! Nawr edrychwn ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009.

http://www.celfcymru.org.uk/viewnews.asp?id=954

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

SYMPOSIWM MARCHNATA'R CELFYDDYDAU 2008

Gan Caryl Lewis

Roedd nifer fawr o gynadleddwyr yn bresennol yn Symposiwm Marchnata 2008, ac mae hynny'n arwydd o ymrwymiad marchnadwyr y celfyddydau yng Nghymru. Ymddengys fod Marchnata'r Celfyddydau yn seiliedig ar gydbwysedd bregus o ymddiriedaeth rhwng yr artist, y marchnatwyr, a'r defnyddiwr, ac ymddengys nad ydym bellach ond yn cyfleu neges i'r defnyddiwr, ond yn datblygu cyfres o gydberthnasau gyda hwy.

Ymddengys fod y celfyddydau wedi sylweddoli ers tro byd nad oes y fath beth yn bodoli â meddwl torfol. Ymddengys fod marchnata i'r gynulleidfa dorfol yn disgwyl methu, am fod pob cynulleidfa'n cynnwys anghenion a gofynion amrywiol iawn. Dywedodd E.M.Forster ‘the books that influence us are those for which we are ready, and have gone a little further down our particular path than we have gone ourselves.’ Felly, drwy ddatblygu'r cydberthnasau hyn gyda'r defnyddiwr, gwaith marchnatwyr y celfyddydau yw achub y blaen, nodi a chyflenwi ar gyfer y twf a'r newid hwn, gyda meddwl creadigol yr unigolyn.

Roedd yr araith gyweirnod gyntaf gan Martin Rhisiart yn gipolwg gwych i faes astudiaethau'r dyfodol. Ystyriodd y celfyddydau yng Nghymru, a'r prif ffactorau sy'n sbarduno newydd yn y 10 neu'r 20 mlynedd nesaf. Ystyriodd twf economaidd gwledydd fel Tsieina ac India a'r newidiadau arfaethedig yn y farchnad lafur.

Maes o law, bydd defnyddwyr yn rhan o'r broses ddylunio, gyda defnyddwyr nid yn unig yn defnyddio, ond yn rhan o gydberthynas gymhleth o gyd-greu. Bydd byd rhithwir yn dechrau cael effaith ar farchnata mewn ffordd llawer mwy uniongyrchol, gyda sganio MRI yn dechrau dangos posibiliadau cyffrous o ran sut y gall y bydoedd 'eraill' effeithio ar y meddwl dynol. Y prif ysgogwyr ar gyfer newid fydd microgynhyrchu wrth gwrs, newid yn yr hinsawdd, a phoblogaeth sy'n tyfu ac yn heneiddio, a mewnfudo. Daeth araith Mr Rhisiart i ben ar nodyn mwy positif wrth iddo ragweld fod cymdeithas yn arwain at greu cyflwr meddyliol allgarol. Mewn byd ôl-fateryddol, mae'n si*r y bydd y celfyddydau a hunanfynegiant yn dod yn ddulliau pwerus wrth archwilio i ddynoliaeth. 

Y sesiwn drafod gyntaf oedd gydag Elen ap Robert. Cyflwynodd gydweithrediad cyffrous iawn rhwng Galeri, Cynulliad Cymru a Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Caernarfon - Pas Peblig. Mae 80% o gymuned Pas Peblig yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, sef chwarter o boblogaeth Caernarfon. Nod y prosiect yw ymgysylltu â'r gymuned leol, datblygu cynulleidfa a sicrhau darpariaeth i aelodau'r gymuned nad ydynt yn ymgysylltu â'r celfyddydau ar hyn o bryd.

Trafodwyd marchnata digidol gan Fran Graham, a'r ffyrdd y gall marchnatwyr nodi ffyrdd syml a chost effeithiol o ddefnyddio'r dulliau digidol orau.  Mae cyfathrebu â chynulleidfa yn eu dewis cyfrwng yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae Facebook (sydd â dros 7 miliwn o ddefnyddwyr - y mae cyfran fawr ohonynt dros 25 oed), My Space a Bebo yn fannau llawn cysylltiadau. Soniwyd am farchnata drwy negeseuon testun a negeseuon ebost, yn ogystal â'r pwysigrwydd o dreulio amser ar-lein er mwyn ceisio dod i adnabod y cymunedau gwahanol - yr arferion da yn ogystal â'r hyn sy'n ymarferol.

Trafododd Paul White CV y Marchnatwyr celfyddydau perffaith ac roedd yn ystyried p'un a allai safonau proffesiynol Cymru wella ein gwlad drwy ymgysylltu â chymunedau a gwreiddio'r celfyddydau'n ddyfnach i wneuthuriad Cymru. Ymhlith yr hyn a drafodwyd roedd roi gwybodaeth am farchnata, cyfeiriad marchnata, datblygu cynnig y cwsmer, rheoli a sicrhau proses gyfathrebu a gwerthuso, yn ogystal â phartneriaid gwaith posibl.

Yn ystod y sesiynau 'Y Drafodaeth Fawr', cafodd y cynadleddwyr gyfle i leisio barn, o dan arweiniad Ann Kellaway. Trafodwyd nifer o heriau a phroblemau, yn cynnwys yr angen i ailfrandio'r celfyddydau a chodi'r proffil. Roedd rhai cynadleddwyr am rannu syniadau o ran sut i oresgyn ffiniau ymgysylltu, roedd eraill am geisio codi'r gydnabyddiaeth o farchnata'r celfyddydau o fewn y sector. Y consensws cyffredinol oedd mai'r ffordd orau o ddenu twristiaid diwylliannol oedd drwy sicrhau sîn gelfyddydol gadarn, iach yng Nghymru, nid llwyfannu digwyddiadau 'Cymreig'. Roedd datblygu sgiliau ac adnoddau hefyd yn bwysig iawn i'r cyfranogwyr, yn ogystal â'r angen i ystyried datblygu cynulleidfaoedd yn fanylach.

Ar ôl cinio blasus, dychwelodd y cynadleddwyr ar gyfer sesiwn y pnawn. Roedd sesiwn Elaine Cabut yn canolbwyntio ar holi pa mor dda rydym yn adnabod ein cynulleidfaoedd. Mae'n aml yn anodd cael teimlad o'r ymateb pan geir sylwadau dros y rhyngrwyd, sydd naill ai'n nodi'r ganmoliaeth uchaf neu'r feirniadaeth fwyaf hallt. Drwy ddod i wybod am gynulleidfaoedd, bydd y gynulleidfa'n cael ymdeimlad o berchenogaeth o sefydliad, ac mae'n golygu y gellir cynnal cydberthynas tynnach â'u hanghenion a'u gofynion. Esboniwyd manteision dialog uniongyrchol. Rydym yn aml yn casglu ystadegau am oedrannau a rhyw'r gynulleidfa, pan ddylem fod yn edrych ar gredoau ac agweddau. Trafodwyd dulliau a hawliau, ysgogwyr ymgysylltiad â'r cyhoedd a sefydliadau defnyddiol hefyd.

Yr hyn a oedd yn ymddiddori Theatrau Sir Gâr oedd mynd gam ymhellach ar gyfer cynulleidfaoedd. Drwy gynnal rhaglen beilot i drefnu bysiau wennol am ddim, marchnata drwy negeseuon testun, cardiau teyrngarwch a swyddfa docynnau symudol, maent yn cyrraedd lefel newydd o fod yn rhagweithiol, sy'n gyffrous ac yn rhagorol.  

Yn seminar olaf y sesiwn, yng nghwmni June Francois a Gemma Hughes, cynigiwyd arweiniad drwy fynyddoedd o ddata sy'n amlhau. Mae'n aml yn anodd gwybod lle i ddechrau. Cyflwynwyd gwefan ADUK, safle sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n golygu bod y broses o ddehongli data yn haws. Mae ACORN a MOSAIC yn creu proffiliau am ddefnyddwyr y celfyddydau a gellir eu defnyddio i ateb cwestiynau llosg o ran ein hymgyrchoedd marchnata a'n helpu i ddefnyddio arian yn fwy effeithiol.

Traddodwyd araith gyweirnod olaf y diwrnod gan Rick Bond. Mewn araith swreal iawn, fe'n cyflwynwyd i fyd rhyfeddol y digwyddiad lle na cheir cynulleidfa. Trafododd yr hyn sy'n debyg rhwng marchnatwyr a phobl sy'n codi arian, a dangos ffyrdd o ddenu rhoddwyd newydd, a chynulleidfa yn sgil hynny, drwy ei waith ymchwil. Roedd No-Show Proms yn swnio'n sbort, ac mae dod o hyd i ffyrdd cost effeithiol o gyrraedd cynulleidfa a rhoi'r teimlad da hwnnw iddynt yn  syniad cyffrous. Cyflwynodd hefyd ei brosiect 'Who Dares Cares', sef gwefan benodedig ar gyfer gwneud arian i elusennau tra'n rhoi platfform cymdeithasol llawn hwyl i'r defnyddiwr.

I gloi, a thrwy fenthyg ymadrodd o drydydd sesiwn y dydd, fe ymddengys fod llawer o 'jynglau' i fynd i'r afael â hwy - 'jynglau' data, 'jynglau' digidol, 'jynglau' ail-fywyd, 'jynglau' gwybodaeth am y dyfodol. Ymddengys fod y celfyddydau yn profi cyfnod o newid sylweddol ar hyn o bryd. Mae'n sicr y bydd astudio tueddiadau a phatrymau yn ein helpu i ddod o hyd i droedle mewn byd cyfnewidiol. Gall yr hinsawdd ariannol anrhagweladwy a'r amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael i ni fod yn her. Ein dewis ni fel unigolion a sefydliadau yw dewis ein llwybrau ein hunain yn ystod yr anawsterau hyn, tra'n dysgu oddi wrth y bobl sydd o'n hamgylch. Mae'n bur debyg y bydd symposia fel hyn yn goleuo'r ffordd ymlaen i ni.  

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

CYFARWYDDWR ARTISTIG NEWYDD NATIONAL THEATRE WALES

John McGrath

Ar Orffennaf 28, 2008, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru taw John E. McGrath fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd y cwmni theatr iaith Saesneg, sef National Theatre Wales (NTW).

Ganed John E. McGrath yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru ac fe'i fagwyd yn Lerpwl. Ef yw Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr y Contact Theatr, Manceinion ar hyn o bryd, theatr sydd wedi ennill gwobrau lu ac sydd wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol am greu gwaith newydd cyffrous, denu cynulleidfaoedd amrywiol ifanc a sicrhau cydweithio rhyngwladol.
Ymhlith rolau blaenorol John mae Cyfarwyddwr Artistig Theatre Venture yn Newham yn Llundain, a Chyfarwyddwr Cysylltiol y theatr enwog, Experimental Theatre Company, Mabou Mines yn Efrog Newydd.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer datblygu NTW, a chyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Hydref 2007 y byddai'n gwneud buddsoddiad sylweddol er mwyn sefydlu'r cwmni theatr newydd, fel rhan o ddarpariaeth well o Theatr Iaith Saesneg yng Nghymru. Yna rhoddwyd y cyfrifoldeb i Gyngor Celfyddydau Cymru weinyddu'r gwaith o ddatblygu NTW.

Ni fydd y cwmni newydd wedi'i leoli mewn adeilad, sy'n golygu y bydd yn rhydd i gomisiynu a chreu cynyrchiadau newydd. Bydd NTW yn gweithio'n agos gyda'r seilwaith theatrig sy'n bodoli yng Nghymru i greu cynyrchiadau proffil uchel a fydd yn symud y tu hwnt i ofod y theatr draddodiadol o bryd i'w gilydd.

Bydd John yn dechrau ei swydd newydd ym mis Ionawr 2009. Fe fydd yna dri apwyntiad newydd ychwanegol i’r NTW yn ogystal; Cynhyrchydd a dau Ymgynghorydd Creadigol fydd yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.  I ddarllen mwy, ewch ar:

http://www.celfcymru.org.uk/viewnews.asp?id=937

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

CYMRU YN BIENNALE CELF FENIS 2009

Mari Beynon Owen a Bruce Haines

Ar Awst 18 2008, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru benodiad Mari Beynon Owen yn Gomisiynydd a Bruce Haines yn Guradur ar gyfer Pafiliwn Cymru yn Biennale Celf Fenis yn 2009.  Byddant yn gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Prosiect newydd, Robert Lowe, a’r Pwyllgor Ymgynghorol, y mae ganddo hefyd dri aelod newydd – Christopher Coppock, Cyfarwyddwr, Ffotogallery Caerdydd; Maggie Maxwell, Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC) a Benjamin Ward, Cyfarwyddwr, Celfyddydau Brunswick, Llundain.

Maent yn ymuno â’r aelodau sy’n parhau: Anthony Shapland, artist, sylfaenydd a Chyfarwyddwr g39, Gofod Celf Cyfoes Dros Dro, Caerdydd; Cath Sherrell, Swyddog Addysg yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ac Emrys Williams, artist a darlithydd yng Ngholeg Menai, Bangor.

Gyda’r cyhoeddiad ynglŷn â phwy fydd yn cynrychioli Cymru yn Biennale Celf Fenis 2009 ar fin digwydd, mae’r tîm newydd wedi dechrau ar ei waith o baratoi ar gyfer y fenter gelfyddydol ryngwladol nesaf o bwys i Gymru.

Bydd arddangosfa 2009 unwaith eto yn cael ei chynnal yn adeiladau’r Ex-Birreria ar Ynys Giudecca yn Fenis, cartref i’r arddangosfeydd blaenorol o Gymru, a bydd yn agored i’r cyhoedd o 7 Mehefin - 22 Tachwedd 2009.

Ar gyfer datblygiadau a chyhoeddiadau pellach, ewch ihttp://www.walesvenicebiennale.org

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

GWOBRAU AMRYWIAETH 2008

Azur & Asmar
Gan Jennifer Stoves a Siân Thomas

Unwaith eto eleni, roedd Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gefnogi Gwobrau Amrywiaeth 2008 a Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.

Ddydd Gwener 31ain Hydref, ar ôl llawer o drafodaeth ynglŷn â pha wisgoedd hudolus i’w gwisgo a pha opsiwn i’w ddewis oddi ar y fwydlen, fe aeth criw o staff Cyngor Celfyddydau Cymru i Neuadd y Sir, Caerdydd ar gyfer y Gwobrau Amrywiaeth. Roedd y digwyddiad cyfareddol hwn yn dathlu cyflawniadau sefydliadau ac unigolion o bob rhan o Gymru sydd wedi chwarae rhan wrth herio gwahaniaethu, hyrwyddo amrywiaeth ym maes cydraddoldeb hiliol neu annog cydlyniant cymunedol a chysylltiadau cymunedol cadarnhaol.

Arweiniwyd y noson gan Linda Mitchell a gyflwynodd amrywiaeth o berfformiadau gan artistiaid a oedd yn hanu o Tiger Bay yr holl ffordd draw i Tsieina. Roedd prif ffocws y digwyddiad, fodd bynnag, ar y gwobrau eu hunain. Roedd cynrychiolaeth dda o sefydliadau celfyddydol ymhlith y rhai a enwebwyd, a chafodd dau o’r Sefydliadau sy’n derbyn cyllid Refeniw oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru eu henwebu:

Enwebwyd Theatr Spectacle am eu gwaith a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Academi’r Celfyddydau Asiaidd, sydd wedi’i lleoli ym Mryste, a oedd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o Goleg Morgannwg yn y Rhondda ymgysylltu â’r ddrama, “A  Lifetime on Tip Toes”, gan Mazhar Tirmazi, sy’n canolbwyntio ar y profiad Pwnjabaidd o’r Rhaniad.

Derbyniodd Celfyddydau Cymunedol Rhyngddiwylliannol De Cymru (SWICA) wobr am y Grŵp Cymunedol Gorau. Roedd y wobr hon yn cydnabod "gwaith SWICA wrth gyflwyno a datblygu Carnifal MAS Abertawe yn llwyddiannus dros ben dros y deng mlynedd ddiwethaf.”

Derbyniodd Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown wobr hefyd.

Ar ôl cyfaredd a sglein y noson gynt, daethom yn ôl i’r ddaear gyda dechrau cynnar y bore canlynol. Ddydd Sadwrn 1af Tachwedd cyrhaeddodd y dathliad o Fis Hanes Pobl Dduon ei anterth yng Nghanolfan Hamdden Channel View. Lansiwyd y diwrnod mewn dull Affricanaidd traddodiadol gyda sŵn drwm, ynghyd â dawnswyr, ac roedd yn cynnwys arddangosfeydd, stondinau, gweithdai a pherfformiadau gan bobl ifanc o bob rhan o Gymru.

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru, David Alston, araith fel rhan o’r seremoni agoriadol tra ein bod ni wedi helpu i weini bwyd i’r gwesteion –  casafa, iam neu daten felys unrhyw un? Mae ein gwybodaeth o goginio Gambiaidd yn helaeth erbyn hyn ac rydym bellach yn gwybod na ddylech weini cwscws melys gyda stiw sawrus ar unrhyw gyfrif!  Ar ôl derbyn sylw ar raglen "Wales This Week" ITV Cymru, daeth llawer iawn o bobl i’r digwyddiad – daeth ein bwyd i ben hyd yn oed!

Cydlynwyd Mis Hanes Pobl Dduon gan Rwydwaith Sector Gwirfoddol Pobl Dduon Cymru [BVSNW]. I ddarllen rhagor, cliciwch ar:

http://www.celfcymru.org.uk/viewnews.asp?id=1023

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

CWMNÏAU DYFARNIADAU DISGLAIR YN DOD Â CHELF AT WRAIDD EU CYMUNEDAU

Oriel Glynn Vivian, Abertawe

Ar 24 Gorffennaf 2008, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru y byddai 22 o sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn cael Dyfarniadau newydd Cwmnïau Disglair.

Fis Tachwedd diwethaf, clustnododd Llywodraeth Cynulliad Cymru £4.5m ychwanegol i greu cronfa, y byddai CCC yn ei defnyddio yn ystod y tair blynedd nesaf i wobrwyo cwmnïau neu unigolion Disglair ym maes y celfyddydau sy'n dangos rhagoriaeth ac arloesedd yn eu maes. Mae cyfnod y Dyfarniad yn cwmpasu dwy flynedd, (2008-10), a chyfanswm yr adnodd ar gyfer gwaith y cwmnïau hyn fydd £2.9m.

Mae'r rhai y dyfarnwyd Dyfarniad Cwmni Disglair iddynt wedi dechrau gweithio ar eu prosiectau eisoes, sy'n amrywio o brosiectau celfyddydau cymunedol arloesol, i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc, comisiynau artistiaid a mynd â gwaith ar daith ledled y byd.
I ddarllen mwy am brosiectau’r Cwmnïau Disglair ewch ar y wefan:
http://www.celfcymru.org.uk/viewnews.asp?id=1003

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

Y CELFYDDYDAU Y TU ALLAN I GAERDYDD YN MWYNHAU HYDREF PRYSUR IAWN!

Kindertransport - Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Mae cynllun llwyddiannus Cyngor Celfyddydau Cymru, y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd, wedi profi Hydref prysur iawn yn 2008, gydag artistiaid rhyngwladol a chenedlaethol adnabyddus wedi ymweld â Chymru dros y misoedd nesaf.
Caiff y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ac fe'i lluniwyd er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd y tu allan i'r Brifddinas yn cael y cyfle i fwynhau perfformiadau a chynyrchiadau o'r safon uchaf gan berfformwyr celfyddydol a chwmnïau theatr adnabyddus.

Mae Theatr Mwldan, Aberteifi, sydd wedi ennill Dyfarniad Cwmni Disglair yn ddiweddar, yn mwynhau ei thrydedd blwyddyn fel rhan o'r cynllun. Croesawodd Mwldan yr enwog Billy Cobham a band jazz/lladin/ffync Asere i Gymru ar daith a ddechreuodd ar 2il Hydref yn Galeri, Caernarfon ac a ddaeth i ben ym Melfast ar 25 Hydref. Mae Billy, sy'n gerddor dylanwadol iawn, wedi rhoi'r curiad nôl ym mhopeth, o ffync i fiwsig yr enaid a jazz, mae wedi chwarae gyda rhestr o gerddorion enwog yn cynnwys Miles Davis, George Benson, Oscar Peterson, Jack Bruce, a Herbie Hancock.

Daeth cerddor rhyngwladol arall o fri i Gymru yn ddiweddar diolch i'r Celfyddydau y tu Allan i Gaerdydd a Mwldan, sef yr ysbrydoledig Stella Rambisai Chiweshe and the Heart of the Earthquake Band. Cyflwynodd Stella a'r band brofiad cerddorol atgofus oedd yn cyfuno offeryn y mbira gyda chynnwys hygyrch a swynodd y gynulleidfa.

Croesawodd Mwldan hefyd Mappa Mundi nôl, a 'The Canterbury Tales', ag agorodd yn Mwldan ar Hydref 3ydd cyn mynd ar daith o  amgylch Cymru a Lloegr tan Tachwedd 15. Mae Mappa Mundi wedi cael cefnogaeth cynllun Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei gynyrchiadau teithiol blaenorol, yn cynnwys ei gynhyrchiad ar y cyd â Theatr Mwldan a Chreu Cymru: Moll Flanders (2007) a The Importance Of Being Earnest (2008).

Mae Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, hefyd wedi mwynhau cyfnod prysur iawn yn ystod yr Hydref mewn perthynas â'r Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd. Gwnaeth Brycheiniog gyd-gynhyrchu cynhyrchiad newydd o Cyrano de Bergerac â Theatr Na Nog. Agorodd y sioe ar ddiwedd mis Hydref gan deithio o amgylch Cymru a'r DU i gymeradwyaeth mawr.

Cyflwynodd Brycheiniog hefyd, ‘Romeo and Juliet’ Cwmni Theatr Cymru, Billy Conbham ac Asere, The Vagina Monologes, Kindertransport o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y Coreograffydd newydd syfrdanol Hofesh Shechter, Ladyboys of Bankok, Bellowhead, Fascinating Aida, BBC NOW a sioe newydd London mozart Players a addaswyd gan Lynne Plowman, 'Dr Caligari a Benjamin Zephaniah.'

Cyflwynodd Theatr y Torch, Aberdaugleddau, 'Cinderella' a 'Neville's Island fel eu cynyrchiadau sy'n rhan o gynllun y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd. Adroddodd 'Neville's Island'stori llyn sy'n amgylchu ynys fach o'r enw Rampsholme, ger Derwennydd, lle mae'r arwyr anlwcus yn cael eu gadael ar ynys anial ar ôl i sesiwn meithrin tîm fynd o chwith. Er mwyn paratoi ar gyfer y perfformiad hwn, cynhaliwyd diwrnod meithrin tîm go iawn i'r actorion ar arfordir gwyntog Sir Benfro! Cafodd 'Neville's Island' ei berfformio gan Gwmni Theatr y Torch o Ddydd Mercher, Hydref 8fed tan ddydd Sadwrn, Hydref 25ain.

Llyfr Mawr y Plant

Aeth Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth â 'Kindertransport' ar daith i saith lleoliad ledled Cymru ym mis Hydref. Wedi'i hysgrifennu gan Diane Samuels a'i chyfarwyddo gan Dan Danson, mae Kindertransport yn stori gyffrous am fam a merch, lle mae Faith yn datgelu hanes ei mam ac yn canfod mai plentyn amddifad Iddewig ydoedd, a gafodd ei hanfon i'r DU yn 1939 er mwyn dianc rhag yr Holocost.

Agorodd Kindertransport yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar Hydref 1, cyn mynd ar daith o amgylch Cymru, gan ymweld â Theatr y Sherman, Theatr Hafren, Theatr Brycheiniog, Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Galeri Caernarfon a Clwyd Theatr Cymru.
Yng ngogledd Cymru, bu Theatr Bara Caws, Galeri a Theatr Gwynedd â'r daith lwyddiannus iawn o 'Llyfr Mawr y Plant', sydd hefyd wedi'i gefnogi gan y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd.  Gwelwyd gymeriadau hyfryd y llyfr hwn, o Siôn Blewyn Coch i Wil Cwac Cwac yn dod yn fyw ar y llwyfan, gyda chaneuon a gyfansoddwyd yn arbennig gan Catrin Edwards, Emyr Rhys yn cyfarwyddo'r gerddoriaeth, a Cai Thomas yn gyfrifol am y gwaith coreograffi. Ysgrifennwyd y sioe gan Gareth F. Williams, a chaiff ei chyfarwyddo gan Tony Llewelyn. ‘Roedd hon yn wledd i blant ac oedolion!

Am fwy o wybodaeth am gynllun y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd Cyngor Celfyddydau Cymru, ewch i

http://www.celfcymru.orgneu anfonwch neges e-bost at:info@artswales.org.uk

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

NEWYDDION O’R GOGLEDD 

Claire Curneen (Canolfan Grefftau Rhuthun)
Gan Siân Tomos, Cyfarwyddwr, Swyddfa Gogledd Cymru

Mae Canolfan Grefftau Rhuthun yn parhau i fynd o nerth i nerth yn ei hadeilad newydd. Ar ôl derbyn canmoliaeth fawr yn y wasg genedlaethol am ei phensaernïaeth a’i chyfleusterau, mae’r ddwy arddangosfa ddilynol, yn gyntaf gwaith gan David Watkins ac, yn ail, arddangosfa Codi’r Bar: gwaith gan artistiaid rhyngwladol amrywiol sy’n gweithio gyda metel, wedi cynnal safon uchel y cyflwyniadau a osodwyd yn yr arddangosfeydd agoriadol.

Roedd yn arbennig o foddhaus gweld gwaith gan Claire Curneen a Pamela Rawnsley yn ymddangos yn yr orielau llai ochr yn ochr â’r arddangosfa o safon ryngwladol yn y brif oriel. Mae’r ddau artist wedi ennill dyfarniadau Cymru Greadigol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae eu gwaith diweddaraf yn dangos dilyniant proffesiynol arwyddocaol.  Mae dod â’r gwaith rhyngwladol gorau at ei gilydd yn y modd hwn a meithrin doniau cartref yn llwyddiannus yn dangos gwaith Canolfan Grefftau Rhuthun ar ei orau. I ddarllen rhagor, cliciwch ar:http://www.celfcymru.org.uk/viewnews.asp?id=1024

Mae Oriel Mostyn wedi derbyn £300,000 tuag at eu datblygiad cyfalaf fel rhan o raglen datblygu’r Celfyddydau Gweledol Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Alex Hugo wedi’i benodi i olynu Tracy Simpson fel Cyfarwyddwr Oriel Wrecsam.  Roedd Alex yn gweithio yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe gynt.

Llyfr Mawr y Plant

Mae Llyfr Mawr y Plant a Llyfr Bach y Plant wedi bod ar deithiau cenedlaethol yn ystod mis Hydref a dechrau mis Tachwedd.  Mae llawer iawn o bobl wedi mynychu’r cynyrchiadau hyn, sy’n seiliedig ar y casgliad o straeon Cymraeg clasurol poblogaidd i blant, ac maent wedi bod wrth fodd cynulleidfaoedd.  Llyfr Mawr oedd un o’r Cynyrchiadau Theatr Gerdd Cymraeg cyntaf ar y prif lwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.  Mae Galeri a Theatr Bara Caws yn gobeithio parhau i gydweithio i gynhyrchu sioe arall sy’n gyfeillgar i deuluoedd yn y dyfodol. Roedd y ddau gynhyrchiad wedi derbyn dau grant Cynhyrchu a Theithio y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd.
Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cydweithredu yn ddiweddar ar brosiect peilot o’r enw ‘Criw Celf’. Yn seiliedig ar fodel y ‘Sgwadiau Sgwennu’ llwyddiannus a ddatblygwyd gan yr Academi, y syniad oedd gweithio gydag ysgolion cynradd er mwyn adnabod 15 o ddisgyblion ym Mlynyddoedd 5 a 6 o fewn y sir a oedd yn dangos dawn neilltuol yn y celfyddydau gweledol, a meithrin a datblygu’r ddawn honno y tu hwnt i gwmpas yr amgylchedd ysgol cyffredin.  Mae’r prosiect peilot wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Celfyddydau Cymru bellach yn ystyried sut y gellid ei ymestyn – gan barhau i weithio gyda’r garfan hon o ddisgyblion a disgyblion eraill.

Mae’r awdur, Rod Sweet a’r artist a’r ffotograffydd, Tim Williams wedi arwyddo cytundeb cyhoeddi llyfr yn ddiweddar gyda chyhoeddiadau Mark Batty yn Efrog Newydd.  Bydd y llyfr yn cael ei ddosbarthu yn y DU gan Thames a Hudson yn gynnar yn 2009. Mae 'Instructions for the Apocalypse' yn cyfuno ffuglen, ffotograffau archifol, gwaith ffotograffig newydd a’r thema amgylchynol archwilio cyd-destun. 

Mae Rod Sweet yn newyddiadurwr / awdur sydd wedi’i leoli ym Mhenmaenmawr, Conwy ac mae Tim Williams yn artist lens sydd wedi’i leoli ym Mhontllyfni, Gwynedd. Derbyniodd y prosiect Grant Bach gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ar y cychwyn ac mae’n dangos pa mor bwysig ac arwyddocaol y gall y dyfarniadau hyn fod ar adegau hanfodol yng ngyrfaoedd artistiaid.

Mae’r cyfansoddwr Guto Puw a’r prifardd cadeiriol Llion Jones – y mae’r ddau ohonynt yn darlithio ym Mhrifysgol Bangor – wedi’u comisiynu i greu gwaith i ddathlu agoriad Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd.

Mae Ysgol Glanaethwy yn parhau â’u blwyddyn eithriadol o lwyddiannus drwy gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Côr y Flwyddyn BBC Radio 3 yn Lerpwl ar Dachwedd 8fed. Hefyd, mae’r holl docynnau i’w cyngerdd i ddathlu eu pen-blwydd yn 18 oed yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar Dachwedd 28ain wedi’u gwerthu.

Galeri - Prosiect Animeiddio

Cynhaliwyd yr ail ŵyl ffilmiau i blant a phobl ifanc, PICS 2, yn Galeri rhwng 7-9 Tachwedd.  Agorodd yr ŵyl gyda’r dangosiadau cyntaf o ddwy ffilm a grëwyd yn lleol. Mae’r gyntaf, ‘Elvis Preseli’ yn ffilm fer wedi’i hanimeiddio gan blant a staff Uned Gyfeirio Brynffynnon yn y Felinheli a drefnwyd gan Galeri, Caernarfon. Roedd rhaglen ddogfen ‘pry ar y wal’ gan BBC Cymru wedi recordio’r broses o’i chreu ac fe’i dangoswyd hefyd yn nigwyddiad y dangosiad cyntaf.  Roedd y plant hefyd wedi cydweithio ag opera sebon S4C, ‘Rownd a Rownd’, a dangoswyd y canlyniadau ar ‘Uned 5’, rhaglen deledu S4C i blant ar 12 Tachwedd.

Mae’r ail ffilm, Observations of an Alien, gan yr artist Sean Harris ac mae’n archwilio hunaniaeth ddiwylliannol o safbwynt rhywun o’r tu allan. Mae’n cynnwys ymddangosiad cyntaf y prifardd coronog Iwan Llwyd ar y sgrîn fawr a chyfraniadau gan ddisgyblion Ysgol Brynrefail yn Llanrug.

Derbyniodd yr artist sain Simon Profitt grant tuag at Locator 2, prosiect symudiad amgylcheddol mewn cydweithrediad â’r dawnsiwr Simon Whitehead a rhaglen Dawns Ryngwladol Migrations.

Derbyniodd y gwneuthurwr ffilmiau Sally Pearce grant i ddatblygu ei chysyniad ffilm ‘Chernobyl Horses’ – prosiect sy’n seiliedig ar y ceffylau Przwalski a ryddhawyd i’r Ardal dan Waharddiad o amgylch Gorsaf Bŵer Chernobyl. 

Derbyniodd y ddawnswraig Helen McGreary grant hyfforddi i astudio dawns Affro-Caribïaidd, Brasilaidd, Ciwbaidd a Hip Hop arbenigol ym Mryste.

Derbyniodd y Cyfarwyddwr Opera Rhyngwladol Patrick Young grant ymchwil a datblygu i ymchwilio i’r posibilrwydd o opera Cymraeg ar raddfa fawr gan ddefnyddio doniau proffesiynol a lled-broffesiynol mewn cysylltiad â’r Eisteddfod Genedlaethol.

Derbyniodd yr artist gweledol Sarah Southall grant i ddatblygu prosiect gydag eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Cymru.

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

GAIR O’R GORLLEWIN

Gan Amanda Loosemore, Cyfarwyddwr, Swyddfa Gorllewin Cymru

Cynhaliwyd cyfweliadau ddiwedd mis Mai ar gyfer swydd wag Swyddog Datblygu’r Celfyddydau sydd wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin, ac rwy’n falch o gyhoeddi bod Rolande Thomas wedi’i benodi. Mae’n ychwanegiad i’r tîm a groesewir yn fawr, ac mae’n parhau i brofi’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn ei ymgais dewr i ddangos ei bod yn bosibl teithio o amgylch y Dywysogaeth weithiau heb orfod croesi Clawdd Offa!

Byddwn yn ffarwelio â Lynwen Rees gyda thristwch ddiwedd mis Rhagfyr 2008. Mae Lynwen wedi gweithio’n ddiflino dros y Cyngor am dros 20 mlynedd mewn sawl rôl, ac mae wedi dangos uniondeb, ymroddiad ac ymrwymiad mawr. Yn bersonol, rwyf i wedi gweithio gyda Lynwen am dros 15 mlynedd, a byddaf yn gweld eisiau ei hiwmor da, ei phrofiad a’i gwybodaeth yn aruthrol.

Newyddion y Celfyddydau

Yr Ystafell Aros

Cyfnod prysur dros ben, fel y mae bob amser. Roedd Cwmni Theatr Arad Goch wedi cynnal agoriad swyddogol eu cartref newydd yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf fel rhan o benwythnos o ddathliadau. Mae drama gymunedol newydd y Cwmni, “Yr Ystafell Aros”, gan Caryl Lewis, yn teithio o amgylch Cymru ym mis Tachwedd a Rhagfyr.

Roedd Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian wedi dathlu eu pen-blwydd yn 50 oed yn 2008, gydag arddangosfa o waith a ddewiswyd yn arbennig a oedd yn cynrychioli’r ystod eang o waith yng Nghasgliadau Parhaol yr Oriel o gelfyddyd gain a chymwysedig.

Cynhaliwyd perfformiad cyntaf Cymru o “The Edge of Love” yn Abertawe ym mis Mehefin. Roedd y ffilm, sy’n troi o amgylch bywydau Dylan Thomas, Vera Killick a Caitlin Thomas, wedi’i ffilmio’n bennaf ar leoliad yn Nhalacharn.

Roedd Artswave Cymru ac Iwerddon wedi lansio’r prosiect ‘Celf ar Fwrdd’ ym mis Mehefin, a oedd yn dangos gwaith artistiaid o Gymru ac Iwerddon, ac yn dathlu’r rhanbarthau yn union o amgylch porthladdoedd Abergwaun a Rosslare.

Cynhaliwyd Gŵyl CYMRU ESTONIA a oedd yn hyrwyddo gwaith nifer o unigolion a chwmnïau, gan gynnwys Bale Cenedlaethol Estonia yn perfformio ‘Hamlet’ yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin ym mis Hydref.

Agorwyd cartref newydd anhygoel Theatr y Byd Bach wrth ymyl Theatr Mwldan – sydd hefyd wedi’i hyrwyddo fel “lle creadigol i gymuned greadigol” – yn swyddogol gan Rhodri Glyn Thomas ym mis Mehefin.

Iesu - Theatr Genedlaethol Cymru

Roedd Oriel Myrddin wedi cynnal arddangosfa – “Gwreichion” – a oedd yn dathlu dawn greadigol disgyblion o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin a gymerodd ran yn eu rhaglen estyn allan drwy gydol 2008.

Cynhaliwyd y drydedd Ŵyl Straeon Digidol (gydag enw rhyngwladol a chynulleidfa debyg) sy’n ehangu’n gyflym, yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ym mis Mehefin. Fel yr unig ddigwyddiad o’i fath yng Nghymru, roedd yn cynnwys prif siaradwyr o Brydain, Alasga a Norwy.

Roedd Theatr Ieuenctid Canolbarth Powys wedi dathlu eu pen-blwydd yn 21 oed ym mis Hydref gyda “The Snow Queen”, cynhyrchiad a ysgrifennwyd gan y cyn-aelodau Brad Birch ac Andrew Sterry.

Cyflwynwyd Gwobr Impetus i Gwmni Theatr “Mess up the Mess” sydd wedi’i leoli ym Mrynaman mewn seremoni a gynhaliwyd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ym mis Gorffennaf. Cyflwynwyd y wobr gan Gomisiynydd Plant Cymru, ac roedd yn un o ddim ond 15 o wobrau o’r fath a roddwyd i brosiectau ysgolion neu ieuenctid a oedd yn mynd i’r afael â materion hawliau dynol byd-eang.

Rebecca Griffiths, enillydd Cerddor Ifanc Dyfed

Roedd y Theatr Genedlaethol wedi teithio gyda’r ddrama ddadleuol “Iesu!” a ysgrifennwyd gan Offeiriad yr Eglwys yng Nghymru, Aled Jones Williams. Mae’r gwaith yn archwilio perthnasedd marwolaeth aberthol Crist yn y byd llawn gwrthdaro sydd ohoni, ac roedd yn dangos menyw yn portreadu Iesu!

Cynhaliwyd rownd derfynol Cerddor Ifanc Dyfed yn Theatr Mwldan ym mis Tachwedd, gan ddenu cynulleidfaoedd sy’n tyfu a dangos nifer o artistiaid ifanc dawnus. Roedd yr enillydd, Rebecca Griffiths, 17, o Aberdaugleddau, wedi creu argraff ar y beirniaid gyda’i pherfformiadau meistrolgar ar y Clarinét.

Mae Cwmni Ieuenctid Ceredigion – CIC! – yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed yn 2008. Crëwyd eu cynhyrchiad cyntaf yn Theatr Felinfach mewn ymateb i gau ffatri laeth Dairy Crest, sy’n cynnig adlais iasol o’r achosion diweddar o gau yn Nyffryn Aeron, a’r sail ar gyfer eu cynhyrchiad “Milcshêc!” yn Felinfach ym mis Hydref.

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

DIGWYDDIADAU’R DE

Gan David Newland, Cyfarwyddwr, Swyddfa De Cymru

Yn ystod mis Medi, roedd Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd wedi cyflwyno ‘Osez!’ – prosiect awyr agored safle-benodol a oedd yn para am wythnos ac a oedd yn cynnwys cydweithrediad rhwng y coreograffwyr Sean Tuan John (Cymru) a Karine Ledoyen (Quebec), saith dawnsiwr o Gymru a saith o Ganada, a greodd wahanol ddarnau byr yn eu tro a’u perfformio yn yr awyr agored ger y cei bob nos.

Roedd derbynnydd y Dyfarniad Cwmni Disglair, Theatr Iolo yng Nghaerdydd, wedi dathlu 21 mlynedd o greu theatr ar gyfer pobl ifanc ddydd Sadwrn 11eg Hydref yn Theatr Sherman. Yn dilyn cyflwyniad o More Grimm Tales ymunodd y gynulleidfa yn y dathliadau gyda pharti pen-blwydd ym mhresenoldeb Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a Julie Morgan A.S. dros Ogledd Caerdydd.

Cynhaliwyd Llwybr Celfyddydau Cymunedol ‘Postcards From Home’ Cymdeithas Celfyddydau’r Merched yn Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd yn ystod mis Medi. Gallech grwydro drwy’r ‘Gosodiad Ystafell Fyw’ a mwynhau gweithiau celf a gynhyrchwyd gan fenywod y prosiect ysbrydoledig hwn neu gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gweithdy fel creu eich gwaith celf cerdyn post eich hun gyda’r artistiaid Becky Adams a Holly Davey, neu Weithdy Dylunio Finyl gyda’r artist Judy Foote. Dangoswyd gwaith celf y Cardiau Post Digidol drwy gydol y dydd ar y sgrîn yn Stryd y Frenhines yng nghanol y ddinas, gan sicrhau cynulleidfa fawr.

Hefyd, ym mis Medi, roedd Parc Ynysangharad ym Mhontypridd wedi cynnal ‘Motionhouse’, a gyflwynwyd ar y cyd gan Ddawns Gymuned Cymru a Chelfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf. Fe’i disgrifiwyd fel ‘dawns fentrus, fywiogol ar ei gorau ar y cyrtiau tennis yn yr haul’.

Otello - WNO

Cynhaliwyd arddangosiad ‘Dance Bytes / New Graduates’ Dawns Annibynnol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’r Tŷ Dawns yn y drefn honno. Roedd llwyfan blynyddol DAC i raddedigion dawns diweddar â chysylltiad Cymreig yn arddangosiad teilwng o ddoniau sy’n dod i’r golwg ac roedd yn cynnwys rhaglen ddwbl a oedd yn dangos gwaith ac arddulliau coreograffig cyferbyniol cyn-enillydd Cymru Greadigol, Tanja Raman a Sean-Tuan John. Cyn hyn, cynhaliwyd rownd gyntaf ‘Dance Bytes’ – cyfle coreograffig blynyddol DAC i artistiaid dawns sy’n dod i’r golwg a gynhaliwyd ar lwyfan Tesco CMC am y tro cyntaf.

Roedd Opera Cenedlaethol Cymru wedi rhyfeddu cynulleidfaoedd unwaith eto gyda’u cynhyrchiad cyffrous o ‘Otello’ yn CMC gyda Dennis O’Neill yn y brif rôl. Hwn oedd ymddangosiad opera cyntaf y Cyfarwyddwr, Paul Curran, ar raddfa fawr yn y DU. (Paul yw Cyfarwyddwr Cyffredinol Opera Norwy).  Roedd y dylunydd, Paul Edwards, wedi creu pasiant o wisgoedd addurnol, yr oedd rhai ohonynt wedi’u dylanwadu gan gyfoeth y darluniau a geir yn yr Orlyfr canoloesol.  Gyda phleserau Operatig pellach fel ‘Janáček's Jenůfa’ ac adfywiad o ‘Blood Wedding’ gan Rossini y tymor Hydref hwn, mae OCC yn wir yn ein sbwylio!

Deep Cut - Sherman Cymru

Roedd Sherman Cymru wedi cyflwyno eu cynhyrchiad o “Deep Cut”, sydd wedi ennill gwobrau, ym mis Medi, a oedd yn cwestiynu’r digwyddiadau sy’n ymwneud â’r marwolaethau ym marics drwg-enwog Deep Cut. Derbyniodd y cynhyrchiad ganmoliaeth gan y beirniaid yng Ngŵyl Caeredin lle enillodd Wobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol yn ogystal â gwobrau The Stage am yr actor gorau a’r actores orau. Gwerthwyd yr holl docynnau i’r rhediad gartref.

Mae Pafiliwn y Grand, Porthcawl wedi agor ei fynedfa isaf newydd sbon yn ddiweddar, sydd hefyd yn darparu mynediad i’r prif awditoriwm i bobl anabl drwy lifft.

Cynhaliwyd gŵyl theatr, gosodiadau a chelf sonig eclectig Chapter, Experimentica 08, ym mis Hydref.

Roedd Glan yr Afon, Casnewydd wedi cyflwyno 'Yesterday' gan yr artist sydd wedi ennill gwobrau, Jasmin Vardimon. Roedd y sioe wedi’i rhagflaenu a’i chyfannu gan y perfformiad cyntedd deg munud cyntaf 'Dance Short', a gydlynwyd gan Emma Carlson.

Roedd Abby Sohn wedi cyflwyno ei gosodiad amlgyfrwng 'In Light and Shadow We Rotate' yng Ngoleudy Pwynt Nash. Roedd y prosiect yn archwilio cysylltiadau rhwng safleoedd a hanesion drwy ddefod.

Ghosts in Armour - Glan yr Afon

Roedd arddangosfa amlddisgyblaethol gymhellol Punctum Photographic “Ghosts in Armour” a agorodd ym mis Awst ac sy’n rhedeg tan ganol mis Hydref yng Nglan yr Afon, Casnewydd, wedi derbyn canmoliaeth fawr gan ymwelwyr. Roedd yr artistiaid wedi sicrhau mynediad arbennig at waith dur segur Whitehills yng Nghasnewydd cyn iddo gael ei ddymchwel a chriw o gyn-weithwyr. Cafodd perfformiad Northern Broadsides o “Accidental Death of an Anarchist” dderbyniad da hefyd yng Nglan yr Afon ym mis Hydref.
Teithiodd Opera Canolbarth Cymru i’r rhanbarth y mis hwn, gan berfformio “The Tales of Hoffman” yn y Colisëwm, Aberdâr ym mis Hydref ac yng Nglan yr Afon, Casnewydd bythefnos yn ddiweddarach.

Roedd cynhadledd genedlaethol a gyflwynwyd gan Touch Trust mewn cysylltiad â CMC yn gofyn y cwestiwn “Cynhwysiant, integreiddio a hygyrchedd yn y celfyddydau?” ym mis Hydref 2008.  Roedd y gynhadledd yn tynnu sylw at waith Touch Trust tra’n cynnig cyfle ar gyfer trafodaeth a dadl ynglŷn â gwerthoedd, y rhwystrau a’r heriau i gelfyddydau cymunedol cynhwysol.

Roedd y rhyfeddod dawns rhyngwladol Hofesh Schector wedi dod â’i Gwmni Hofesh Schector i Sherman Cymru ym mis Hydref fel rhan o daith o amgylch y DU a gefnogwyd gan y Bartneriaeth Teithio Dawns. Roedd Sherman Cymru a Theatr Brycheiniog yn gallu ymuno â’r fenter gonsortiwm hon diolch i grant y Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Roedd y cwmni’n cynnwys Jenny White, a ‘adnabuwyd’ gan The Observer tra ei bod gyda Diversions. Roedd awditoriwm y Sherman yn orlawn ar gyfer “Uprising/In Your Rooms”.

Bydd coreograffi Hofesh yn dychwelyd i Gymru ym mis Chwefror gyda CanDoCo yng Nglan yr Afon, Casnewydd. Roedd y daith o amgylch Cymru gyfan a gydlynwyd gan Theatrau RhCT, Genticorum a Chalan wedi perfformio gig olaf, y gwerthwyd pob tocyn iddi, yn y Muni, Pontypridd yn ystod hanner tymor. Roedd y noson yn cyfuno dehongliadau o ganeuon gwerin Cwebecaidd traddodiadol gyda chasgliad o ddarnau offerynnol gwreiddiol wedi’u hysgrifennu yn yr arddull Cwebecaidd draddodiadol gan y band traddodiadol tri darn. Fe’u cefnogwyd gan y grŵp traddodiadol ifanc o Gymru, Calan.

Agorodd Theatr Gerdd Cymru eu perfformiad cyntaf yn y byd o ‘For You’, a ysgrifennwyd gan Michael Berkeley ac Ian McEwan, gan dderbyn canmoliaeth fawr yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain ddiwedd mis Hydref. Rhoddodd y Daily Telegraph dair seren iddo, gan ddweud ei fod yn “gomedi ddu gyfareddol ac effeithiol ag eglurder naratif prin, i gyfeiliant cerddoriaeth gywrain …  mae sgôr Berkeley yn hyderus, yn fywiog ac yn glyfar.”

Mae sioe ddiweddaraf Theatr Hijinx 'The Other Woman' gan Paul Swift yn teithio o amgylch Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. Cafwyd perfformiad arbennig o’r ddrama am y Rhyfel Byd Cyntaf yn CMC ar Dachwedd 11 i nodi Dydd y Coffa 90 o flynyddoedd ers diwedd y Rhyfel Mawr.

Cyflwynwyd cynhyrchiad Theatrau Rhondda Cynon Taf o “Erogenous Zones” gan Frank Vickery ar y cyd â Chynyrchiadau Grassroots yn ystod mis Hydref yn y Colisëwm Aberdâr, y Parc a Dare, Treorci, y Beaufort, Glynebwy, Sefydliad y Glowyr, y Coed Duon a’r Theatr Newydd, Caerdydd.

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

NEWYDDION CELFYDDYDAU RHYNGWLADOL CYMRU

Gan Eluned Haf, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Uwch Gynghorydd newydd dros y Celfyddydau, y Diwydiannau Creadigol a’r Cyfryngau Newydd

Ymunodd Louise Wright â thîm Cyngor Prydeinig Cymru ddechrau mis Hydref fel yr Uwch Gynghorydd newydd dros y Celfyddydau, y Diwydiannau Creadigol a’r Cyfryngau Newydd. Bydd Louise yn gweithio’n agos gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a phobl eraill er mwyn adnabod cyfleoedd i gapasiti Cymreig yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol gyfrannu at waith cysylltiadau diwylliannol y Cyngor Prydeinig. Bydd hefyd yn derbyn cyfrifoldeb ehangach yn y DU am ddatblygu gwaith y Cyngor Prydeinig yng nghelfyddydau’r cyfryngau newydd.
http://www.wai.org.uk/news283

Cerys Matthews

Cysylltiadau Celtaidd 2009

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch o adrodd y bydd pum artist o Gymru yn perfformio yng Ngŵyl Cysylltiadau Celtaidd ym mis Ionawr 2009. Mae 9Bach, Allan Yn Y Fan, Bethan Nia, Cerys Matthews ac Euros Childs i gyd wedi’u dewis i gymryd rhan mewn cyngherddau amrywiol drwy gydol yr ŵyl sy’n para am bythefnos, o 15fed Ionawr tan 1af Chwefror 2009. Mae Cysylltiadau Celtaidd yn dangos artistiaid o bob rhan o’r byd ochr yn ochr â’r doniau Albanaidd gorau.
http://www.celticconnections.com

CINARS 2008

Disgwylir i fwy na 1,000 o gyfranogwyr o bob rhan o’r byd – gan gynnwys artistiaid, asiantau, cyflwynwyr, cynhyrchwyr a sylwedyddion – fynychu’r 13eg cynhyrchiad o Lwyfan CINARS ym Montréal, a gydnabyddir fel digwyddiad allweddol ar gyfer pobl broffesiynol ym maes y celfyddydau perfformio.

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cefnogi grŵp o chwe rhaglennwr a dau gwmni cynhyrchu, dan arweiniad Creu Cymru, (yr Asiantaeth Ddatblygu ar gyfer Theatrau a Chanolfannau’r Celfyddydau yng Nghymru) i fynychu’r digwyddiad yn 2008.  Yn ystod CINARS 2008, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn bwriadu cefnogi gwaith rhyngwladol rhaglenwyr y theatr yng Nghymru a datblygu ei berthynas Cymru-Quebec, yn benodol ym maes y celfyddydau perfformio. Mae’n gobeithio hwyluso’r gwaith o gasglu tystiolaeth a fydd yn sail ar gyfer cefnogaeth i ddigwyddiadau masnachu rhyngwladol yn y celfyddydau perfformio yn y dyfodol.
http://www.wai.org.uk/news292http://www.cinars.org

Amy Santoferraro yn Stiwdio Fireworks, Caerdydd

Bydd yr artist cerameg rhyngwladol, Amy Santoferraro, yn dod i ddiwedd ei phreswyliad 2 fis yn stiwdio Fireworks yng Nghaerdydd yn fuan. Gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae Amy wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â rhai o artistiaid cerameg enwocaf Cymru, wedi’i lleoli yn Fireworks.http://www.wai.org.uk/news291

CYMRU YN WOMEX – Stori o Seville

Gan Suzanne Griffiths-Rees, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau, Swyddfa Canolbarth a Gorllewin Cymru

651 o arddangoswyr; 49 o artistiaid ar bum llwyfan o 40 o wledydd – dyna oedd WOMEX.  Dyma farchnad broffesiynol ryngwladol bwysicaf cerddoriaeth y byd o bob math.

Gan nad oeddwn i erioed wedi bod i unrhyw beth tebyg o’r blaen, roeddwn yn gyffrous iawn, ychydig yn nerfus (dwi ddim yn hoff o hedfan) a doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl.  Ond credwch chi fi, roedd yn rhyfeddol! 

Roedd y ganolfan gynadledda yn Fibes, Sevilla yn anferth ac roedd WOMEX wedi’i leoli mewn dwy ystafell debyg i awyrendai.  Mae’r ffair ryngwladol yn dod â gweithwyr proffesiynol o faes cerddoriaeth werin, gwreiddiau, ethnig a thraddodiadol at ei gilydd, yn ogystal â chyngherddau, cynadleddau a ffilmiau dogfen. 

‘Roedd y stondin ‘Wales at WOMEX’ yn fenter ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac yn ganolfan i nifer o sefydliadau ac unigolion yn cynnwys SAIN, Theatr Mwldan, Theatr Brycheiniog, Label Abel, Rhys Mwyn and Mabon.

Roeddwn ni yno i hyrwyddo a datblygu cyfleoedd a chysylltiadau rhyngwladol i gerddorion a’r sector gerddoriaeth yng Nghymru.  Gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig, creodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gyfeirlyfr newydd o gerddoriaeth byd o Gymru.

O’r cychwyn ‘roedd y stondin o Gymru yn brysur iawn gyda llawer o ddiddordeb mewn cerddoriaeth Cymreig a gwnaethom gyfarfod â chysylltiadau allweddol o gynghorau celfyddydol amrywiol o bob cwr o’r byd. A gobeithiwn y byddant yn ein helpu i ddatblygu cyfleoedd newydd i artistiaid o Gymru.

Un peth wnaethon ni ddysgu oedd, i wneud argraff yn WOMEX, mae angen i artistiaid gael eu dewis i arddangos eu gwaith. ‘Roedd yna amrywiaeth o berfformiadau yn nosweithiol yn Seville ar dri llwyfan gwahanol. Perfformiodd Cimarron, band o Golombia a hyrwyddwyd gan Dilwyn Davies o Mwldan ac o ganlyniad cafont gynnig berfformiadau newydd.

Gwnaeth Eluned Hâf, Cyfarwyddwr Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyfarfod â Gerald Seligman, Cyfarwyddwr WOMEX, i drafod sut gallai cerddoriaeth Cymreig fod yn ran o berfformiadau’r dyfodol. ‘Roedd e’n gefnogol iawn a bydd Eluned yn parhau i drafod hyn mewn partneriaeth gyda’r  Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn y misoedd i ddod.

Ond yn rhy fuan, ‘roedd y digwyddiad wedi dod i ben ac ar y diwrnod olaf, wnaethon ni fynychu’r Dyfarniadau WOMEX. Eleni, aeth y prif ddyfarniad i’r band gwerin o Hwngari, Muzsikás.

I ddysgu mwy am WOMEX ewch ar y wefan:

http://www.womex.com

Back to Contents Menu

GEMAU PARALYMPAIDD BEIJING

Tân Gwyllt yng Ngemau Paralympaidd Beijing
Gan Rhaglennwr Creadigol Olympiad Diwylliannol Cymru, Gwyn L. Williams

Pan wnaethom ni lansio’r Olympiad Diwylliannol ym mis Medi yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, fe wahoddais y Paralympiaid o Gymru, David Roberts o Bontypridd a Simon Richardson o Borthcawl i fod yn westeion anrhydeddus.   Daethant â’u medalau gyda nhw – roeddwn yn teimlo’n ostyngedig ac yn ysbrydoledig yn eu cwmni. 

Roedd Beijing a Gemau Paralympaidd 2008 yn ysbrydoledig hefyd.   Beijing, am y ffordd yr oedd y ddinas gyfan wedi cofleidio athletwyr anabl o bob rhan o’r byd, a’r Gemau Paralympaidd am yr arddangosiad o sgiliau, heb sôn am y penderfyniad llwyr, a welwyd yn y lleoliadau Olympaidd.

Roeddwn i yno er mwyn gweld sut yr oedd Pwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Beijing (BOCOG) wedi mynd ati i ddathlu’r Gemau Paralympaidd ac Olympiad Diwylliannol 2008.   Roeddwn i’n teithio’n annibynnol ac ar ran Legacy Trust UK yng Nghymru a oedd wedi ariannu fy ymweliad.   O’r pedwar prosiect a gefnogir gan Legacy Trust a fydd yn rhedeg hyd at Lundain 2012, bydd un ohonynt, yr ydym wedi’i alw’n Prometheus, yn canolbwyntio ar grwpiau anabl ledled Cymru. Felly, sut y gwnaeth Beijing?

Roeddwn i wedi bod i Beijing o’r blaen, tua 10 mlynedd yn ôl.  Mae pethau wedi newid yn sylweddol!   Deg munud ar ôl glanio ym Maes Awyr Capital newydd, roeddwn i’n dringo i mewn i dacsi ac roeddwn ar fy ffordd!

Tri deg munud yn ddiweddarach roeddem yn parcio yng nghanol Beijing wrth ymyl y Ddinas Waharddedig wych, lle'r oedd fy ngwesty traddodiadol ac eithaf syml wedi’i leoli.  Ar y ffordd o’r maes awyr, sylwais fod un lôn ar y draffordd at ddefnydd timau Olympaidd a Pharalympaidd yn unig ... Byddwn yn sylwi ar hyn ar draws Beijing.

Uchafbwynt fy nhaith oedd ymweld â diwrnod olaf Rhaglen yr Adfocadau Ifanc a gynhaliwyd gan y Cyngor Prydeinig.  Roedd dau gant o bobl ifanc o bob rhan o’r byd, yr oedd hanner ohonynt yn anabl, wedi’u gwahodd i Beijing ar gyfer y gemau Paralympaidd.  Fel rhan o brosiect a oedd yn para am wythnos, roeddent wedi gweithio gydag ymarferwyr dawns proffesiynol, gan gynnwys YEAST a BALE’R GOGLEDD, i ddatblygu sgiliau dawns, cerddoriaeth, gwneud ffilmiau, chwaraeon ac animeiddio.  Roedd y cysylltiadau a oedd wedi datblygu rhyngddynt i gyd yn hynod weladwy, yn hynod gefnogol ac wedi newid eu bywydau.   

Roedd un fenyw ifanc ddall o Iorddonen wedi dawnsio i gyfeiliant person ifanc o Tsieina a oedd yn canu’r piano â’i draed.   Roedd yn gwbl amlwg mai seren y cwmni oedd James Lusted, dyn ifanc ugain oed o Fae Colwyn, a oedd wedi arwain nifer o’r grwpiau gweithdy, gweithredu fel swyddog cymorth cyntaf ac a oedd yn meddwl “bod y bwyd yn Beijing yn llawer gwell na’r siop prydau parod leol ar arfordir Gogledd Cymru”!    Digwyddiad olaf y diwrnod oedd arddangosiad o berfformiadau, o ffilmiau animeiddiad a ffilmiau a grëwyd dros yr ychydig ddiwrnodau cynt.  Roedd gan y bobl ifanc hyn y parch mwyaf at ei gilydd. 

Roedd mynychu perfformiad o “My Dream” yn Theatr Poly yng nghanol dinas Beijing ychydig o ddiwrnodau’n ddiweddarach yn wrthgyferbyniad llwyr.  Roedd hwn yn berfformiad a oedd yn para am ddwy awr gan bobl ifanc anabl o Tsieina yn unig – roedd gan y rhan fwyaf ohonynt nam ar eu golwg a’u clyw ond cafwyd cyfraniadau gan rai heb aelodau.   Roedd y sioe hon wedi’i datblygu dros sawl blwyddyn mewn ymateb i Beijing 2008.  Roedd yn drawiadol ond yn nawddoglyd ac, yn y pen draw, er y sgiliau gwych a ddangoswyd, roedd yn siomedig.

Chwiliais yn ofer am berfformiadau stryd.   Fe ymwelais â sawl arddangosfa gan sylwi bod y labelu a’r penawdau yn deirieithog – Mandarin, Saesneg a Ffrangeg (yr olaf yw iaith swyddogol y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a’r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol).  Fodd bynnag, ar wahân i addurniadau baneri a fflagiau a sgriniau awyr agored yn y ddinas, ni welwyd tystiolaeth o unrhyw berfformiadau awyr agored. 

Roedd yn ymddangos bod awdurdodau Tsieina wedi dod yn gynyddol bryderus ynglŷn â chynulliadau cyhoeddus yn dilyn llanast trosglwyddo’r fflam ac felly roedd unrhyw weithgarwch mewn mannau cyhoeddus wedi’i wahardd.   Roedd hyn yn siom fawr, yn enwedig yn y Parc Olympaidd yr oeddwn wedi llwyddo yn y pen draw i ddod o hyd i docyn iddo.  Roedd rhodfeydd llydan rhwng y stadia yn wag o unrhyw gelfyddydau neu berfformiadau.  Gallai “bod yn weladwy” fod yn fyrdwn pwysicaf ein Holympiad Diwylliannol ein hunain.

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

LLWYDDIANT Y CYMRY YN FFAIR GREFFTAU 'ORIGIN' LLUNDAIN 2008

Tebot gan Virginia Graham
Gan Virginia Graham

Wedi ei drefnu gan y Cyngor Crefftau, asiantiaeth cenedlaethol datblygu crefft yn y DU, mae'r digwyddiad yn garreg filltir pwysig yn y calendr crefft ac yn gyfle i arddangos gwaith cyffrous Crefftwyr y wlad.

Dyma'r drydedd Ffair, ac 'roedd 300 o artistaid yn arddangos eu gwaith a daith miloedd o ymwelwyr i'r Ffair dros y bythefnos. Ac yn 2008, detholwyd saith o Grefftwyr o Gymru gan banel o arbenigwyr i arddangos yn y Ffair:

  • Rebecca Ellen Edwards (Barri, De Cymru), papur wal wedi ei brintio a'i wnïo.
  • Virginia Graham, (Caerdydd), Gwaith Cerameg.
  • Anna Lewis, (Abertawe), Gemwaith cyfoes
  • Claudia Lis, (Sir Drefaldwyn, Powys), Cerameg
  • Hikaru Noguchi, (Caerfyrddin), Blancedi a sgarffiau wedi'u gweu
  • Laura Thomas, (Caerdydd), Tecstiliau
  • James and Tilla Waters, (Caerfyrddin), Cerameg

Er bod yna ofidio y gallai'r hinsawdd ariannol anodd effeithio ar werthiant, llwyddodd y Crefftwyr o Gymru werthu dros £30,000 o waith crefft.

Ysgrifennodd Anna Lewis, cyn enillydd Dyfarniad Cymru Greadigol, adroddiad byr i ni am ei phrofiadau yn Origin:

ADRODDIAD AR ORIGIN

Gan Anna Lewis
Anna Lewis

Dyma’r tro cyntaf i mi arddangos yn Origin felly roeddwn i’n ansicr ar y cychwyn ynglŷn â sut y byddai’n cymharu â’m profiadau blaenorol o arddangos yn Ffair Grefftau Chelsea ychydig o flynyddoedd yn gynharach.  Roeddwn hefyd yn bryderus ynglŷn â gwerthiant ac adborth gan fy mod i nid yn unig yn arddangos casgliad newydd o emwaith, ond roedd hyn wedi’i gyplysu â phryderon ynglŷn â sut y byddai’r argyfwng economaidd presennol yn effeithio ar y sioe.  Nid oedd angen i mi boeni.  Yn gyffredinol, roedd y sioe yn llwyddiannus iawn i mi. Nid oedd yn ymddangos bod yr arafu economaidd wedi effeithio ar ddymuniad pobl i brynu gwaith ac roedd fy nghwsmeriaid wrth eu bodd â’r dyluniadau newydd, a oedd yn rhyddhad.

Roedd y Cyngor Crefftau wedi sicrhau bod y digwyddiad cyfan wedi’i drefnu’n eithriadol o dda a’i gyflwyno’n hardd.  Roedd y ffordd yr oedd y babell fawr wedi’i gosod yn olau ac yn eang ac roedd yn teimlo’n lân ac yn gyfoes. 

Dangosais fy nghasgliadau newydd ‘katami’ ac ‘Omamori’ sy’n cynnwys pren printiedig a sidan wedi’u cyfuno ag arian a cherrig.  Mae’r gwaith wedi’i ysbrydoli gan themâu sy’n rhedeg drwy fy holl gasgliadau fel y cof, ofergoel ac ystyr gwrthrychau fel amwledau ac eiddo etifeddol.  Gan i mi geisio gwthio’r arddangosiad o’m gwaith y tro hwn, dewisais ddangos rhai darnau unigryw mwy a ffotograffau mewn hen fframiau gwyn ac roedd pinnau eraill yn hongian mewn cromenni gwydr hynafol yr oedd nifer o bobl wedi gwneud sylwadau arnynt.

Ynghyd â gwerthiant da i nifer o gleientiaid preifat, roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i ddenu diddordeb yn y casgliad gan sawl oriel fel Contemporary Applied Arts, Oriel yr Alban a Chanolfan Grefftau Rhuthun a fydd yn dangos fy ngwaith yn fuan.  Roedd archebion masnach gan The Workshop yn Lewes ac Oriel Mission hefyd yn ffactorau pwysig.  Rwy’n sicr y bydd cysylltiadau eraill gydag orielau, y wasg a phrynwyr yn arwain at gyfleoedd yn y dyfodol ac mae’r sioe yn lle gwych i rwydweithio gyda chwsmeriaid newydd a chyd-arddangoswyr.

Roedd gwaith diddorol iawn yn cael ei arddangos eleni ac roedd llawer o ymwelwyr wedi gwneud sylwadau ar gryfder y detholiad ar gyfer ail wythnos y digwyddiad ac roeddwn yn teimlo bod presenoldeb cryf yn cynrychioli crefftau cyfoes o Gymru.

**

At ei gilydd, mae’n ymddangos y gellir ystyried Origin 2008 yn llwyddiant ysgubol a fydd yn dod â buddion hirdymor i’r holl wneuthurwyr o Gymru a gymerodd ran a’r sector crefftau yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. Bellach rydym yn disgwyl Origin 2009 lle gellir adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn.

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

SIOE DEITHIOL Y LOTERI YNG NGHASTELL-NEDD PORT TALBOT

Ddydd Mercher, Hydref 1 2008, roedd pedwar prif ddosbarthwr arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: Cyngor Celfyddydau Cymru, y Gronfa Loteri Fawr, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Chwaraeon Cymru, wedi cynnal digwyddiad gwybodaeth yn y Gnol, cartref Clwb Rygbi Castell-nedd.

Roedd Sioe Deithiol y Loteri Genedlaethol yn rhoi cyfle i aelodau o’r cyhoedd ddysgu mwy am weithgareddau ac arian y loteri yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Roedd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyflwyno derbynnydd diweddar y Dyfarniad Cwmni Disglair, Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe, fel enghraifft wych o arian y Loteri yn gweithio yn yr ardal.

I ddysgu mwy am arian y Loteri, cliciwch ar:

http://www.lotteryfunding.org.uk

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

NOSON ALLAN – Y TONIG PERFFAITH I NOSWEITHIAU HIR A THYWYLL Y GAEAF!

Potted Potter
Gan Hilary Farr, Swyddog Noson Allan

Bydd nifer o hyrwyddwyr lleol ledled Cymru yn dod â lliw a llawenydd i’w cymunedau dros y misoedd sydd i ddod gydag ychydig o gymorth gan Noson Allan - "y cynllun sy’n cyrraedd rhannau o Gymru ..." wel, rydych chi’n gwybod y gweddill!
 
Mae Noson Allan wedi bod yn ymdrechu’n galed i sicrhau bod hyrwyddwyr yn gallu archebu sioeau o ansawdd ac mae wedi trefnu nifer o deithiau gan gynnwys un gyda derbynwyr y Dyfarniad Cwmni Disglair, Theatr Pobl Ifanc Clwyd Theatr Cymru. Byddant yn dod â Twilight Tales – chwedlau’r gaeaf o bob rhan o’r byd i 16 o leoliadau mewn 12 o wledydd drwy gydol tymor y Nadolig ac mae Noson Allan yn falch iawn o lansio’r daith hon yn lleoliad newydd y cynllun, Neuadd Goffa Oliver Jones yn Nolywern, Wrecsam, ddydd Sadwrn 29ain Tachwedd. 

Bydd dwy o’r sioeau hyn yn cael eu hyrwyddo gan bobl ifanc leol drwy Gynllun Hyrwyddwyr Ifanc Noson Allan.  Mae disgyblion Ysgol Gynradd Pontnewynydd yn Nhor-faen yn gyffrous am eu bod yn gweithio gyda’u tîm Cymunedau yn Gyntaf lleol ac aelodau o’r gymuned i ddod â’r sioe i’w hysgol ddydd Mawrth 9fed Rhagfyr, tra bod aelodau o Glwb Ieuenctid a Chyngor Ieuenctid Soffryd ym Mlaenau Gwent yn gweithio’n galed i drefnu digwyddiad gwych ddydd Sul 21ain Rhagfyr.
 
Bydd Opera Playhouse yn ymweld â dros ddeg o gymunedau drwy gydol mis Rhagfyr gyda "Christmas in the Parlour", noson Fictoraidd o chwedlau’r Nadolig, cydganu carolau, hwyl, chwerthin a pheth o’r gerddoriaeth hyfrytaf a ysgrifennwyd ar gyfer y llais. 
 
Roeddem yn ffodus iawn ein bod wedi gallu sicrhau saith dyddiad gan Theatr Proteus o Hampshire a fydd yn mynd â’u fersiwn o "The Snow Queen" gan Hans Christian Andersen i gymunedau yng ngogledd a de Cymru ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.  Mae’r sioe gyffrous yn sicr o fod yn gyfuniad unigryw o ffilm, syrcas a cherddoriaeth. 

Mae Cwmni Theatr Arad Goch o Gymru yn teithio gyda drama newydd sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc gan yr awdures ddawnus o Gymru, Caryl Lewis.  Mae ‘Yr Ystafell Aros’ yn sôn am dyfu i fyny ac mae’n ystyried ein syniad o lwyddiant a pha mor wahanol y gall unigolion fod o fewn un teulu.

The Selfish Giant

Mae ‘Cinders’ hyfryd Sherman Cymru, a gymeradwyir yn fawr, yn ymweld ag ychydig o leoliadau yn Ne Cymru ym mis Tachwedd cyn dychwelyd i Theatr Sherman ar gyfer mis Rhagfyr.  Mae gennym hefyd sioeau i blant gan ddau gwmni theatr bypedau ym mis Rhagfyr.  Mae gan Theatr Freehand ychydig o ddyddiadau ar gyfer ‘Little Red ...You Know Who!’ ac mae Theatr Sealegs yn dod â ‘The Selfish Giant’ i Frynmawr.  Bydd ffefrynnau parhaol Noson Allan, Circus Berzercus, yn ymweld ag ychydig o leoliadau ym mis Rhagfyr a mis Ionawr gyda’u cyfuniad doniol iawn o syrcas, clownio a hud.
 
Mae’r gair olaf yn mynd i Dan a Jeff, bechgyn ‘Potted Potter’ a gafodd brofiad newydd yn Nowlais, Merthyr Tudful, lle mynnodd aelod bach o’r gynulleidfa ei bod yn cael ei saethu gyda phistol dŵr yn hytrach na derbyn broga siocled.  Gorfodwyd Dan felly i danio pistol dŵr mawr iawn at ferch benfelen fach iawn o flaen dros gant o bobl – dim ond yng Nghymru, mae’n debyg! 

Mae’r holl ddigwyddiadau hyn, yn ogystal â llawer o berfformiadau gwych eraill, wedi’u rhestru ar wefan Noson Allan ar

http://www.nosonallan.org.uk 

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

CYMRODORIAETH CLORE

Gan Emma Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Dawns Diversions

Crëwyd Rhaglen Arweinyddiaeth Clore mewn ymateb i’r anawsterau y mae nifer o sefydliadau wedi’u profi wrth recriwtio a chadw arweinwyr ar sawl lefel wahanol. Mae’n fenter gan Sefydliad Clore Duffield sydd â’r nod o gryfhau’r arweinyddiaeth ar draws ystod eang o weithgareddau diwylliannol, gan gynnwys; y celfyddydau gweledol a pherfformio, ffilm, treftadaeth, amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai, y diwydiannau creadigol a pholisi a gweinyddiaeth ddiwylliannol. Mae wedi’i chynllunio i helpu wrth ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, rhwydweithiau a phrofiad darpar arweinwyr yn y sector diwylliannol.

Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Clore yn credu bod gennym rai arweinwyr diwylliannol neilltuol yn y DU ar hyn o bryd, ond eu bod yn dueddol o ddod i’r golwg drwy ddamwain yn hytrach nag o ganlyniad i gynllunio, a nod y rhaglen hon yw rhoi rhai o’r "cynlluniau" yn eu lle, fel y gallwn dros amser greu cenhedlaeth newydd o ddarpar arweinwyr.

Dechreuais fy nghymrodoriaeth ym mis Medi eleni ac rwy’n bwriadu ei chwblhau amser llawn dros 12 mis. Mae’r Rhaglen yn hyblyg ac, o fewn fy ngharfan fy hun, mae pobl yn cwblhau’r gymrodoriaeth ochr yn ochr â’u swyddi presennol neu’u gyrfaoedd ar eu liwt eu hunain. Mae’n sicr nad oes model unigol ar gyfer bod yn arweinydd felly mae Clore yn cynnig ystod o gyfleoedd gwahanol ac mae’n rhaglen sy’n gweithio yn ôl anghenion ac amcanion pob unigolyn.

Mae’r rhaglen yn cynnwys pedair prif elfen graidd; ystod o gyfleoedd hyfforddi i ddatblygu sgiliau mewn meysydd fel cyllid, hyfforddiant yn y cyfryngau, deallusrwydd emosiynol, codi arian a llywodraethu; secondiad tri i bedwar mis mewn sefydliad sy’n wahanol iawn i’ch profiad blaenorol; prosiect ymchwil gan ymchwilio i faes diwylliant sy’n berthnasol i’ch maes gwaith eich hun; a byddwch hefyd yn cael mentor.

Hyd yma, rwyf wedi cwblhau dau gwrs hyfforddiant preswyl ac, ar hyn o bryd, rwy’n canolbwyntio ar fy mhrosiect ymchwil gan weithio gyda Phrifysgol Caerdydd. Nid wyf wedi cofnodi fy holl feddyliau eto, ond rwy’n ystyried ymchwilio i rôl sefydliadau cenedlaethol mewn perthynas ag amrywiaeth a chynhyrchu hunaniaethau diwylliannol.

Drwy fod yn gymrawd Clore, rwyf wedi cael mynediad at nifer fawr o gyfleoedd ac mae wedi ehangu fy ngorwelion mewn ffordd nad oeddwn yn fwy na thebyg yn sylweddoli ei bod yn bosibl o’r blaen. Y peth gorau yn bendant yw bod gennyf amser i feddwl, cwrdd â phobl newydd a gwahanol a datblygu fy syniadau fy hun ynglŷn ag arweinyddiaeth a datblygiad diwylliant yng Nghymru yn y dyfodol.

Os hoffech wybod mwy am Raglen Arweinyddiaeth Clore neu’r hyn rwy’n ei wneud yn ystod y flwyddyn, ewch i’r wefan

http://www.cloreleadership.orgneu cysylltwch â mi arevansee@btinternet.com

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

CELFYDDYDAU NADOLIGAIDD

Cinders

Fel pob amser, mae ystod wych o ddigwyddiadau celfyddydol Nadoligaidd yn cael eu cynnal ledled Cymru. Er enghraifft, bydd Sherman Cymru yn ailadrodd un o’r straeon tylwyth teg gorau erioed gyda stori gyfareddol Cinders i blant dan 6 oed.

Yn seiliedig ar stori Sinderela, bydd Cinders yn defnyddio cerddoriaeth a phypedwaith i ddod â’r chwedl boblogaidd hon yn fyw. Bydd y plant yn cael eu cludo i fyd hud lle byddant yn cwrdd â phedwar tylwyth teg direidus cyfareddol, y Crimbils, sy’n byw ar waelod gardd Cinders. Mae’n rhaid i’r Crimbils achub Cinders rhag ei Llysfam ddrwg a’i Chwiorydd Hyll cas a sicrhau ei bod yn cyrraedd y ddawns mewn pryd i gwrdd â’r Tywysog.

Mae Cinders wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Louise Osborn, sydd wedi ysgrifennu ar gyfer rhaglen Hollyoaks Sianel 4 gynt ac, ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Cyswllt gyda Theatr Hijinx yng Nghaerdydd.

Mae Sherman Cymru hefyd yn cyflwyno The Snow Queen sydd wedi’i chyfarwyddo gan Anna Linstrum, sydd wedi dod yn syth o weithio fel Cyfarwyddwr Cyswllt ochr yn ochr â Syr Andrew Lloyd Webber ar The Sound of Music yn y West End.

Mae The Snow Queen, a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Hans Christian Andersen, wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Charles Way, a ysgrifennodd sioe Nadolig y Sherman yn 2007, Beauty and the Beast.

The Snow Queen

Mae’r Frenhines Eira yn rheoli ei theyrnas hud gyda chalon o iâ. Pan mae ei drych hud yn malu ac mae darnau yn disgyn i lygad Cei, mae e’n disgyn dan ei swyn drwg. Dim ond Gerda, ffrind Cei, sy’n credu bod modd ei achub ac mae’n cychwyn ar daith i achub Cei, sy’n newid ei bywyd.

Mae Cinders yn teithio o amgylch Cymru ar hyn o bryd, cyn dychwelyd i’r Sherman ar gyfer y Nadolig, o 2 Rhagfyr – 27 Rhagfyr. Gellir gweld The Snow Queen yn y Sherman o 28 Tachwedd – 10 Ionawr.

Mae’r tocynnau ar gyfer perfformiad ‘Cinders’ yn y Sherman yn costio £7.50 a £6 ac maent yn dechrau ar £10 ar gyfer ‘The Snow Queen’. Gellir eu harchebu o’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 neu ar-lein ar: http://www.shermancymru.co.uk

Bydd Oriel Ynys Môn yn cynnal ei Ffair Grefftau Nadolig flynyddol eto eleni.  Yn ogystal â’r 40 o weithwyr crefftau a fydd yn gwerthu ystod o roddion o ansawdd a wnaed â llaw yn yr Oriel Gelf – mae siop yr Oriel, Jac Do, hefyd yn cynnwys ystod o grefftau arloesol gan tua 40 o weithwyr crefftau gwahanol, yn ogystal â rhoddion unigryw a fydd yn apelio at y rheini ohonoch sy’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol.

Gallwch hefyd ymweld â’r oriel ar ôl y gwaith gan y bydd yn agored yn hwyr ddydd Gwener 28 Tachwedd a dydd Iau 4 ac 11 Rhagfyr.
Daeth dros 60 o wneuthurwyr crefftau Cymru i Ganolfan Gelfyddydau a Chastell Sain Dunwyd hefyd ddydd Sul, Tachwedd 23 ar gyfer Ffair Grefftau Nadolig flynyddol y ganolfan.

Mae’r digwyddiad poblogaidd dros ben yn denu dros 2,000 o fynychwyr o bob rhan o dde Cymru yn rheolaidd, sydd wedi’u temtio gan ansawdd uchel yr eitemau crefft law na ellir eu cael mewn siopau, y gerddoriaeth fyw a’r stondinau bwyd lleol.

Eleni, roedd pobl grefftau o ganolbarth i orllewin Cymru a’r Cymoedd wedi arddangos syniadau am anrhegion Nadolig arloesol a oedd yn amrywio o eitemau bach o emwaith cain i ddarnau mawr o gelfi wedi’u teilwra, ac o ddyluniadau bagiau llaw unigryw i sidan, sgarffiau a chelfi meddal hardd ac anghyffredin a wnaed â llaw.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar:

http://www.stdonats.com

Mae gan Oriel Mission yn Abertawe, ddigonedd o Grefftau a Gemwaith Nadoligaidd i chi ddewis o’u plith hefyd, felly cofiwch ymweld â nhw!  Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar:http://www.missiongallery.co.uk

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys

TEITHIO O GWMPAS: CYFLEOEDD, CYNADLEDDAU A GWYLIAU

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Gŵyl Gerameg Ryngwladol 2009

Dechreuwyd archebu tocynnau ar 1af Tachwedd 2008 ar gyfer Gŵyl Gerameg Ryngwladol 2009 – un o ddigwyddiadau mwyaf mawreddog y byd ar gyfer crochenyddion proffesiynol ac amatur.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal o ddydd Gwener 3 - dydd Sul 5 Gorffennaf 2009 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd arddangosiadau a darlith gan y crochenydd dylanwadol dros ben o America, Don Reitz, odynau trawiadol gan Nina Hole a Tom Barnett, yn ogystal ag arddangosiadau o gerameg a daflwyd, a adeiladwyd ar slab a cherfluniol.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â gŵyl 2009, cysylltwch â Louise Amery ar (01970) 622889 neu anfonwch e-bost atlla@aber.ac.uk

Rhowch eich gwaith ar Sgriniau Mawr y BBC!

Mae PWYLLGOR TREFNU GEMAU OLYMPAIDD LLUNDAIN (LOCOG) wedi rhoi rhaglen “SAFLEOEDD BYW” ar sgriniau mawr wrth galon ei gyfraniad i’r cyhoedd yn y DU yn ystod y cyfnod pedair blynedd sy’n arwain o Beijing (2008) at Lundain (2012). Yng Nghymru, mae sgriniau mawr wedi’u lleoli yn yr Hayes, Caerdydd; ac yn Sgwâr y Castell, Abertawe.

Yn ogystal â bod yn ddarparwyr cynnwys, mae’r BBC yn rheoli’r sgriniau yn olygyddol. Yn ogystal ag amserlen o ddolenni newyddion, tywydd a chwaraeon sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, mae cyfle i chi arddangos cynnwys cymunedol.

Mae pob sgrîn yn gweithredu’n ddyddiol rhwng 7am ac 11pm ac mae wedi’i haddasu i adlewyrchu bywyd yn y gymuned sy’n ei chynnal. Am lawer o’r amser, mae’r sgrîn wedi’i rhannu drwy nifer o dempledi dynamig. Er bod fideo yn rhedeg ar y rhan fwyaf o’r sgrîn, mae blwch testun hefyd sy’n dangos gwybodaeth leol fel Dyddiadur y Ddinas.

Er mwyn galluogi’r cymysgedd cywir o gynnwys i gael ei ddangos ar y sgrîn o fewn awr, mae terfynau amser penodedig ar gyfer cynnwys ffilmiau. Yn ystod oriau brig mae angen i gynnwys yr holl ffilmiau fod rhwng 2 funud a 2 funud 30 eiliad. Yn ystod yr oriau allfrig (dydd Llun i ddydd Gwener 0915 i 1200, 1430 i 1700, 1900 i 0000, Penwythnosau 0700 i 0000) gall y cynnwys fod rhwng 30 eiliad a 7 munud 30 eiliad.

Fodd bynnag, bydd adegau pan fydd y sgriniau yn dangos rhaglenni ffilm penodol ar y penwythnos, neu ar adegau eraill, a bydd hwn yn gyfle i gynnwys darnau hirach o gynnwys o fewn yr amserlen.

Gall y BBC dderbyn deunydd sy’n addas ar gyfer pob oedran yn unig ac mae’n rhaid i’r holl waith a gyflwynir fod wedi derbyn cliriad llawn ar gyfer hawliau gan gynnwys cerddoriaeth a hawliau doniau eraill a gwmpesir.

Am wybodaeth bellach neu i gyflwyno cynnwys, cysylltwch â Stephen Morgan, Rheolwr Sgriniau BBC Cymru. 02920 322026
stephen.morgan@bbc.co.ukhttp://www.bbc.co.uk/bigscreens

Cynllun ariannu newydd y Cyngor Crefftau, 'Fifty: Fifty'

Mae'r Cyngor Crefftau newydd gyhoeddi lawns ei gynllun ariannu newydd sylweddol, y Rhaglen 'Fifty:Fifty'.

Mae'r cynllun arddangos cydweithiol hwn yn chwilio am sefydliadau i weithio gyda'r Cyngor Crefftau i ddatblygu syniadau ac arddangosfeydd heriol.

Dymuna'r Cyngor i weithio gyda galerïau a lleoliadau yn y DU i gyd-guradu a chynyrchu arddangosfeydd rhwng partneriaid. Bydd arian, syniadau ac adnoddau yn cael eu huno a'u rhannu'n gyfartal -sef 50:50. Mae'r cynllun newydd hwn yn bwriadu datblygu prosiectau newydd sydd yn cael eu cyd-ariannu gan y Cyngor Crefftau, gyda chyfanswm o £50,000 mewn cyfraniad cyfartal (dros ddwy flynedd ariannol).
Mae'r Cyngor yn chwilio am bartner sy'n medru cynnig:

  • Tîm prosiect
  • cyd-ariannu
  • lleoliad addas ar gyfer arddangos
  • rhaglen gefnogi a dysgu.

Bydd agweddau gwahanol i'r bartneriaeth yn cael eu penderfynu gyda'r dethol o bartner a'r adnoddau sydd ganddynt yn barod.

Gwahoddir sefydliadau i wneud cais i'r Cyngor Crefftau erbyn 16 o Chwefror 2009. Bydd y prosiect llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi erbyn Mawrth/Ebrill 2008. Gallwch lawr-lwytho ffurflen gais o'r wefan: www.craftscouncil.org.uk/ neu ebostiwch Charlotte Dew, Swyddog Prosiect Arddangosfeydd:

c_dew@craftscouncil.org.uk

Yn ôl i'r Dudalen Gynnwys